Gwaith Dewi Wnion/Englynion (4)

Englynion Llwnc-Destynawl Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Anerchiad I Eisteddfod Merion Calan 1880

PRIODAS

John Jones Williams, Ysw., Cyfreithiwr, a Miss Roberts, Brynffynnon, y ddau o Ddolgellau, Gorphenaf 13, 1835.

 
HEDDYW, yn ol eu haeddiant, — da mwynwych,
Dymunwn bob llwyddiant;
Dau gall o blith Dolgellau blant
Dewisawl a briodasant.

 
Siôn William, dinam bob dydd — ŵr hybarch,
A Siân Rhobert gelfydd;
Hvnaws bo'nt tra'u heinioes bydd —  
Duw, gwared eu magwyrydd!

————


BEDD EI FAM

Englyn a wnaeth tra yn sefyll wrth Fedd ei Fam yn Mynwent Llanfachreth, tua'r flwyddyn 1836.

 
Is daear er dystewi — o'th eiriau
Wryth eraill o'r Cwmni,
Deio dy fab di ydwyf fi —  
Ai tybed na'm hatebi?


————


MEURIG EBRILL A HARRI'R TEILIWR.

Yr oedd Harri yn adnabyddus iawn yn Nolgellau hanner can mlynedd yn ol. Byddai yn dra hoff o ambell i "derm," fel ei gelwid, yn awr ac eilwaith. Ond yn nechreuad Dirwest, fe ymunodd yntau â'r gymdeithas am dymhor; ond aeth ei hen brofedigaeth yn rhy gref iddo drachefn, a phan dorodd ei ymrwymiad, cyfansoddodd Meurig Ebrill yr Englyn canlynol iddo, —

 
HARRI'R TEILIWR, hurt olwg, — a bechodd
Heb achos, mae'n amlwg;
Ni welodd yn ei alwg*
Fawr gysur wrth drechu'r drwg.
*fynwes


Atebwyd ef gan Dewi fel y canlyn, —


 
Meurig, paham ymyri — am ddugas
Ymddygiad mor ddifri'?
Cael mwynder yn d'arfer di,
Annoeth ŵr, a wnaeth Harri.

 
Crefyddwr, tra ceir e'i feddwi — i eraill
Mae'n arogl o ddrewi;
Y brawd dwl, pe sobrit, ti,
Hwyrach y sobrai Harri.


————


DIRWEST.

Ar ddiwedd araeth danbaid yn nghanol gwres y cynhwrf dirwestol, adroddodd Dewi y ddau Englyn canlynol.


 
YN hyll o ferw llafuriais — yn feddw,
Ond rhyw fodd ymgodais;
Rhag medd'dod, drewdod, a'i drais,
O'i ddu ing mi ddiengais.
 
A dirwest, frenin dewredd — doeth, hybarch,
Daeth heibio im' hannedd;
Ymunais â'r gŵr mwynwedd —  
Hwn im' mwy o hyn i'm medd!


————


Y DDAU SAER, A'R DDWY SARAH


Pan oedd Dewi Wnion yn ymgyfeillachu Sarah (ei wraig wedi hyny), yr oedd y diweddar Mr. William Jones, Maescaled, yn ymgyfeillachu gyda'i Sarah yntau; a mynych y byddai y ddau yn cydgyfarfod wrth rodiana yn min yr hwyr; ac ebe Dewi, un noson, —  


 
RHAI dynion sy'n rhodian — min yr hwyr
Myn y rhai'n chwedleua;
Y ddau Saer, a'r ddwy Sarah -  
Dwy Sarah deg, a dau Saer da.

————

BEDDARGRAFF


Y diweddar Mr. John Evans, Asiedydd (Joiner), Dolgellau, yr hwn a fu farw Rhagfyr 30, 1837, yn 32 mlwydd oed.

