Gwaith Dewi Wnion/Englynion (3)

Anerchiad i'r Gwladgarwr Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Priodas Robert Williames Vaughan, Ysw

————

YMADAWIAD DON GLAN TOWI

(JOHN WILLIAMS) O DDOLGELLAU.

O! GYFAILL, fe bâr dy gofio — yn fynych
I f'enaid och'neidio;
Hedlif o'm dagrau'n hidlo
Yn wlaw oer trist lawer tro.

————

DEILDY MR. LEWIS JONES.

Yr hwn oedd Grwynwr gynt yn Nolgellau. Yr oedd efe yn daid i'r diweddar Mr. Griffth Jones, Stag Inn, ac yn hen-daid i'r Parch. Lewis Jones, diweddar Gurad yn Nolgellau, wedi hyny Is-Canon yn Mangor, ac yn awr Ficer Cadoxton, Glynnedd.

 
CABANDY, crwndy, cywrein-dwll — tes-dŷ
Rhag toster hin boeth-fwll ;
Nawdd-dy, ac awenydd-dwll,
Oer iawn fydd hwn ar hin fwll.

————

HAF-DY LLYWELYN IDRIS.

Pan oedd y bardd uchod un un tro yn adeiladu Haf-dy yn ei ardd, ac yn ymfalchio ynddo gan addaw y byddai yn —

 
"Llwyn glwysddull yn llawn glasddail,
Gwedi ei doi gyda dail,"

Atebai Dewi -

  
Os dail i'th adail sy dô — gwylia
Fe'i gwelir yn gwywo ;
Daw gauaf llwm, trwm y tro,
Enaid ni erys yno.


Edrych, Llywelyn Idris, — edrych
Ar Hydref oer lwmfis ;
Magwyr o ddail fydd megis
Daear foel y du oer fis.

————

I OFYN AM FFON

Gan Syr Robert Williames Vaughan, Nannau, dros Evan Williams, Hen Geidwad y Ceirw yn Mharc Nannau.

BUM ieuanc, ddidranc, ar ddeudroed — curais
Eich ceirw pedwartroed;
Tramawr ddiffygiol trymoed —  
Tra dydd trwm, rhaid trydydd troed.

————

BEDDARGRAFF.

YSTYR, ddyn, was dewr ddoniau — o'r byd
I'r bedd yr ei dithau;
Dydd a nos sydd yn nesâu
Y dirwyn i fyny d'oriau.


Eto, ar Fedd JANE, gwraig Mr. Rees Parry, Crwynwr, Dolgellau, yr hon a fu farw Mehefin 17eg, 1834, yn 24 mlwydd oed, a MARGARET eu merch, yr hon a fu farw Gorphenaf 23, 1834, yn 5 mlwydd oed.

YN y gweryd hwn gorwedd — yma mae
Mam a'i merch yr un-wedd ;
Awn ninnau i'r un annedd —  
Pawb a syrth i byrth y bedd!

Eto. ar Fedd MARY, gwraig Mr. Morris Roberts Lledrwr, Dolgellau, yr hon a fu farw Medi 30ain, 1834, yn 18 mlwydd oed.

 
MARI yma a orwedd — îs dulawr
Nes delo'r rhyfedd
Y gelwir uwch ei gwael-wedd
Gair a bair aogor ei bedd.

————

LLWNC-DESTYNAU.

Englynion a adroddwyd yn Ngwleddoedd y Gymdeithas Gyfeillgar Gynnorthwyol o 1832 i 1834.


" YR EGLWYS A'R BRENIN."

I'R Eglwys gywir hyglod — ei breiniau
A'n Brenin uchel-glod,
Hedd i fyw, a llwydd i fod,
A'u buchedd yn ddibechod.


"Y BRENIN."

Nodder ein Brenin addas — yn wrawl
Flaenorydd y Deyrnas;
Llyw iawn, harddwych, llawn urddas,
Llew yn ei rym, llawn o ras.


"DAU DY Y SENEDD."

Dewr benau boed i'r bonedd — y Ddau Dŷ,
Yn ddidwyll eu hagwedd;
Iawn farn, yn gadarn eu gwedd,
A synwyr lanwo'r Senedd.


"MILWYR A MORWYR PRYDAIN".

Milwyr a morwyr fo mawrwych — gywirddysg,
Osgorddion gwrolwych
Lloegr a'i nawdd rhag llwgr a'i nych
Yn gu deyrnas gadarnwych.


"MILWYR PRYDAIN."

Parodawl fo milwyr Prydain, — ac arfog,
Os gorfydd byd milain;
Ond rhyfel aed i Rhufain -  
Cledd Lloegr caed, yn lle gwaed, gwain.


"YR HEDDYNADON."

Hynodawl heddynadon — yn gudeg,
Fo'n gedyrn enwogion,
Er cadw'n wastad y wlad hon
Yn dda achles heddychlon.


"MASNACH PRYDAIN."

Yn wych a glew masnach ein gwlad — bid a fo,
Boed fywiol ei threigliad;
Rhwydd, rhwydd, er llwydd a gwellhad,
A'i nwyddau mewn gweinyddiad.

Am wlan doed arian yn dyrau, — gwyrthiawl
Bo gwerthiad pob nwyddau,
Ychain, a phob masnachau,
A ni mewn hedd yn eu mwynhau.


"Y TANYSGRIFWYR."

Einioes gref i'n Tanysgrifwyr — hyglod,
Sy'n eglur wladgarwyr;
Mae'n barch in' gyfarch y gwŷr
Yn addas fel boneddwyr.