Gwaith Dewi Wyn/Arwyrain Amaethyddiaeth

Molawd Ynys Prydain V Gwaith Dewi Wyn

gan Dafydd Owen (Dewi Wyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Awdl Elusengarwch


ARWYRAIN AMAETHYDDIAETH.

"A'r Arglwydd Dduw a gymerodd y dyn, ac a'i gosododd ef yn ngardd
Eden, i'w llafurio ac i'w chadw hi."—MOSES
Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y
Brenin yn byw."—SOLOMON


Ni chydfydd Awenydd wâr,
A dynion dybryd anwar:
Dygymydd Duw ag Emyn,
O Awen dda a wna ddyn,
Cân ddifai i rai a roes
Ennill tragwyddol einioes."
—GORONWY


Cyfoeth yr Awen.

ARO AWEN, drylen draeth,
Trwy wyddiant Daearyddiaeth;
O am ddawn i ffreuaw 'n ffraeth—gyfansawdd,
A dull i adrawdd Diwylliodraeth.

Daear afluniaidd a gwag.
Efryd ar drin daear deg,
Hynafiaeth hon i ofeg;
Diweddar cadd o'r dyddim,
Ei chreu, a'i dechreu o'r dim:
Yr ail dydd, pa ddefnydd yw?
Adail anorffen ydyw:
Ni wêl un angel, na neb,
Un eginyn o'i gwyneb;
Rhyfedd iawn!
Rhyfedd an nhrefn,
Edrych mal tŷ heb ddodrefn;
Byd fu oll yspaid felly,
Heb na phren, dyn byw, na phry'.

"Bydded."

Y ddaear fu'n aflun noeth,
O dirioned oedd drannoeth!
Yn drafflith i'r gwlith, mor glau,
Ganwyd afrif eginau!

Lliosog caid llysiau cu,
Coed heirddion yn cyd darddu;
Myrddiwn a mwy o irddail,
Daear oedd yn dwrr o ddail.
Pob lliw a rhith dewfrith dw'
Oedd bêr newydd eu bwrw;
Llygaid seraff cannaid cu,
Syw ar hon yn serenu!

Ebrwydd dw' o bridd daear,
Cyn bod gwaith, gwrtaith, nac âr;
Rhyngodd bodd i'r gair BYDDED
Amlhau perlysiau ar led,
Aneirif brennau araul,
Cyn bod trefn y rhod na'r haul.

Y pedwerydd dydd doddyw,
Haul, lloer, sêr, llu awyr syw,
Pwysiau cwmpas awyr,
Di rif i'w gweled yr hwyr:
Goruwch daear lachar lu,
Un ogylch ni wna wgu;
Anfon iddi 'n feunyddiawl,
Groesaw gwych eu gwres a'u gwawl.

Cysgodau y prennau prid,
Un foddion a ganfyddid,
A'r afalau, crwybrau crog,
Aur ddysglau ar wydd osglog.

A'r Naf alwodd yr anifeiliaid,
Rhai gwâr a dewrion; pob rhyw gre'duriaid,
Wrth eu rhywogaeth; odiaeth ehediaid,
Llu miwail ysgawn; a'r holl ymlusgiaid,
A da iawn a diniwaid—oll oeddynt,
Di boen y dygynt hadau bendigaid.


Yna'r Duw uniawn er daioni,
Adda a luniawdd, o'i haelioni,
Ar ei lun ei hun yn lân heini;
Yma y rhoed ef mewn mawrhydi
Yn flaenrhed i'w rhifedi,—megidydd,
Neu areilydd i'w hiawn reoli.

Gardd Eden.

A'r Iôn a blannodd o brennau bloenawl,
Yn nwyrain Eden, ardd orhynodawl,
I ddwyn aeron, neu addon rhinweddawl;
Heb ddim ffrwythau, na hadau niweidiawl;
Dygodd yr enwedigawl—ddyn yno,
I lafurio'r Baradwys lifeiriawl.

Pob rhyw fywiolion, dofion y dyfynt,
I'w wydd ar frys, dan wŷs y dynesynt;
Acw yn wiriawn, y cyniweirynt;
Hynod mor addwyn o dymer oeddynt;
Addaf rôi enwau iddynt—priodawl,
Yn wahanawli bob un o honynt.

Y dyn gwridawg, dien greadur,
A'i wraig a gawsai er gwiw gysur,
Yn byw yn Eden, yn benadur,
Aml yw ei ofal am ei lafur;

I bob rhan o'r berllan bur,—y rhodiant,
Arab olygant ar y blagur.
Heirdd afallenau'r ardd feillionog,
Yn dwyn tlysau ydynt liosog,
A'r addfed ffrwyth, crwmlwyth crog—yn gniwiau,
Ar ganghennau y delwau deiliog.

