Gwaith Dewi Wyn/Molawd Ynys Prydain I
← Cynhwysiad | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Molawd Ynys Prydain II → |
Y RHAEADR.
"Uchel-gadr raeadr dŵr ewyn.-hydrwyllt,
Edrych arno'n disgyn;
Crochwaedd y rhedlif crychwyn.
Synnu, pensyfrdanu dyn.
DEWI WYN.
YNYS PRYDAIN.
AWDL MOLAWD YNYS PRYDAIN A'I HAMDDIFFYNIAD RHAG
CENEDL ESTRON.
I. PRYDAIN.
MERCH nef wen, mam llawenydd,
Goreura deg reitheg rydd;
Da i anian dy eni,
Dedwydd o'th herwydd aeth hi;
Fy nyweddi, fun wiwddoeth,
Rinweddol, urddasol, ddoeth.
Derch dy oslef bêr nefawl,—wawd astud,
Ar destun mynegawl;
Dwg allan, yn deg ollawl,
Wir ddieithr gerdd ddoeth i'r gwawl.
O! anfarwol awen firain,
Gwau a darwain aeg awdurol,
Gathl ragorol, goeth lwyr gywrain,
I wen Frydain wiw'n fwriadol.
Ar brif-ffordd, osgordd weisgi—mewn gwir-barch,
Mynn gerbyd, dos drwyddi,
Hyd ddyffryn glyn goleuni,
Cyn adrawdd ei hansawdd hi.
Prydu a wnaf, llwyraf lles,
Olrheiniaf lawer hanes,
Yn mhrif geirdd pen beirdd y byd
Caf wreiddyn cyfarwyddyd;
Destl ethol dystiolaethau,
Yn bur o hyd i barhau;
Dilys wybyddys yn bur,
Hen dreiglau, yn dra eglur,
Carneddau, ac enwau gant,
Nid distadl, iawn y tystiant.
Pe bai hanesion pob ynysoedd,
Au henwawg gyn-hoedlawg genhedloedd,
Oll gar bron yn fawrion niferoedd,
Llin Prydain iesin a'i dinasoedd,
Bro wen ei hanes, a'i brenhinoedd,
A ewyllysiwn drwy'r holl oesoedd.
Dadgan nos, dangos wna'r dydd,—waith enwog,
Holl ddoethineb Dofydd;
Prif folawd y Creawdydd,
Dan y rhod, Prydain a'i rhydd.
Afrifed yw dyledion—rhai aned
Yn yr ynys dirion,
Moli Ner, am le yn hon,
Yw galwad y trigolion.
Ym pa araith, wemp orawr,—a gynnwys
Dy ogoniant tramawr?
Pa iaith? pa gerdd, gwerdd ei gwawr,
A dderlun dy ddaearlawr?
Odiaeth amrywiaeth mawr iawn—o wlithog
Daleithiau tra ffrwythlawn;
Mamaeth pob toraeth tiriawn
O heiniar lliwgar yn llawn.
Bro hardd aroglber yw hi,—bro llawnion
Berllennydd a gerddi,
Dyffrynnau, bryniau llawn bri;
Addurnawl y wedd arni.
Ar y dyffrynnoedd hyfryd ffriw enwawg,
Glaswyrdd orchudd gwiw lysiau ardderchawg;
Pob ffrwythau melysion, aeron eurawg,
Cain yw cynnyrch y llennyrch meillionawg,
A'u dewis goed blodeuawg,-pêr rawn cair,
Oreuwawr ddisglair ar irwydd osglawg.
Uwch y gwaelodion, iach a goludawg,
Wele'r bryniau a'r creigiau cerygawg,
Echrys ac uthrol ochrau ysgythrawg,
A mannau crebach uwch meini cribawg,
Gar parthoedd ardaloedd deiliawg,—cymoedd,
Mawrion fynyddoedd, a galltoedd gelltawg.
Edrych ar un o'i odrau—i'w hir ben
Ban yn y cymylau,
Caddug llwyd a gwyd yn gau,
Wisg addas i'w ysgwyddau.
I ddiosg hwn, twn to ôd-daw'n awel
O deneu-wynt uchod:
Gwelir deng mil o filod
Arno 'n byw dan amryw nôd.
Yn anrheg wrth angenrhaid—cawn wisgoedd
Cynnes gan y defaid;
Llaes yw'r wisg, dyd llysiau raid
Deg hardd-wisg gwiw-blisg gweu-blaid.
O'r creigiau mawr caerogwyrth,
Lliosawg, poblawg eu pyrth,
Hybarch ydyw eu hebyrth—yn ddisglair,
Mwnai a gair, a main gwyrth.
Gwelir oddiar freich—hir fryn
Dewffrwyth amryliw 'r dyffryn,
Glaswellt, ardderchawg lysiau
Gloewon, perarogl ein pau;
Ar fronnydd y coedydd cain
Dilledir à dail llydain;
Gwiw ednaint ar wydd gwydnion,
A'u ffraeth brydyddiaeth bêr dôn,
Canmawl yn hyfrydawl frau,
Eurog engyl ar gangau,
Difyrru â'u llefau llon
Wybren nefawl, bro Neifion
Gerddi lle sang ar gangau—eirin pêr,
Aeron, pob afalau,
Dan gnwd o heirdd dewion gnau,
Ymyrrant wrth y muriau.
