Gwaith Dewi Wyn/Oes Dyn ac Angau
← Torri Sylfaen Morglawdd Madog | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Breuder Oes Dyn → |
OES DYN AC ANGAU.
YSTYRIWN einioes dyn, ein dichlyn daith,
A hyd y bywyd byrr, mewn myfyr maith;
Gaeaf-ddydd trymllyd yw, oer ydyw'r hin,
Ac nid oes munud byrr heb lafur blin.
Dir yw nad ydyw dyn ond gwyfyn gwael,
A'i ronyn amser drwg ar brysur draul;
Diflannu mae fel ôd, neu gysgod gau,
Fel lled-laith nifwl llwyd, a breuddwyd brau.
Mae dyn, lysieuyn sal, gwan, meddal, mad.
Fel brwynen grinwen grom, ar lom oer wlad;
Fel cawn, neu wawn, un wedd o lygredd lin,
Fel gwelltyn, gwlyddyn glas, fel cras sofl crin.
Ein hyder ar ein hoes na rown yn hwy,
Ond ías y gelyn mawr disgwyliwn mwy;
Pob oed a gwymp i'r bedd, pob gwedd i gyd,
Cadd llawer maban, do, y gro yn gryd.
Marwolaeth gaeth ei gwedd, i'r bedd oer bwys.
Mae'n casglu bonedd byd dan gysglyd gwys;
Pob enw, iaith, a gwaed, dan draed yn drwm,
Dwg bachau angau oer, i'w gloer dan glwm.
Nid ydyw'n arbed un anwylddyn iach,
Iawn glodfawr Gun na Glyw o unrhyw âch;
Brenhinoedd ac arglwyddi ceir i'w gloer,
Dwyn o yscarlad wisg is cwrlid oer.
Heb un disgwyliad, baidd i loewaidd lys.
Ddwyn pla neu haint, i ladd un radd ni rus;
Er corff lliw'r asur cain, rhos, eiry, calch,
Y bachgen addien ir, neu feinir falch.
Dyn syw fu'n denu serch, loew ferch. ael fain,
A delw glendid oedd, ar goedd, wawr gain;
Ow gau y deg ei dull dan dywyll do.
Dwy geulan dew a gudd ei grudd mewn gro.
Yr athro clodfawr, oedd ar goedd mor gu,
A drengodd, Ow, rhwng dwylaw'r angau du;
Trosglwyddo'r ysgolhaig a'i rwysg i lawr,
Mewn arch dan dywarch do, mae'n huno'n awr.
Daw'r aerwr, er peryglon lawer pryd,
O'r drin fawr adre'n fyw drwy bob rhyw byd;
Daw angau mewn llid traws i'r man lle trig,
Terfyna'r einioes ferr â'i ddager ddig.
Pa filwr balch ei ben, neu gadpen gwiw,
Aeth drwy farwolaeth drom yn ffrom ei ffriw?
Pa ieuanc was di-rus, os daw i'w rwyd,
Na chryn o'i draed i'w ben, fel aethnen lwyd?
Ni chair ar dir na môr, un doctor da,
I un mewn marwol ing, a'i bling o'i bla;
Ni wŷs na llŷs na llech yn drech na'i dranc,
Ni thorrai'r byd yn un ei wŷn a'i wanc.
Gan hynny, dyma'r ennyd imi roi
Fy mryd a'm bwriad dwys i ymbartoi;
Ar lwybr anfarwol wlad, cyn treiglad trwm,
Crist imi'n gyfaill hael mewn gaeaf llwm.
Efe a drechodd dras galanas lu,
Fe lamodd yn nghadwynau angau du;
Gan dynnu'r colyn cas, a'r glas hir gledd,
Oedd gan y garw aerwr hagr ei wedd.
Dwg lwch ei briod glau ryw forau fydd,
O'r dyffryn sy'n ei dal, i'r ardal rydd;
Heb ofni angau byth, a dilyth dôn,
I gyd-foliannu mwy y dwyfawl Ion.
Rhagfyr 11, 1805.