Telediw yw ffriw y ffrwyth,
Gan berlau boglynau gwlith,

Aroglber felusber lwyth;
Mêl pur ar y blagur blith.

Gwypai, deallai y diwyllydd,
Amser addon, addfedion fwydydd;
Ac ar iawn gynnull grawn y gwinwydd.
Meithrin hadau hoff rithau'r ffrwythydd,
A'i ddyled fal Addolydd—i ei Naf,
Wedi cynhaeaf wneyd cân newydd.

Addaf mewn dedwyddyd,—ai ni roddodd
Nêr iddo seguryd?
Wi! Ai garddwr wy'n gwrddyd,
Yn Eden yn berchen byd?

Dynoliaeth Eden wiwlon,—delw Duw
Wele dan ei choron,
Ni bu ry hardd mewn bri hon
I weithiaw fel Amaethon.

"Melldigedig fydd y ddaear o'th achos di."

Llywiawdwr pob llu ydyw,
Gwr dros ei Greawdwr yw;
Ba aflwydd, f'Arglwydd, a fu,
I'r dewr swyddwr droseddu?
Gyrrwyd o'r ardd ragorol,
Gan Dduw nef, ac ni dd'ai'n ol.
Gwinwydd fyddent yn gwenu,
Yn gwywo 'u dail gan ŵg du;
Ednod nef cydlef eu cân,
Ar irwydd yn rhyw eran;
Ar bur wawr yr wybr eres,
Pa ryw ddull prudd a lliw prês?
Yma anian am ennyd,
Aeth i argyllaeth i gyd.


Brychodd hoff gynnyrch y llennyrch llawnion,
Ebrwydded darfu pob irwydd tirfion;
Ad-dyfodd llysiau a sawriau surion,
Yr ysgall ydynt,—pob rhyw hesg llwydion,
Lle yr oedd balm a phren almon—edrych
Meryw a bresych, a mwyar breision.

Dwyn dail marwol danadl a mieri,
Pob grawn gwylltion yn drawsion, a d'rysi;
Yn lle balalwyf, mewn lle bu lili,
Abrwysgl anial wigau, a brysglwyni,
O fewn y rhain fwy na rhi'—wiberod,
Pob rhyw wylltfilod hynod i'w henwi.

Lliaws cain hynaws cyn hyn, —o dda
A roed i Adda ar ei dyddyn,
Yma wele pob milyn—a aeth
I ddynoliaeth heddyw yn elyn.
A gwŷn newyn, gan awydd,
Rheibiant a rhwygant yn rhydd;
Yn lle llysiau blodau blydd,—goddifa,
Llewa eu gwala oll o'u gilydd.

Adda yn udd aneiddil,
A fu yn maethu pob mil;
Wedi hyn o gnawd ei hil,—aml yma,
Bu westfa pob bwystfil.
Ond er cynddrwg y gwg oll,
Wedi'r anffawd ar un ffull,
Nid aeth dyn gwedyn yn goll,
O nawdd Ion:—ar newydd ddull.

Adda'n llafurwr.

Dacw Addaf, gyntaf gwr,
Yn fore yn llafurwr;
Deol surwellt y felldith,
Cloddio a cheibio sy chwith;

Ei wisg datoda 'n esgud,
I'w law mae arf a darf dud;
Mewn bwriad mynnu bara,
Yn lluniaeth, o doraeth da;
Dacw'r chwys, megys gwlith mân,
Ar ei brudd ddwyrudd eirian;

Bendith Duw ar lafur.

Duw Ior nef o'i dirion nawdd,
Ei orchwyl a gynhyrchawdd;
Gwelaf ar y ddaear ddu,
Meillion gwynion yn gwenu;
A blodau almonau mad,
Pob brig ar defig dyfiad.
Ar hyn pob edyn o'i big,
Sy 'n trydar swn troedig,
Rhyw ddeg can mil o'r sil sydd
Organau ar y gwinwydd;
Gan eu bywiog serchog sain
Llyma f' ednyw yn llemain.

Dofi creaduriaid.

Ydd Ior a wareiddiodd i ryw raddau,
Rai cre'duriaid o'r euraid ryw orau;
Neud rhoi rheol, i'w nawter, a'u rhywiau,
I ddyn yn weision addwyn eu nawsiau,
Dacw y milod, ewigod, camelau,
Y meirch a'r ychen mawrwych o'r achau;
Biw, behemothiaid, bob mathau—'n llonydd,
Hyd y maesydd diniwaid eu moesau.

Rhai mwy difiawg efrawg ac afrwydd,
Wedi'r newidiad i'r annedwydd,
Ddiffaith goll gyfraith, a gwallgofrwydd
Er eu dyhired, mwy'r deheurwydd,

A'r grym yn gyflym i'w gwydd—sydd gennym
I ffrwyno awgrym eu ffyrnigrwydd.