 
Dirwestwr oedd, mae'n'n dristwch — ei osod
Mewn isel dawelwch;
Er am dro falurio'i lwch,
E ddaw eilwaith o ddulwch.


————


"YR HEN DY DU."

Fel yr awgrymwyd eisioes, yr oedd Dewi yn Fethodist zelog iawn, ac yr oedd Mrs. Thomas, yr adeg y priodasant, yn Annibynwraig yr un mor zelog. Er mwyn dal y ddysgl yn wastad," y cytundeb y deuwyd iddo oedd eu bod i fyned gyda'u gilydd i gapel yr Annibynwyr a chapel y Methodistiaid bob yn ail Sul; ac fe barhaodd y cytundeb mewn grym am yspaid. Ond un Sabbbath, yr oedd y Parch. L. Edwards O'r Bala (Dr. Edwards yn awr) yn pregethu yn Salem, Capel y Methodistiaid, a'r hen gymeriad hynod, Richard Jones, Llwyngwril ("Dic TY Du," fel y gelwid ef fynychaf yn mysg ei gydnabod), yn pregethu yn Nghapel yr Annibynwyr. Yr oedd Dewi mewn penbleth enbyd, rhwng ei awydd i wrandaw Mr. Edwards, a'i awydd i osgoi cynnyg tori y cytundeb. Wrth fyned adref i Ddoluwcheogryd o'r Ysgol foreu y Sabboth, fe gyfansoddodd Dewi yr englyn canlynol, a mawr oedd y digrifwch a gafwyd gydag ef y prydnawn hwnw; ond y canlyniad ydoedd i Mrs. Thomas ei dynu o'i gyfyngder, a myned gydag ef i '"Salem." Y mae hyn o eglurhad yn ofynol, er gweled grym yr Englyn, ac mai nid o ddiystyrwch ar yr hen bregethwr dyddan y cyfansoddwyd ef; ac yn wir ni chwarddodd neb yn fwy nag ef pan yr adroddwyd yr englyn iddo, ac ysgydwai ei ben, gan, ddyweyd, "O y 'ddhen ddôg, mi dala' i iddo fo ddyw ddiwddnod!"


Sarah wen, gain, fy seren gu, — yn Salem
Mae sylwedd pregethu;
Na foed i ti ynfydu
Wrando dawn yr " Hen Dŷ Du."

————


BEDDARGRAFF JOHN PUGH, YSW.,

(IEUAN AWST), yr hwn oedd yn Fardd, Llenor, Chyfreithiwr medrus. Bu yn Ysgrifenydd Cyfreithiol Ynadon Dolgellau am dros 30ain o flynyddoedd. Bu farw Chwefror 16eg, 1839, yn 51 mlwydd oed.


Ow! Ieuan Awst, ai 'r un wedd — a'r annoeth
Mae'r enwog, mewn llygredd?
Wele'n awr gawr yn gorwedd,
Mawr ei bwyll, rhwng muriau bedd!

Ffrwd ydoedd o amgyffrediau — cryf,
Wr craff ei feddyliau ;
Er corphyn o briddyn brau,
Môr o ddyn, mawr ei ddoniau!


————


AR FEDD MR. HUGH PUGH, Y TELYNOR.

Mab ieuangaf y diweddar Mr Richard Pugh, Arweinydd i Ben Cadair Idris, oedd y gwr ieuanc uchod. Yr oedd yn Chwareuwr medrus ar y Delyn Gymreig. Bu farw yn Llundain yn 28ain oed, a chladdwyd ef yn Mynwent Bunhill Fields. Cyfodwyd Cofadail ar ei Fedd gan Foneddigion o Gymru, ac y mae yr Englyn canlynol o waith Dewi, yn mhlith eraill: yn gerfiedig arni.

 
Talent fel teimlydd telyn, — i'w gofo
A gafodd yn blentyn;
Mae'r bysedd hoywedd, er hyn,
Ffraeth ranau, heb ffrwyth ronyn.


