Gwaith Dewi Wyn/Molawd Ynys Prydain IV
← Molawd Ynys Prydain III | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Molawd Ynys Prydain V → |
IV. EIN PRYDAIN NI.
Brenin Prydain, gain gynnor,
Pen llywiawdr, ymerawdr môr;
Ei goron yn blaguro
Ar ei ben yn hir y bo.
Siors addfwyn is ei orseddfainc—cydwedd
Yw tair ciwdawd Prydain;
Cadwyn sy 'n ffrwyn yn safn Ffrainc:
Gwae i'r Twrc er y teir-cainc.
Brawdgarwch, ysbryd gwrawl—yn gyswllt
I'w gosawd yn unawl,
Cadarn deyrnas urddasawl
Ynt yn hon, un fraint, un hawl.
Byddinoedd, lluoedd, ar eu llwon
Milwyr, enwog wylwyr un galon;
Rhag gormeswyr, dig aerwyr geirwon,
Galanastra, gelyn neu estron.
Blodau brithion, neu ser cochion,
Braw gelynion, brig—lu enwawg;
Meirch, marchogion, chwai grymusion,
A greddf eon, gwawr ruddfâawg;
Pob graddolion, dan eirf gloewon,
Is llywyddion, weis llueddawg;
Pob cerddorion, a'u lleis mwynion,
Oll ymuno 'n gorff llumanawg.
Mab erlid yn ymbarlu—â Phrydain
Hoff wridawg dan wenu,
Dewr megis yn dirmygu
Ei nifer lawn a'i fawr lu.
Weithiau nesu, wyth wae 'n ei woseb,
Am ein cusanu mewn casineb;
Ar randir ei erwindeb—ninnau,
O'n peiriannau 'n poeri i w wyneb.
Trefn natur, mesur moesawl,—wych hoewfraint,
Ei chyfraith freninawl,
Dwyn yr iau, dyner reawl,
A wna 'r byd yn fyd o fawl.
Prydain, neud mirain y modd—llaw freiniol,
Llyfr anian egorodd,
I'r holl ynys darllennodd;
Bu'r araeth bêr wrth ei bodd.
Mor hafaidd ym, er rhyfel,—pe ba'i modd,
Pob math yn ddiogel;
Tal d'wysog, tylawd isel;
Pob rhyw radd yn gydradd gwel.
Trefna Sior, a'i gynghoriaid, —seneddwyr,
Sy'n addas flaenoriaid,
Rhoi glywiau a rhaglawiaid,
Swyddogion, gwbl eon blaid.
Harddach, rhagorach i gyd
Heddyw, gwir yw, nag erioed;
Hawddamor tra byddo'r byd
I Frydain Fawr bob awr boed.
Diysgog bid ei dysg a'i gwybodau,
Prawfo'i holl wiw-fraint, pwy rif ei llyfrau?
A'i goleuaf ddidawl gelfyddydau,
Creiff, wyrenig, gywir offerynau;
Arbed lludded drwy allweddau—gwyrthiawg,
Wych a mygedawg ddychmygiadau.
Y bryniau diau dyall
Dirgel-iaith berffaith, ddi ball.
Banerawg bennau oerion—llawn geiriau,
Ond eu tafodau ydynt fudion;
Etwa nhwy waeddant y newyddion
Mor uchel nes el yn son-goffrydiawl
Am eu hydreiddiawl ymadroddion.
Gwisg orfoneddig ysgrifenyddwaith,
Tŵr gwlad yr addysg, trigle adroddwaith:
Y gwiwdeg lenni a gwawd, a glanwaith
Llwythir â geiriau llithrig araith.
Ar deneuwen len cyflwynaw—mynag
Manwl lafar distaw,
Aeg lâd i'r llygad o'r llaw,
I'r un byddar yn buddiaw.
Pob dinas yn urddasawl
Gan sain clych mynych eu mawl;
Yr organ a'i harwrgerdd,
Mân dannau yn cydwau cerdd;
Try 'r tabwrdd, agwrdd ogylch
A'i gref gainc, ag eirf o'i gylch;
Yr udgorn ar barodgais
A dery glir droawg lais;
Gawrio yn groch, ffroch, a ffraeth,
Yn wrol mewn blaenoriaeth.
Pob offer cerddbêr er cynt,
Er dydd Cellan a'i aur dant;
Gwau pob llais a'u hadlais hwynt,
Dan fys, ac wrth felys fant.
Dirus uwch rhawd dyfnderoedd
Aml ddrylliawg, gyflegrawg floedd,
Tyrfau mal taranau 'r wybr,
Rhŵth ruad, â rhuthr ewybr.
Gwreichion fflamau goruchel,
Mŵg yn dyrch a gyrch heb gêl
Yr un modd ag uwch goddaith
I'r wybren fry, bro wen fraith.
Ffyrdd Masnach.
Yn wirfoddol un a orfyddai
Am iesin wychder y masnachdai;
Uwch Tyrus eurdeg eich trysordai;
Pwy a wêl ostwng eich palasdai?
Marchogiawn hoff iawn ffyniant,—eu haeledd
Yn helaeth amlygant;
Ar gadair ddisglair ydd ânt,
Ar lawr heol aur hauant.
Amryw negesyddion, mor enwog eu swyddau;
Gwyr cywir heb oedion yn gyrru cerbydau;
Ar brif-ffyrdd ein bro, gorodidog rediadau.
Trafaelio trwy'r ynys a'u twrf fal taranau.
Amryw o fonedd yn rhannu, mor fwynion,
O'u da oludoedd i wael dylodion;
Neud derchasant hwy oreu achosion,
Hau'r Gwir a'i daenu drwy gariad union:
Henffych i'ch ceinwych amcanion;—dan grêd,
Yn llwyr, O deued yr holl wyr duon.
Caer Ludd frig eurawg, dyrawg, dirion,
Acw mae'r gwiwddoeth Gymraegyddion,
Ar gynnydd hygar Gwyneddigion,
Gorddysgedig o urddas Gwydion,
A'u cyrhaeddiad enwog, gwyr rhyddion,
Tu hwnt treiddiad hynod Derwyddon.
Gwyneddig awenyddion—heb wyrni
Y barnant orchestion;
Os heb y Gymdeithas hon
Nid arab Llundain dirion.
Yn mysg ereill mewn moesgarwch, —rhandir
Tiriondeb a heddwch,
Ail ei phrid hoff lendid fflwch
I rosyn mewn dyryswch.