Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Mabolaeth
← I Forfudd, mewn Henaint | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Gyrru'r Haf i Forgannwg → |
Y MABOLAETH[1]
Y BILAIN o fabolaeth,
O Dduw, pa dremhynt a ddaeth?
Bu bwl fy ngado, bu bai,
Dywaid im na'm gadawai;
Llwyr y gwnaeth draeturiaeth dro,
Fy ngadwyll cyn fy ngado;
Unwedd a thair o gairos,
Hyd yr awr, neu hed o ros,
Ac yn y man diflannu,—
Hudoliaeth fabolaeth fu.
Tra chefais, ni fernais fai,
Dyn loew fryd, dwyn ei lifrai;
Di-eiddil a da oeddwn,
A chryf, a gorwyllt, a chrwn;
Ehud, esgud, ac ysgawn,
I ben'r allt buan yr awn;
At y bel, a phob helynt,
A rhedeg fal gwaneg gwynt;
Caru morwyn addfwyn-wych,
Er nas cawn, wron-was gwych,
Amnaid â'm llygaid yn llon,
Mor ynial ar y morwynion ;
Neidio a saethu nodyn,
Nofio'n fad llygad y llyn.
Heddyw os i riw yr af,
O arferydd, hwyr fyddaf;
Dirfawr ei son, darfu'r serch,
A mwynfawr gerdd am wenferch,
Ni chyfyd ynnof cof cerdd,
O gyngyd serch ag angerdd.
Henaint a ddaw, fal hoenyn,
A'i dwyll i efryddu dyn;
Nid ery, anwyd oeryn,
lenctyd yn ei ddylyd ddyn
Onid ennyd, lledfryd llu,
Bychan, cyn ei fwbachu.
Ei draed efryddlawn a drig,
I'w waradwydd, yn wyredig;
A'i freichiau fel ffustiau ffyn,
A gwaew ymhob giewyn;
Anaf llesg yn ei wresgyn,
A blew a gwallt yn blu gwyn;
A'i ddannedd, salwedd son,
Afluniaidd, yn felynion ;
A'i olwg, ddiwg dileall,
Druan o ddyn, a dry'n ddall;
A'r tafod, erioed difoes,
A'r en yn treulio, a'r oes.
O synnir ei asennau,
Anisglaer gyfair ei gau,
Prin yw ystod pren wystyn,
Prionach fydd diwedd dydd dyn.
Pan ddel encil, a chilio,
Y traed ni'm dygant un tro,
Lle bo'r gamfa ferra fach,
Llymsi fyddaf yn llamsach.
O Fair, er hyd ymgywairiwyf,
Ofni o ddifri ydd wyf
Mabolaeth, gelyniaeth gwr,
O'i said oll y sy dwyllwr;
Nid oes nen, er a genyw,
ddyn ond trugaredd Duw.