Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Breuddwyd

Y Brawd Du Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Yr Hedydd

Y BREUDDWYD[1]

AFLWYDDIANT AM GOLLI MORFUDD,
A ROID YN BRIOD I'R BWA BACH.

A MI neithwyr, hwyr fy hynt,
Mewn eithin rhag min noeth-wynt,
Gorweddais, hunais unawr,
Goris llwyn ar grys y llawr,
Gwelwn rhyw olwg aele,
Gwelw afon, draw gerllaw'r lle,
A'i ffrydiau fel tonnau Taf,
Oernais, yn curo arnaf,
Geirw â grym teirw i'm taraw,
Gyrr o gan-cwm, bum drwm draw.
Syrthiais yn y don serthwyllt,
Swrth gwymp i grych serth a gwyllt;
Ymdrech â'r don greulon gref,
Ymoerlais, a rhoi mawrlef;
Ymbil ar Grist, yn drist draw,
Am nwyfiant im i'w nofiaw;
Llawer a phraff y trafferth,
Lludd y nwyf, yn lladd y nerth;
Llawer claig yn yr eigion,
Llu'r geirw draw'n briwiaw'm bron.
Gwelwn ddarfod y golau,
A nos hyll arnai'n neshau;
A'r gwynt yn daer ei gyntwrdd,
A llef gerth gan y llif gwrdd.
Ar fron y don ymdynnwn,
A baich o'r dyfroedd yn bwn;
Ac o'm hanfodd yn soddi,
Y dydd oer fu'm diwedd i.
Yno'n ol deffro'n ael dydd,
O 'mhoen a gwŷn f' ymennydd,

Ystyriais, nodais yn awr
Y freuddwyd im efrwyddawr,
A gwn im gaffael o'i gwedd,
Wr annoeth, y gwirionedd.

Er canu, ac er cwynaw,
A gwanu 'mron gan 'y mraw,
Ni chaf Forfudd, Och! f'eurferch,
Na son wrth y fun fy serch.
Arall sy'n chwennych irwen,
Un cyfoethog, heiniog, hen;
A gwen a'i mynn, henddyn hyll,
Abar dwrch, a bryd erchyll.
Ac anfwyn geraint gwen-ferch
I'm lluddiaw sydd, e'm lladd serch.

Y rhain o'u bron yw'r tonnau,
A'r llif oedd drwm o'r cwm cau;
Llyma'r nofiaw fu draw'n drais,
A'r olwg oer a welais.
Nofiedydd wyf, ynfydwr,
Yn dynn yn erbyn y dŵr;
Rhodio'r wyf ffrwd yr afon,
A dyn a'i daith dan y don;
A llyma'r modd y boddaf,
Fel pai'n ffrydiau tonnau Taf.


Nodiadau

golygu
  1. Gwaith Iolo Morganwg, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A7