Cyn y Diluw.

Y cynddiluwiaid cain dda lewyrch,
Ar winllanoedd y rhai'n a'u llennyrch,
Ewybr y caent wobr eu cyrch,—grawn a medd
Bu digonedd o bob adgynnyrch.

Llacw hiroesawl, dra gwrawl gawri,
Hoew cyfodant, i hau ac i fedi,
Planynt, cain adeilynt cyn y dyli';
Ond Ow i'r genedl fyw mewn drygioni!
Pob llygredd, drawsedd di ri'—Duw ddigiawdd,
A rhybuddiawdd y rhoi ddwr i'w boddi.

Y prif gyffrolif ffreulyd,
Dad—drodd, cybolodd y byd;
Y cwbl aeth yn draeth di drefn,
Ar ei ddodrefn, oer ddedryd.

Trem newydd;—trwm i Noah,
Lle ceid pob fflwch degwch da;
Nid oes heddyw ddim byw'n bod,
Trwb waelod ond trybola.

Gwasgaredig ysgrudoedd,
Pwdrgnawd; pob drewdawd budr oedd;
Dim glaswellt ar bellt y byd,
I gyd annhebyg ydoedd.

Ail ddechreu.

Prysura Noah o newydd—allan
I ddiwylliaw'r meusydd,
Mwch y dyrch cynnyrch gwinwydd,
A bara i'w fwyta fydd.

Wel yn wir er boddi'r byd,
Ni foddodd y gelfyddyd,

Ardderchogion gyffion gynt,
Amaethyddion mwyth oeddynt;
Cain seddau cynoesyddion
Caf wychr hwy cyfochr a hon.
Hoffai yr hen Achenedd,
Hon uwchlaw bwa na chledd;
Dua Sinar a Haran,
Yn fwy fwy o fan i fan;
Apis fu'n dewis ei dir,
Yn meusydd ffrwythlon Misir.
Tra thelediw a diwyd,
Llwyddiant a gawsant i gyd;
Amledd, digonedd a gaid,
Doraeth, a chreaduriaid;
Y ddaear ddu a'i llu llwyd,
Yn firain a adferwyd.

Hen Genhedloedd Amaeth.

Bu yr hen weision bore yn Asia,
Hynod dreiglyddion trin tir a gwledda;
Bu cu'r mannoedd,—Diarbec, Armenia,
Gilead, Saron, gwaelod Asyria.

Wele ogylch y byd i'w olygu,
A'i bauau meithion heb eu hamaethu,
Dacw'r hen Gelliaid cywrain a'u gallu,
Rhufeiniaid, Groegiaid, yn digaregu;
Chwysant, blinant, wrth blannu—pob cyrion,
Hyd for Gwerddon mae dyfrhau ac arddu.

Llafurwyr mwya; pybyr meib Babel,
Ymdaenasant i Midia yn isel;
Cadd Heber wastadedd, tuedd tawel,
Mannoedd iachus a mynyddau uchel,
O wlith mân, O lwythau mêl,—ddanteithion,
Sy uwch Hermon, Libanus, a Charmel!

Trwy holl Asia, tyrau a llysedd,
Pob dôl addien, yn Eden adwedd,
Dyrchwyd Eidal, benial ei banedd,
Paradwys Ewrop brydus aurwedd;
A Phrydain gywrain deg wedd,—bob goror,
I'r rhain yn eisor, hen iawn oesedd.

Ymdeithiasant, treuliasant arloesi,
O bau Ararat heibio i'r Eryri;
Dacw lîn Madawg hylaw yn medi,
Llawr ydd Americ lle'r oedd mwyari,
Mesurant diroedd Missouri:—pwy ddyrch,
I roi ail gynnyrch i'r Alegani?

Deuai'n gynharol dan Agenoria,
Tlysau ac aeron mwynion Pomona,
Nefol ddanteithion, breision Ambrosia,
Ni bu cynhilwch yn Bacchanalia,
Bacchus, Ceres dduwies dda,—i'w mygredd,
Bu wiw orfoledd yn Ambarvalia.

Newid wyneb daear.

Trwy wraidd orchwyl, neud tra ardderchog
Mae'r newidiadau mawrion odidog;
Troi diffaeth ffiniau yn barthau berthog;
Yn lle clogyrnau creigiau cerygog,
Dwyn seddau cywrain, dinasoedd caerog,
Tyrau, adeiladau tra dyledog;
Praff yw'r ddylanwad, prif ffyrdd olwynog:
Troi y gwaelodion, a'r tir goleidiog,
Yn feusydd, a pherthlenydd ffrwythlonog;
Dwyn hafaidd lwythau trwythau toreithiog,
Cau'r anialwch cornelog,—yn froydd;
Dwyn gwneyd gwledydd dan gnydau goludog,

Gwrteithio a threulio o athrylith,
Eneinio clwyfau rhyfolltau'r felldith:

Cawn ail gynnyrch, gwin, olew, a gwenith,
Pob grawn addfed, agored, digyrith;
A pherlysiau blodau blith;—daear gron,
Meillion o'i dwyfron, a mill yn dewfrith.

