Gwaith Dewi Wnion/Cwynfan Y Bardd Ar Ol Ei Chwaer
← Hiraeth Y Bardd Ar Fedd Ei Gariad | Gwaith Dewi Wnion gan Dewi Wnion |
Y Pridd i’r Pridd → |
CWYNFAN' Y BARDD AR OL EI CHWAER
MESUR, — Sweet Home.
I DDYN awr ddyddanwch, dedwyddwch nid oes,
Heb awr o wylofain i’w arwain drwy’i oes,
O drallod i drallod, dan gawod o gûr,
Yn nghwpan melusdod ca’ sorod go sûr.
Chwaer ! Chwaer ! Ow fy chwaer !
’Rwy’n goddef trwm nychdod o chwithdod am chwaer.
Fy chwaer a garcharwyd, a fwriwyd i fedd,
Ow dwys drymaidd bwys, dan y gwys dỳn ei gwedd;
Ow trist feddwl trwch, am y llwch oer a llaid,
Mae hiraeth o’i herwydd'i’m beunydd heb baid.
Chwaer, Chwaer, ! Ow fy chwaer, &c.
Mae cofio preswylfod fy hynod chwaer hon,
Yn peri rhyw drymder o brudd-der i’m bron;
Ond eto ’run mynyd, i’m hysbryd mae hedd,
Pan gofiwyf y cyfyd i’r bywyd o’r bedd;
Chwaer, Chwaer, Ow! fy chwaer, &c.