Gwaith Edward Richard/Bugeilgerdd y Gyntaf

Rhagymadrodd Gwaith Edward Richard

gan Edward Richard, Ystrad Meurig

Bugeilgerdd yr Ail

EDWARD RICHARD

BUGEILGERDD Y GYNTAF.

GRUFFYDD.

PWY ydyw'r dyn truan, fel hyn wrtho'i hunan,
Rwy'n ganfod yn cwynfan, fel baban dan berth,
A'r dŵr dros ei ddeurudd, yn gostwng dan gystudd?
Myneged i Ruffydd ei drafferth.

MEURIG.


Di weli d' anwylyd, hen gyfaill, mewn gofid,
Corff egwan dan adfyd, o'i blegyd a blyg:
Bid imi drugaredd, fe ddarfu pob rhinwedd,
Anrhydedd, a mawredd ym Meurig.

GRUFFYDD.


A laddodd y bleiddiaid yn ddifwyn dy ddefaid?
Neu a giliodd dy goelaid, lloer gannaid, o'i lle ?
O'r ŵyn aeth i Frwyno, 'does un nad oes yno,
Pob un a grwydro, a geir adre'.

MEURIG.


Ymwasgu â gwag gysgod, a charu'r byd ormod,
Ar ddarn o ddiwyrnod i drallod a dry;
Ni chefais fawr golled, am dda nac am ddefaid,
Mae'r ddôr yn agored i garu.


GRUFFYDD.

Ai'r trawsion trwy ysu, difudd, sy'n dy faeddu,
A thra-mawr orthrymu'n diraenu dy rudd?
Och'neidiau rhy oerion sy' nghiliau fy nghalon,
Fod dwyfron dyn gwirion dan gerydd.

MEURIG.


Fy nyddiau'n anniddan ân' oll o hyn allan,
Gosodwyd Gwenllian[1] mewn graian a gro;
Mae hiraeth fel cleddeu, yn syn dan f' asennau,
Fe lwyda lliw'r aelau lle'r elo.

GRUFFYDD.


Er syrthio'r dywarchen i'r ddu oer ddaearen,
Hi gyfyd fel haulwen, yn llawen o'i llwch;
I'r sawl sy'n troi ato, mae bywyd heb wywo,
Ym mreichiau ei Dad iddo, a dedwyddwch.

MEURIG.


O taer yw naturiaeth, ni thry er athrawiaeth,
Ond wylo gan alaeth, a hiraeth am hon ;
A'r galon dan glwyfau, diles a du loesau,
A dyrr, heb naws geiriau, 'n ysgyrion.

GRUFFYDD.


Mewn henaint, mewn ieuenctyd, mewn nych,
ac mewn iechyd,
Mae'n aml rai'n symud o fywyd i fedd ;
Nid oes na dyfeisio, na golud, na gwilio,
All rwystro neb yno, na bonedd.

MEURIG.


Fy nydd sydd yn nyddu yn fanwl i fyny,
A'r aros sydd yn nesu, i roi'n isel fy mhen;

Ac un nid oes genny', er wylo ar oer wely.
Pan b'o im' glafychu, glyw f' ochen.

GRUFFYDD.


Ymostwng yn astud i Ffynnon y Bywyd,
Ac ochain am iechyd i'th glefyd a'th glwy';
E fydd, y mae'n addo, i'r gwas sy'n ei geisio,
Dan wylo ei gŵyn wrtho, 'n gynhorthwy.

MEURIG.


Gwenllian fwyn serchog, 'rwy' fyth yn hiraethog;
Yng nghŵyn yr anghenog, gwnai'n rhywiog ei rhan;
A phorthi'r trafferthus, yn hael, a'r anhwylus,
Gwnaeth llawer gwan lliwus, Gwenllian.

GRUFFYDD.


Pe rhannwn yn rhywiog fy nghroen i'r anghenog
Heb waed yr Oen serchog, ŵr euog yr wyf,
A thynnu 'ngwythenau ar led, a f' aelodau,
I'r poenau'n dameidau, dim ydwyf.

MEURIG.


Os hoffi gorchymyn ei Dad wna'r credadyn,
(Trugarog i adyn o elyn yw o,)
Ac adde' ei ddiffygion, mewn cof am un cyfion,
Ni chais ei law dirion le i daro.

GRUFFUDD.


Gan hynny bydd foddlon, fod cariad mor dirion
Yn myned yn union at Seion a Saint:
Fel ffrwyth pan addfedodd, mor deg a 'madawodd,
O'i gwirfodd, a hunodd mewn henaint.


MEURIG.