Y prif ffrwythau.

Gardd Babel uchel lachar,—y triniad
Tirionaf o'r ddaear,
Canan a'i llifon cynnar,
Mêl a llaeth helaeth o'i hâr.

Draw mor brid amldra mawr brew,
Dwg aloes, ŷd, ac olew;
lë'r pabi a'r pubyr,
Casia, y manna, a myrr:

Mawr-wyrth orebyrth Arabia,—a phêr
Gyffyrion dwy India:
Y gensen a'r ddeilen dda,
Hwn sy bur yn Siberia;
Cheir braidd mo'i wraidd am ruddaur;
Be' sy' well na 'i bwys o aur?

Llawn yw'r ddaear o'i lliwgar elleigiau,
O gŵyr, o felwn, ac aur—afalau;
Gwiw aeron, enaint, ïe, gronynau;
Myrtwydd, pêr resinwydd, pob rhosynau.
Y môl iach nôdd, mêl a chnau,—meddygol
I bob angeuol wahanol heiniau.

Llyma brif ddoniau Prifon,
Dawn aruwch doniau yr Iôn;
Pen gorchwyl pob hoengyrchion,—eu duwies,
A eu hunbenes hen a'u banon.

Amaethwyr Enwog.

Amaeth yn nghwmniaeth
Naf Hyd ei ddydd ydoedd Addaf,

Rhifant yn arddwr hefyd,
Cain ei fab yn y cyn fyd;
Noah tad y byd newydd,
Amaeth oedd ef, mwyth i'w ddydd:
Selyf, Uzzia eilwaith,
Hoff gynt oedd ganddynt eu gwaith;
E fu i'r rhain, ddirfawr ri,
Winllannoedd a pherllenni;
Ow! nad yw'n awr in' dan nyf,
Lysieulen oleu Selyf.

Pwysigrwydd Amaethyddiaeth.

Ofer dwyn hanner henwau—'r llafurwyr,
Holl fawrion bendodau;
Heb hon ni chawsai doniau,
Na byd ond byr hyd barhau.

Peryfiad pob prif waith,—canol y pwynt,
Yn cynnal pob mawrwaith;
Por a phaladr praff eilwaith,
Olwyn i gychwyn pob gwaith.
Yr holl swyddau ereill suddent,
Y gwybodau gwiw a beidient,
Olli angof ymollyngent,
Heb Amaethad bawb y methent.

Morwynion Amaethyddiaeth.—
Fferylliaeth, Dyfais, Llongwriaeth.

Y bedysawd, ei haddawd a'i heiddi;
Priod aelod o hon pob rhyw deli;
Mirain weinyddion, morwynion iddi;
Y gweithiau hynod yw ei gwytheni,
Carenydd yn coroni,—ei harddwch;
Uchafu i thegwch a'i chyfoethogi.

Ychain a meirch chwai i'n mysg,
Yr arddwr, porthwr a'u pêsg;

Drwy Fferylliaeth y daeth dysg,
I arbed lludded dyn llesg.

Fwyned y ceir elfennau,
Yn weithwyr pybyr i'n pau;
Un i yrru un arall,
A'r naill yn dirwyn y llall;
Dŵr a gwynt i droi a gwau
Olwynion a melinau;
Ategir hwynt i'w gwarhau,
A rhoir offer a rhaffau,
Tynnant codant mwy cedyrn,
Naw mwy rhyw chwai na meirch chwyrn;
Ac wythwell maent yn gweithiaw,
Prysurach llyfnach na llaw;—gweis diflin,
I drin eithin, dyrnu, a nithiaw.

Drwy holl angorawl draul Llongwriaeth,
Dewr ei mawrhydri am Herodraeth;
Yn drymion enydau yr
Amaeth,—o'r tir,
Uwch dŵr a gludir wech dreigladaeth.

Diamgen helynt, mae gynaliaeth,
Byd da'n hilio, bywyd dynoliaeth;
Ieuaint a henaint, di wahaniaeth,
Dir a ddiwellir drwy ddiwylliaeth;
Huliodd ein byrddau'n helaeth,—mor faethlon
Yw ei chynhyrchion, iach i'n harchwaeth.

Hen Amaethwyr Prydain.

