Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Llwyn Banadl
← Darlun—Llus ac Eithyn | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Yr Ysgyfarnog → |
- Y LLWYN BANADL[1]
Y FUN well ei llun a'i lliw
Na'r iarlles ŵn o'r eurlliw,
Gwn ddeu-chwedl, gwae na ddichon
Gael oed dydd, a gweled hon.
Nid rhydd im anturio i ddwyn
Liw dydd at leuad addwyn;
Duw ni myn, dinam wyneb,
Dwyn brad nos dan bared neb,
Nid oedd i ddiwladeidd-was
Goed i gael oed o fedw glas.
Duw i mi a'm dyn diell
A roes goed, un eurwisg well;
Gwiail cystal y gauaf
A dail hoew fel adail haf.
Gwnaf yno, i hudo hon,
Glôs o fanadl glâs-feinion,
Modd gwnaeth, saerniaeth serch,
Myrddin dŷ gwydr am ordderch;
Ar Ddyfed yr addefynt
Y bu len gêl o'r blaen gynt,
Yr awron, dan yr irwydd,
Fy llys i felly a fydd.
O daw bun i dy, y bo
Iarlles wen i'r llys yno,
Mae iddi, a mi a'i mawl,
Oes, baradwys ysbrydawl,—
Coed wedi eilio pob cainc,
Cynddail o wiail ieuainc.
Pan ddêl Mai, a'i lifrai las,
Ar irddail i roi'r urddas,
Aur a dyf ar edafedd
Ar y llwyn, er mwyn a'i medd.
Teg yw'r pren, a gwyrenig
Y tyf yr aur tew o'i frig;
Aur gawod ar y gwiail
Duw a roes, difai yw'r dail.
Bid llawen, gwen, bod llwyn gwŷdd
O baradwys i brydydd;
Blodau gorau a garwn,
Barrug haf ydyw brig hwn.
Dal y ty, a'i adeilad da,
Yr wyf o aur Arafia;
Pebyll Naf o'r ffufafen,
Brethyn aur, brith yw ei nen;
Angel mwyn yng ngwely Mai,
O baradwys, a'i brodiai;
Gwawn yn aur gwanwyn eres,
Gloyn nod Duw, gleiniau tes;
Gwynfyd mewn gwinllan bryd bron
Gael euro gwiail irion,
A'u brig yn goedwig a gaid,
Fel yn ser fwliwns euraid ;
Felly caf, fal lliw cyfan,
Flodau'r Mai fel adar mân.
Gorllwyn y llwyn a'r llannerch,
Arfer mwyn, yr wyf er merch ;
Daw f' amod, nid af ymaith
O'r llwyn fry a'r eurllen fraith ;
O chaf hyd haf, yn oed dydd,
Y dyn eurwallt dan irwydd ;
Deled, lle ni'n didolir,
Dyn fain dlos dan fanadl ir.