Gwaith Dafydd ap Gwilym/Yr Eos a'r Fran
← Y Plu Paun | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Gofyn ac Ateb → |
- YR EOS A'R FRAN.
MAWL I'R EOS, A DUCHAN I'R FRAN
AM EI GWYLLTIO,
PAN OEDD Y BARDD YN
Y LLWYN YN DISGWYL MORFUDD.
GWAE fi o gariad gwiw-fun,
Nad ytwyf yn Nghoed Eytun;
Lles nifer, ger llys nefawl,
Lle y mae galluau mawl.
Ysgyndwr maen ar gaen galch,
Ysgynfa eos geinfalch.
Ysgwyr hi, hydr yw'n gormail,
Ysgawn daith dan ysgin dail.
Main y cân prif acen prudd,
Men a threbl mwyn ei thrabludd;
Egwyddor gain firein-fyw
O gôr dail i gariad yw;
Cathl wynfyd coeth lawen-ferch
Canghen-ddring cain sawdring serch.
Prid yw ei chof gan ofydd,
Prydyddes, gwehyddes gwŷdd ;
Llon fydd yn nydd ac yn nos,
Llef ddiledlef, dda loew-dlos.
Fal yr oeddwn heb ormail,
Cwpl da, o fewn capel dail,
Yn gwrandaw rhif yn ddifreg
Offeren dan ddeilen deg,
Gan laswyr-wraig y cariad,
Ganiadau mydr-leisiau mad,
Gan eos gain ddiddos gu,
Hab y dolydd heb dalu,
Difir mewn doldir ein dau,
Mewn llwyn-gwyrdd a meillion-gae,
Nycha'r frân anwych ar frig,
Lafar, ysgyflgar, goflgig,
Yn dwyn rhuthr dan dinrhythu
I blas yr edn geinlas gu.
Daeth y fran o ryw daith fry
Amharod gerdd o'i mharu
Glew dri phwnc, nid gloyw drafferth,—
'Glaw! Glaw!' meddai'r baw o'r berth.
Llesteiriodd brif ddigrifwch,
Llaes ei phlu, a'i lleisiau fflwch;
Sef gwnaeth, deuluwriaeth dail,
Gan eos fyr ar wiail
Tristhau draw, a distawu,
Gan bres yr Iddewes ddu.
Daeth, ni bu annoeth ynnof,
Duw a'i gŵyr nad a o gof
Dychymyg bonheddig bwyll,
Rhag irdang bum ragor-dwyll;
Ffull goluddion, heb dồn deg,
Ffollach wegil-grach gulgreg.
"Edn eiddig, wyd anaddwyn,
Adref ! drwg ei llef, o'r llwyn;
Cerdda at eiddig, dy gâr,
Cyfliw mwsgl, cofi ymysgar;
Euryches yr oer ochain,
Blowman du a'i blu mewn drain."
Cefais gan lathr-las asgell,
Loew-swydd wiw, leisiau oedd well.