Yn Mrydain firain yn forau,
Bu'r amaethwyr bêr eu moethau,
Cyn dylwythog genedlaethau,
O Omer oeddynt, mawr raddau.
Hu Gadarn, udd y giwdawd,
A'u dug yn ddi ffug i ffawd;

Prydain oll i'w arfolli,
Amor hawdd, i'w wahawdd, wi!
Gwenodd, ymgynhesodd hi,
Oblegid ei phoblogi;
Oll ar waith diwyllio'r wig
Yn Mrydain mae aredig;
Caffael pêr frasder ar frys
O flaenion y Fêl Ynys;
Canol haf eu cyn wyl hen,
Oedd eu cred yn nawdd C'ridwen.

Ymlid a wnaed pob milod niweidiol,
Pryfaid ffyrnig, gwenwynig anianol;
Magu'n lliosog, rhai amgen llesol,
Dof a noddi pob rhyw defnyddiol.

Llwynau fu eirwon oll yn fwyari,
Yn ddaear lysiawl, newydd arloesi;
Tarddai'n hawddgar yr heiniar o honi;
Eden ffriwlas, gwiw urddas ei gerddi,
Bwriai llawnion berllenni—felysion
Felynion aeron, 'falau'n aneiri'.

Troi tud corsog, oer, brwynog, a'r bryniau,
A phlanwydd tirfion, yn wychron ochrau;
Dreiniog, rygog, hen grugau,—i ddwyn ffrwyth,
Bwrw rhywiawg-lwyth o ber-aroglau.

Diwylliaeth yn mynd wellwell,
Gwerthfawr heiniar cynnar Coll;
Pob aeron, meillion, a mill,
Yn llwyn o'r naill ben i'r llall.

Tirion famaeth, d'ai bradwriaeth,
Hyf luyddiaeth i'w haflwyddaw;
Gan ryfelaeth, cadd gwybodaeth,
Amaethyddiaeth, ei maith huddaw.


Drachefn da'r drefn, wedi'r drwg,
Daeth diwylliaeth o d'w'llwg;
Bugail, anifail un wedd,
Ymborthant, ac mae berthedd.

Pawb yma sy'n wychion, pob masnachaeth,
Bydol lywiawdwyr, pob adeiladaeth,
Ynt heirdd oll trwy ddiwylliaeth;—i'n dyddiau,
Yn ei cherbydau, nycha'r wybodaeth.

Teyrnas cymdeithas doethion,—a'u conedd:
Yw cynnyrch amaethon;
Dugiaid a dyledogion,
Oll yw heirdd gyn-llywiau hon.

A'u gwiwglod briod wobrwyau,
Iawn y gweithiant anogaethau,
Bywiog reddyf, yn mhob graddau,
I ymgyrraedd am y gorau.

Ymryson am goron magwraeth,
Cnydau daear-gnau, ydau odiaeth;
Tra mawrygu trem a rhywogaeth,
Moddion da i wella diwylliaeth.

Newid gwyneb Cymru.

Cydoeswyr in' caed eisiwys
Drwy'n gwlad a deffroad ffrwys;
Argauir pob tir teryll
Teg arddir y gwaendir gwyllt;
Pob bre, pob ceimle cwmlyd,
A wnair i ddwyn gwair ac yd;
Cyn hir ni welir un wîg,
Na thudoedd anrheithiedig:
Holir lle'r oedd gwagdir gwyw,
Ai gardd wen Eden ydyw?

O for i for bob gorawr,
Dros Ferwyn, a'r Moelwyn mawr,
Pob tudwedd Gwynedd fal gwawr
Ymylau Clwyd a Maelawr;

Goruchel ochrau'r Gwrychyn,—Eryri,
A'r Aran uwch Penllyn;
Holl olwg Carn Llywelyn
A ddaw'n dir hardd iawn drwy hyn.

Plannu Coed.

Rhy eirw i gwlltyr yw rhai gelltydd,
I'w pilio, yno y dygir planwydd,
A brigog, cadeiriog y cwyd irwydd;
A derw y dyfn—naint, orau defnydd,
A thrwy hyn dau fwy a fydd,—i'w cysgod,
Afrifed filod hyfref hyd foelydd.

Poed o Fôn, yn dirion y deri,
Da lwynau tewion hyd lan Tywi;
Ac o Dafwysc i Deifi,—ar wylltbeirth,
Hyd oleu beneirth gwlad Albani.

Plannu, ac nid prynnu pren,
Ymddiried mwy i dderwen;
Na foed i goed nac ydau,
Angen yn un pen o'n pau;
Na bo rhaid yn ebyr hon,
Prynnu gan forwyr prinion.

Sychu Moroedd.

Mwy weithion yw Amaethwyr,
A ddaeth, ymyrraeth â mŷr;
Amrysawn, troi'r môr isod
Yn dir yn awr, ydyw'r nôd;
Rhwng Eifion a Meirion mae
Rhagorgamp fur ac argae;

Yma parwyd campwri,
Gwyrth Cymro yn llocio lli',
Y dernyn gwaith cadarnaf,
I neb ei ddechreu ond Nâf.

