Gwaith Dewi Wyn/Rhagymadrodd
← Gwaith Dewi Wyn | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cynhwysiad → |
Rhagymadrodd.
AM Ddewi Wyn y dwedodd Islwyn, —"Uchelfardd Eifion, genius mwyaf hil Gomer yn ol fy marn i." A dyma farn beirdd, o amser Dewi hyd heddyw bron.
Ganwyd Dafydd Owen (Dewi Wyn) yn y Gaerwen, amaethdy ym mhlwy Llanystumdwy, Eifionnydd, ym Mehefin, 1784; yno hefyd y bu farw, nawn Sul, Ionawr 17, 1841.
Tyddynwyr medrus a darbodus oedd Owen a Chathrin Dafydd, rhieni Dewi Wyn; a bachgen caruaidd, tyner, a diargyhoedd oedd ei frawd ieuengaf Owen. Cafodd Dewi ysgol dda,-gyda William Roberts yn Llangybi, gydag Isaac Morris yn Llanarmen, ac wedi hynny ym Mangor is Coed. Daeth adre i amaethu wedi gorffen ei ysgol, ond parhaodd yn efrydydd ar hyd ei oes, gan dalu sylw arbennig i rifyddiaeth, cerddoriaeth, a hanes. Ond barddoniaeth a'i denai fwyaf, a phenderfynodd yn fore mai "amaethon boddlon a bardd" fyddai ar hyd ei oes.
Aeth ei frawd Owen i Bwllheli i fasnachu, ond dechreuodd ei iechyd ballu. Oherwydd hyn daeth ei fam a Dewi ato i fyw tua 1827, ond gan ddal y Gaerwen o hyd. Yn 1837 bu yr hoff Owen farw, a dychwelodd Dewi i'r Gaerwen, i fyw yno hyd ddiwedd ei oes.
Cwyna Dewi ar fywyd llenyddol Lleyn ac Eifionnydd; ond yr oedd iddo gymdogion agos o'r un anian ag yntau, megis Rhobert ab Gwilym Ddu, J. R. Jones o Ramoth, Sion Wyn o Eifion, ac Eben Fardd.
Blynyddoedd ei nerth oedd 1805 hyd 1820, pymtheng mlynedd disglair rhwng un mlynedd ar hugain o godi ac un mlynedd ar hugain o fachlud. Yn 1805 daeth awdl "Molawd Ynys Prydain," yn 1811 awdl Arwyrain Amaethyddiaeth," yn 1819 awdl "Elusengarwch," ac yn 1820 awdl "Cyfarch y Gweithwyr."
Fflachiadau disglair, gwreichion byw, sy'n ein tynnu at Ddewi Wyn. Yr oedd i'w feddwl nerth angerddol; a chollodd lywodraeth ar y nerth hwnnw tua diwedd ei oes; gorthrymwyd ef, gorff ac enaid, gan fflangell ei athrylith ei hun.
Cyhoeddwyd gwaith Dewi Wyn, "Blodau Arfon," gan Edward Parry yng Nghaer yn 1842; cyhoeddwyd atodiad gan H. Humphreys yng Nghaernarfon, yn 1869, dan olygiaeth Cynddelw. A chasglodd Myrddin Fardd bob pill a rhigwm a hanes oedd yn weddill i'r Llenor yn 1896.
- Rhydychen.
- OWEN M. EDWARDS.