————


AR FEDD MR HUMPHREY WILLIAMS. Mab hynaf y diweddar J. Jones Williams, Ysw. ,Cyfreithiwr, Dolgellau, oedd efe. Bu farw tra yn Efrydydd Meddygol yn Llundain, a chladdwyd ef yn Mynwent Bunhill Fields,


  
Torwyd yr impyn tirion,
I lawer mae'n brudd-der bron;
Y mae arwydd yn Meirion,
Gwall y tir yw'r golled hon;
O! fedd, mae'n drwm i ni fod
Ein Williams yn dy waelod.


————


COFGOLOFN DAFYDD IONAWR.


Adeiladwyd y gofgolofn uchod ar Fedd yr hen "Fardd Cristionogol" ar draul y diweddar Barch. John Jones, Borthwnog. Cynnygiodd y diweddar Mr. R. O. Rees wobr am yr Englyn goreu i'w gerfio arni. Daeth nifer anferth o Englynion i law y beirniad, yr hwn a ddewisodd chwech o honynt fel y goreuon, gan eu rhestru yn gyfartal. Yr oedd yr Englyn isod o waith Dewi yn un o'r chwech.


 
O dan hon mae dyn hynod! — pa orchest
Y w parchu ei feddrod!
O achos yr enw uchod
E fyn barch er a fo'n bod!

————


CLADDEDIGAETH MEURIG EBRILL.

Wrth edrych ar gladdu Meurig Ebrill yn Mynwent Llanfachreth, cyfansoddodd Dewi Wnion ddau Englyn. Y mae y cyntaf ar goll, ond yr ail sydd fel y canlyn, —


  
Ei adael yn glöedig — a wnawn ni
Dan ywen gauadfrig;
Onid trwm mai yna y trig
Rhan farwol yr "Hen Feurig!"


————


DAU ENGLYN

A wnaed wrth gychwyn o'r Bala, ar noson dywell, ddryghinog, ar gefn march glas o'r enw Selim.


HAI'r glas bach, bellach i bant — â nyni,
Mae 'n anhawdd cael seibiant;
'Rwy' 'n siwr nad oes gŵr o gant
Eleni a'n canlynant.

Selim, ni cheir bisweilio, — na chwareu,
Mae'n chwerwedd hin heno;
Llawen farch, i'r Llwyn a fo,
A Selim ga noswylio.


————


DIOLCHGARWCH AM FENTHYG CERBYD.

Anfonwyd yr Englynion canlynol i'r diweddar Mr. Griffth Jones, Ty'nycelyn, Dinas Mawddwy, am ei garedigrwydd yn benthyca ei gerbyd i'r Bardd.


Y GŴR goreu geir uwch gweryd — ydych,
Am adael eich cerbyd
I drosi Bardd draws y byd,
A'i iach eilwaith ddychwelyd.

 
Diau eglur yw mai dioglyd, — a hen
Erbyn hyn wyf hefyd;
Hen a gwan — er hyn i gyd
Carbwl nid wyf mewn cerbyd.

Du oernych pan y daw arnaf, — atoch
Etto y cyfeiriaf;
Yn Nhy'n y Celyn, coeliaf,
Unrhyw bryd, a'r cerbyd caf.

Chwareu b'och plant a'ch wyrion, — cu, iesin,
Er cysur i'ch calon,
Oll o'ch deulu yn llu llon,
Dyna ddymuniad WNION.


————


Adroddwyd yr Englyn canlynol gan Dewi yn "Eisteddfod Meirion," Dolgellau, 1870.

 
IDRIS a wnaeth wrhydri — un o'i fath
Ni fu yn nhre'r Celli; *
Bardd, Cerddor, yn rhagori
Ar feirdd llon Meirion, a mi.

* Dolgellau


————


ANERCHIAD,

I T. H. WILLIAMS, Ysw., Llwyn, ar ddiwrnod pen ei flwydd, Gorphenaf 30, 1871.