Ar fyrder triner y Traeth,
Ef a wnaer yn faenoraeth;
Yr aradr a'i goreuro,
Uwch Clwyd offrwm bwyd y bo;
Lle'r a'i'r morllo a'r eog,
Ysgrafed, rhwyged yr ôg.

Poed medelwyr, lloffwyr llon,
Maeronwyr a'u morwynion;
Yno boed mân-goed, fil myrdd,
A rhai preiffion gar prif-ffyrdd.
Lle bu dyfrlli' boed afrllad,
Y diliau mêl, a dail mâd;
Yno y rhodio'n rhedwyllt,
Yn lle môr-feirch meirch a myllt;
Cain bo ychain a buchod,
Mal Eden bo nen y nôd.

Poed y ddawn yn gyflawnach,
Yma er budd mawr a bach:
Deg o fath Madawg a fo,
A phraff waith i'w pherffeithio;
Yna gwelir yn dir da,
Gwyndud mor hardd ag India.

Trem ar Gymru a'i golud.

Trwy for Gwalia, tro i fwrw golwg,
Tros grib Pumlummon, hen ym'lon amlwg,
Ni welir dim anialwg,—diffeithwedd,
Hyd o fro Gwynedd i wlad Forgannwg.

Edrych o gopa Idris,
Ar wedd gwâr Wynedd gor îs;

Ac o nen Banuwchdeni,
Gwlad Ddehau a'i hochrau hi:
Tremio y treulio a'r trin,
O Gonwy i Frogynin;
Ac hyd ystlys Ynys Wen,
O Gaerefrog i'r Hafren;
Mor hardd y gwnaeth Amaethad,
Bob bryn a glyn yn ein gwlad!

Hynod yn briod i'n bro,
Yw ei moddion am eiddo;
O lîn, gwlân, halen a glo,—yn helaeth
Doraeth i'w cludeirio.

Rhydd hon i'w meibion ei maeth,— o'i bronnau,
Y bêr anwyl famaeth;
Gwinoedd yn llynnoedd a llaeth,
Llifeiriant er llafuriaeth.

Ei chroth chwiliant, gorwygant greigiau,
Effro ddiwyllir ei phriddellau;
Trysorion ei thynion wythenau,
Main o goluddion ei mŵn—gloddiau;
Da ledir ei delidau,—gwefr cadarn,
Y pres a'r haearn, parhaus rywiau.

Rhyfedd anrhydedd pob angenrheidiau,
Defnyddion di brinion da beiriannau;
Pob gwisgoedd cywrain, a glain foglynau;
Yr ariant a'r bliant, eryb liwiau;
Er ei gynnyrch i'r genau—yn helaeth
Y caiff yr amaeth o'r cu offrymau.

Gwrteithiau.

Cry' cair rhinwedd y cerrig gorwynion:
Golosgir, cerrir ar hyd pob cyrion;

Crugo yn gymysg, cregyn a gwmon,
Prynu a gwerthu pob rhyw hen garthion,
Lludw a marliau llwydion,—prif faethau,
Er dwyn pob cnydau'n llwynau mwy llawnion.

Cloron ac Erfin.

Trin cloron gleision eu gwlŷdd,
Gyrru mwswg o'r meusydd;
Hau erfin a'u trin, nid trwm,
Digoll, heb doll na degwm;
Gorfod a gwy wo erfin,
Ni all rhew, hyll waew'r hin.

Cnau.

O weundir cynhyrchir cnau,
I'r amaeth, gwerthfawr emau;
Bwrw yn lle brwyn a llaid,
Afalau'r anifeiliaid.

Newid Blodau.

Amaethiad da dyma dir,
Hau meillion mwy a ellir:
Lle bu gawn, a phlu gweunydd,
Daw dail, a llygaid y dydd.
Er cael dan aradr ac ôg,
Burŷd o dud gwlybyrog,
Cloddio a rhwygo rhigol,
Arwain dŵr o waen a dôl;
A diodi'r sychdir sâl,
O'r llynnoedd a'r lle anial;
Ail yn Eidal neu Eden,
Neu ail swydd y Nilus hen.

Rhannu anghyfiawn.

Yn Mrydain, er mor odiaeth,—O gresyn!
Yn groes i wybodaeth,
Ni wadaf, gwelaf er gwaeth,
Radd o wall ar ddiwylliaeth.


Naw heb ddim, hyn heb ddameg,
Gan un lawn ddigawn i ddeg;
Hyd heddyw nid yw hyn deg,—cyfranner,
Na chwyner ychwaneg.

Tosturier wrth yr Amaethwr.

