Gwaith Dewi Wnion/Pennillion Dirwestol
← Rhybudd i Gigyddion | Gwaith Dewi Wnion gan Dewi Wnion |
Pennill Saesoneg Byrfyfyr → |
PENNILLION DIRWESTOL
HEN elyn Prydain cyn bo hir
A gludir tan ei glwy';
Bydd concwest fawr yn awr i ni,
Fe dderfydd meddwi mwy.
I'n gwlad yn bwn bu hwn yn hir,
Yn toi ein tir mewn twyll;
Dwg Dirwest gannoedd yn ei gôl,
A 'u penau'n ol i'w pwyll.
Ymunwn oll am hyny'n awr
Yn dyrfa fawr o'i du;
Yn Wraidd oll, pwy'n awr a ddaw
Yn llaw-yn-llaw â'r llu.
—————————————
Arglwydd cynnal, dal dy deulu
Oll i fyny er dy fawl
Rhag camdreulder cymedroldeb
Rhwym eu hundeb yn dy hawl:
Dal a dilyn rhag hudoliaeth
Swn y bariaeth sy 'n y byd,
Wrthi 'n bur rho nerth i bara
Yn y tònau garwa'i gyd.
————
Dowch wŷr a gwragedd gyda'ch plant,
Mae llwyddiant mwy gerllaw,
Anneddau Dirwest, tawel hwy,
Heb ryfel mwy na braw.
Gwyr ieuainc a gwyryfon llon
Un galon dewch i gyd
Er ymlid medd'dod, gormod gwarth,
O bob rhyw barth o'r byd.
Pob cryf a gwan, pob oedran byw,
Yn enw Duw oll dowch;
O ffyrdd y meddwon, geirwon, gau,
A'u ffaidd lwybrau ffowch.
————
Y gareg lefn o'r gôd
I dalcen' medd'dod mawr,
Trwy nerth ein Duw, er maint ein pla,
Daw pen Goliah i lawr.