 
I DROEDIO cawsoch dri-deg¸ — hoff ŵr
A phump yn ychwaneg ;
A choder eto chwe-deg,
Hynaws daith, i'ch einioes deg.

————


ATEBIAD DEWI

Pan ofynwyd iddo gan Wraig o Lanfachreth, yn 1877 sut yr oedd efe.


 
'RWY'N gloff, ac nid hoff yw hyn, — mew henaint,
A'm heinioes ar derfyn ,
Nid ydwyf onid adyn
Sal a dwl, îs sylw dyn'.


————


PRIODAS Y BARDD.

Englynion ar briodas Mr. John Jones, Ty'nybraich (y Bardd), a Miss Sarah Evans, Llwynygrug, y ddau yn mhlwyf Mallwyd.


PRIODI a fynai 'r Prydydd — â meinir,
Er mwyned awenydd;
Wel, caffed Siôn, radlon, rydd,
Ei gu Efa'n wraig ufudd.
 
Bob dydd yn ddedwydd bo'r ddau — a'u bwriad
Yn buraidd hyd angau,
A nodwedd eu heneidiau —  
Dan yr Iôn yn dwyn yr iau.


————


TROEDIO BWYELL I MR. J. JONES, TY'NYBRAICH.


DRUD yw hwn, ond mae'n droed hardd — o ddwylaw
Rhyw ddilun hen grachfardd;
Er egwan, beth mor hygar,
Ddiwall, a bwyall y Bardd!

————


DIOLCHGARWCH AM WYDD

A gafwyd yn anrheg yn Ngwyliau y Nadolig.


 
Un go lew ydyw Dewi — i'w gofio,
Fe gafodd gan Sali
Ddianaf Wydd dda ini —  
Gwna hon yn awr ginio i ni.

Mae rhoddion y rhynion ar ol — eto
Yn attal yn hollol
Ini ginio digonol —  
A llawn byd, a llenwi bol.


————


TAITH I TY'NYBRAICH.


 
I DY'NYBRAICH ce's dynu brwd, — a chwysu
Achosodd gryn ffrwgwd;
Draws cae, mewn ffrae a dwy ffrwd,
Ac i arw-gi rhoi hergwd.


————


CAIS AM GAEL TORI EI WALLT.


Englyn a wnaeth y Bardd i'r diweddar Mr. Robert Evans, Llwynygrug, i ofyn iddo am dori ei wallt. Yr oedd R. Evans yn cryf a heinyf anarferol.


  
Y GWALLTIWR a'r 'menydd gwylltiog — gwan wyf,
A gneifi di 'mhenglog?
Ac i Robyn, ŵr cribog, y talaf,
Neu dda addawaf, oni bydd ddiog!

————

EVAN DEULWYN JONES.

Englyn a wnaed, rhwng cwsg ac effro, i blentyn a elwid ar yr enw uchod gan y Bardd,


 
DEULWYN sy fachgen dilwfr — o anian,
A hynaws a didwrf;
Da, gonest, a digynhwrf,
Ca fyd da, ac yfed dwfr.


Eto i'r un Plentyn yn dair blwydd oed, pryd y cymerwyd ef ymaith yn sydyn oddiwrth ei "Daid," Dewi Wnion.


 
Fe allai fod ein cyfeillach — yn darfod,
Ac ar derfyn bellach;
Ni welwyd dy anwylach —  
Ffarwel iti, Bwti bach!


————


TAFOLOG A GRAIENYN

 
TAFOLOG, oediog awdwr, — a godwyd
I gadair y Barnwr;
Iddo boed, fel llenyddwr,
Rad a dawn tra rhedo dw'r.


————


 
GRAIENYN a'i awen gryno — ini
A rydd anerch eto
Rhaid yw cael, pryd yw coelio,
Gawr o fardd i'w guro fo.
Calan, 1880.