Chwi ail seddawgwyr, uchel swyddogion,
Rhai dilafur, mewn hyfryd welyfon,
Da yw 'ch esmwythyd o chwys amaethon;
Ar y gwleddoedd cofiwch ei ryglyddon,
O fonedd, byddwch fwynion—ymddygiad,
Parch o wir gariad pur rhowch i'r gwron.
Dwyrewch, sylwch ar chwys ei aeliau,
O loewed ei ddurfing wladaidd arfau,
Ardwytho 'i anadl, brydio 'i wythenau
I chwi gael llon newyddion neuaddau,
Pob amheuthyn, pob moethau—da beunydd,
Iach i'ch yw'r bwydydd, meirch, a cherbydau.

Y gŵr esgyrnawl mewn gwres ac oerni,
Trabludd flin ddwy hin yn ei ddihoeni;
Gyrru troellawg, orfannawg garfenni,
Trwy iâ neu gesair y trin ei gwysi;

Gwella annghyflwr yr arddwr urddawl,
Gwedi goluddio'r gawod ogleddawl,
Dawns yr uchedydd, doniau serchiadawl;
Una'r amaeth, buroriaeth arwrawl,
Yna dyfyra dau fawl,—y geilwad,
Dwyrea i siarad yn dra siriawl.

Gwrtaith a Hin.

Pob moddion ddigon a ddwg,
Mathau o wrteithiau teg;
Gwneuthur i haidd, gwenith, rhŷg,
Dir da drwy'r aradr a'r ôg;

Tyfu'n braff tew fon a brig,
Cloron a meip, clau rawn mâg,
Iawn ddirnad rhîn hîn i hau,
Yd, a gwair, a'r hâd gorau;
Eu tarddiad ar dyfiad îr,
A fwydir gan gafodau.

Perlysiau Gardd.

Goloewon yw gwelyau,—y garddwr,
Fe gerdd yn mysg llysiau;
A sawyr ber bwysiau,
Hafaidd o hyd i'w foddhau.

Ganddo noddir, achlesir, gwych lysiau,
Rhag rhuthrau rhwysgawl, marwawl dymhorau;
Dialoedd hinoedd gaeafaidd heiniau;
Y grawn olewaidd ag eirian liwiau,
Naturiol yn edrych, trwy lain wydrau;
Arno y gwenant, dirion eginau,
Siriol wridog, resenog rosynau;
Prid yw y rheol, priodi rhywiau;
I'w gain fyg firain fagfâu,—cethleddawg,
Y mae pompionawg, ampwy impynau.

Meithrin pob ffrwythydd, diodwydd didawl,
Cair meddeiddwin a phoethwin effeithiawl,
Afaleulyn, dwys dillyn dysdyllawl:
Sudd melys ffigys da i'r diffygiawl.

Misoedd y Tyfu.

Wedi Ebrill waith dybryd;—Mai hafaidd,
A Mehefin hyfryd,
Yr amaeth a rodia'r hyd
Ei dyddyn mewn dedwyddyd.

Medi—coron blwyddyn.

Mis Medi o'r maes mudir
Effeithiau gwrteithiau'r tir;

Pand ytyw'r mis dewisaf,
Drwy borth hwn daw'r ebyrth haf;
Coron blwyddyn dirion deg,
O'i deuddeg y dedwyddaf.

Yna trafod tylodion,—ddiwrnodau
I ddyrneidio'r lloffion;
I'r plantos yn llios llon,
Ymddengys tywys tewion.

Y Bwytawyr.

Ein hadar dofion wedi er difiant,
Hyd y caeau, ydlanau dilynant,
At yr Amaethon y taer ymwthiant;
Y cŵn mewn cûr o'i lafur a lyfant;
A'r moch yn groch hagr wichiant, —rhaid estyn
Yr hyn a berthyn i'r rhain o borthiant.

Pob bueich gwael legeich i'w golygu,
Un modd bonedd arno'n ymddibynnu,
Gwyr mawr oddiarnodd grym i'w orddyrnu,
Rhai bychain isod, trwy bych yn ysu;
Yr Amaethon galon gu,—glan wyneb,
Pybyraidd i ateb pawb o'r ddeutu,

Heidiau crwydrawg gwasgarawg segurwyr,
Y rhai lledrithiog, a'r llywodraethwyr,
Galw i feddwl bob rhyw gelfyddwyr,
A'u moesau yn wychion—y masnachwyr;
Ie,'r llenorion, a'r lluon aerwyr,
A rhifo a alwyd yn rhyfelwyr,
Holl fawrwaith y llafurwyr,—sydd ddiball,
Er rhoi bywyd diwall i'r bwytawyr.

Amaethon boddlon, yn bur,—a'i ddwylaw
Yn ddilesg mewn llafur:
Gresyn fod gormod o'i gur;
Er dwyn saig i'r dyn segur.