O'r creigiau, mewn parthau pur,
Ymdreiglaw mae dwr eglur,
Elfen deneu, ysplenydd,
Lyfndeg, yn rhedeg yn rhydd,
Rinweddol o lesol, lân,
Loew, oeraidd, o liw arian.
Uchel—gadr raeadr dŵr ewyn,—hydrwyllt,
Edrych arno'n disgyn,
Crochwaedd y rhedlif crychwyn,
Synnu, pensyfrdanu dyn.
O'i ffynhonnau golau gant,
Y ffrydiau hoff a redant,
Dylifedd yn dolefain,
Lle chwery pysg yn mysg main;
Yr afonydd drwy faenor
Yn dwys ymarllwys i'r môr;
Grisial ar y gro iesin,
Drych y ser:—dŵr iachus in'.
Pob pysg yn gymysg mewn gemau,—llanwant
Y llynnoedd a'r teiniau;
Eogiaid—pob rhyw heigiau,
Mawrion gyrff drwy 'r mŷr yn gwau.
O anifeiliaid sy 'n felys—luniaeth,
O, lawned yr ynys;
Saith ddeng muwch a ymddengys
Ar y ddôl draw ger llaw 'r llys.
Heb rus, hoewon ychen breision uchel,
Meirch chwai, gymaint a nemawr wych gamel,
A cheirw, a bychod, chwareu heb ochel
Y maent, a hyrddod, mintai i'w harddel;
Daw'r asyn llwyd—warr isel—i'w dychryn
A'i nad—lef, er ennyn dilofr annel.
Rhai milod ar y moelydd—wych yrroedd,
Moch hirion mewn meusydd;
Yr ŷch a'r march drwy barch hydd
A'r carw o fewn ceurydd;
Mor ystwyth, chwimwth, a chwai,
Llamant, chwareuant, wych ryw,
Crochfloeddiant, hwy ruant rai;
Gwyllt a gwâr a gâr ei gyw.
Glân heirdd ei thrigolion hi,
Yn ysgawn rodio 'n weisgi;
Llawen, a bachgen heb ofn
Niwed gan filyn eofn.
Mwyn awen i'r menywod,
O egni glâs a gân glod;
Gwridog a hawddgar ydynt,
O lun a gwedd Elen gynt;
Delwau o lendid Olwen,
Naturiol waed Trywyl wen.
Mun weisgi uwch main esgair,
Mewn tlysau golau a gair;
Gemawg wen, meddaidd enau,
Angyles, arglwyddes glau.
Tra enwog wladwyr, yn trin goludoedd,
Mor wychion ydynt, yn y marchnadoedd,
Blagurog a dewr fywiog dyrfaoedd
Yn syw dwyn ysgawn sidan wisgoedd;
Aml ddisglair ddiwair ddeuoedd—yn diflin
Hoew droediaw 'n iesin drwy y dinasoedd.
Gar dyfroedd hoff lifoedd fflwch,
Tan irwydd mewn tynerwch,
Yn gwau ceirdd ceir y beirddion,
Eres hil, yn yr oes hon.
Gloew asur iach bur uwch ben,
Llawn o adar, llîn Eden;
Awelon oerion araf
Drwy hon yn cerdded yr hâf;
Adferu 'r claf, llesg, afiach;
Bywiogi, sirioli 'r iach.,
Gwlawio defnynnau gloewawn,—ac wedi
Y cawodydd maethlawn,
O derydr haul nef diriawn
Daw 'r gwres i addfedu 'r grawn.
Yna llifeiria holl fawredd—melys
Yr ynys, a'i rhinwedd;
Blodau gwynion, meillion, medd,
Yd, a gwîn, pob digonedd.
Er dydd Coll,[1] ddigoll ei ddawn—gnawd i hon
Gnwd o heiniar ffrwythlawn;
Gwisgir y grwndir â grawn,
A'r irwydd â phêr aerawn.
Mi fum glaf mewn caethaf cur,
Anaele oedd fy nolur;
Gwaelaf ddrych, gan nych, gwan iawn
Dygwyd fi at Gadwgawn;
Yn fanwl y'm hanfonai,
Ar frys, er mawr chwys march chwai,
I'r ddedwydd bau, olau, iach,
Hen Walia, ple anwylach?
Iechyd a geis heb ochi,
O'i hâr hardd a'i hawyr hi:
Difyrrach i'm hadferyd,
Glân barth, nag elïon byd.
Hyfawl, hardd, dihafal hon,—gan enwog
Anianol gynyrchion;
Yn drafflith pob bendithion,
I'w thecâu o radau'r Iôn.
Nodiadau
golygu- ↑ Efe a ddaeth a gwenith a haidd gyntaf i Frydain.