Mae bwytawyr, meib tewion,—yn trwytho
Eu trythyll goluddion;
Golwythaw eu boliau glythion,
Byw o'r brasaf, heibio'r briwsion,
Gormodedd gwrw a mwydion,
Gosiglant megys Eglon;—eu hangau
Ddaw o'u moethau, eiddo Amaethon.

Grymusder Gwyr y Meusydd.

Estyn buchedd oes dyn bychan,
Trwy fwyn gariad dra fo'n geran;
Y diwylliwr diwyd allan,
Draw sy bybyr dros y baban.
O daw galon eon mewn awydd,
Gwyr bygylog o gwrr bwygilydd,
Pwy chwimach fywiocach fydd ?—pwy ddewrach,
Na grymusach, na gwyr y meusydd?

Amaethyddiaeth yn lle Rhyfel.

Ond pob mwynder a weler i Walia,
Bendithion fil ar epil Europa.
Aed mwy wythwaith o'r byd i amaetha,
Llawer rhyw filwaith llai i ryfela;
Hoff disgwyl dyddgwyl mawr da,—o degwch,
Heddyw, llonyddwch i holl lîn Adda.
Trwsia mwy o erydr tros y moroedd,
Trwy hen Asia pob twrr o ynysoedd;
Pair borth i bob rhyw barthoedd,—eu gwala,
Digon o fara dwg i'w niferoedd.

I dorri tiroedd yr hen Dartaria,
Lle mae'r dynion yn hyll ymrodiena,
Am eu cynaliaeth, fal mae ci'n hela;
Neu chwannog chwai lwynog yn chwilena;

Ow! y rhai'n druan, O mor dra—dwfyn
Yn mhob anoddyn yw meibion Adda.

Aed i wiw ddiffrwyth, dueddau Affrig;
Annhymorawl gyffiniau Amerig;
Mewn anialwch a mannau anelwig,
Mae Paradwys a Themp i'w haredig:
Yno fal trawsfilod trig—dynoliaeth,
Heb iawn wybodaeth, byw yn wibiedig.

I'r rhai a faethir mewn rhyw fythod,
Heb west felus, mwy na bwystfilod,
Da fydd tremio yn dyfod,—i'w byrddau,
Y bara gorau, bîr a gwirod.

Drwy gyrrau daear, aed i'r gwyr duon,
Undeb, doethineb, gwybodaeth union;
A gwiw bib addysg, pob gwybodyddion,
Fwyfwy golau, yn mhethau Amaethon.

A bi yn brysur, i'r gloewddur gleddau,
Cywrain sy awchus, eu curo'n sychau;
A gwaewffyn mwyn i'n goffhau—cyn hir,
Heb lid a yrrir, ïe,'n bladuriau.

Er mawrhydri pob rhyw ymerodraeth,
Y bu wyr dewrion, am eu bradwriaeth,
Gorthrechiant a llwyddiant eu lluyddiaeth;
Ar fyrr e yrrir arfau aerwriaeth,
Offrymir yn offer Amaeth,—ffrystio,
Amen, Duw wnelo er mwyn dynoliaeth.

Yr hafddydd sydd yn neshau,
Blaen nawdd y Fil blynyddau;
Cenawon yn cynniwair,
Yn mysg ŵyn, drwy'r maes a gair:
Y panther a'r teiger tew,
Llawn gwarder, llon, ac irdew;

Ydd Awen ni wna'n ddiau,
A gân i hon ond gwanhau;
Arwyrain i orwireb,
Wychraidd nôd, ni chyrraedd neb:
Rhy danbaid i'r llygaid llwch,
Ydyw'r gwawl a'r dirgelwch;
Gadael hon i gyd lenwi,
Dawn awdwyr ei hoeswyr hi.

Y Segurwr.

Oferwr ni lafuria,—a'i ddwylaw;
Ni ddyly chwaith fwyta;
Os yw gwr yn segura,
Ni fydd o un defnydd da.

Bara y Bywyd.

Er llafur prysur, bob pryd,—myfyriwn
Am fara y bywyd;
Bo llafur diball hefyd,
Iawn am hwn ynnom o hyd.

Dwy ddawn Bardd ac Amaethon.

Dwy ddawn oeddynt gyflawn gynt,
Yn Eden yr hanodynt;
Prifon da Adda oeddynt,
Ac i'w hâd ef cyhyd ynt.


Minau'n arab, o'm maboed,
Rhwng y ddwy yr wy' erioed.
Dygaf brif-enwau digardd,
Amaethon boddlon a Bardd.
Mynnai awen am ennyd,
Fy nghael i'w gafael i gyd:
Eithr mwy rhwng y ddwy ydd âf,
Hyd y bedd, a da byddaf:
Ar alwad yna'r elwy'
I fro mawl heb lafur mwy.

Nodiadau

golygu