Nid oes mwy hynawsedd im' gael, nac ymgeledd,
Gan roi'r un garuaidd a llariaidd i'r llwch:
Na gobaith 'does genny' gael unwaith ond hynny,
Mewn mwynder, chwaer iddi, a chareiddwch.

GRUFFYDD.


Gad ochain mor drymed, a dagrau, i rai digred
(Na byddo gwarr galed yn niwed i ni)
Ti a'i gwelaist, gobeithio, mewn heddwch yn huno,
Ac amdo yn digwyddo yn deg iddi.

MEURIG.


Dy eiriau da arail ni nyddant hen wiail:
Cyn hawsed i fugail â siglo sail serch,
'Rhoi gosteg i'r gwyntoedd a thwrf mawr y moroedd,
Neu weddwdod o'i hanfodd i henferch.

GRUFFYDD.


Mae gennyt ti ganu, a rhinwedd gyfrannu,
Da ddoniau yn diddanu, a llonni pob lle:
Os chwiban dy bib-goed, felus-gerdd dan lasgoed,
O'r coed ni fyn dwy-droed fynd adre'.

MEURIG.


Pen-addysg pan oeddwn, i'r gwyrdd-ddail mi gerddwn,
A'r man y dymunwn mi ganwn â'r gog ;
Yn awr dan ryw geubren 'rwy'n nychu ac yn ochen,
Fel c'lomen un aden, anwydog.

GRUFFYDD.


Ni gerddwn dan chwiban at Ned[2] o'r dre' druan,
Cawn hwn wrtho'i hunan mewn caban main cul;
Mae'i gwrw fo o'r goreu, i'w gael yn y gwyliau,
Gwnawn dyllau'n o foreu yn ei faril.

MEURIG.


Mi welais ryw eilyn ar fwrdd yr oferddyn,
A Ned wrth ei bicyn yn llibyn a llwyd :
Pab Rhufain, pe profai (er maint ei rym ynteu),
A grynai, gwn inneu, gan annwyd.

GRUFFYDD.


Er niwl ac anialwch, a thrawster a thristwch,
Daw dyddiau dedwyddwch hyfrydwch i'r fro:
Daw Anna[3] i dywynnu cyn nemawr, cân imi,
Di weli blwy' Dewi'n blodeuo.

MEURIG.


Er mynych ddymuned o'r galon ei gweled,
Mor luniaidd, mor laned, a haeled yw hon;
Mae'm march yn din-deneu, a'r llif dros y dolau,
Yn chwarae pentanau Pont Einon.

GRUFFYDD.


Rhyw faich o afiechyd sy gâr i seguryd,
A hunan brydnhawn-fwyd yw bywyd y balch ;
Rhesymau mwyn hyfryd o'r galon yw golud,
A'r iechyd i'r ynfyd a'r anfalch.

MEURIG.

Y Phenics hoff anian, aur eglur rywioglan,
Ni thynn Feurig allan, O druan, o'i dre';
A'r manna, pe'i rhennid, yn rhwydd er cyrhaeddyd,
Yr ynfyd a chysglyd ni chasglai.

GRUFFYDD.


Nanteos[4] heb orffwys, o'i mebyd, a Mabwys,[5]
A'r Trawsgoed[6] le gwiwlwys, sy'n cynnwys gŵyr call:
Gwell, ambell awr ddigri, gael rhan gyda rheiny
Na phoeni'n trysori dros arall.

MEURIG.


Nid oes well cyfeillion, na doniau mewn dynion,
Gwyr rhyw y goreuon, yn galon i gyd;
Er maint eu rhinweddau, diogel yw cartre',
Yn ara' daw maglau i dŷ myglyd.

GRUFFYDD.


Gan nad oes 'tu yma i dy fedd a dy foddia,
Amen, mi ddymuna, na ffaela'n dy ffydd,
Rhag mynd i'r poen didranc, fel annoeth un ieuanc,
Neu hen-lanc, dwy grafanc, digrefydd.

MEURIG.


Pob math ar fendithion, fy nghár, am gynghorion,
Fo'n llonni dy galon mewn dynion a da
Diwael fo dy wely, mewn lafant a lili,
A'r mêl yn dyferu 'n dy fara.

GRUFFYDD.


Y ddafad ddu gyrnig, gei'n lân yn galennig,
(Cydymaith caredig yw Meurig i mi)
O'r hwrdd sydd ym Mrwyno, mae'n gyfeb 'rwy'n cofio,
Dwg honno yn rhwydd eto, un rhodd iti.

MEURIG.


Mae gennyf bål newydd, was diddan, er ys
dauddydd,
Un graffus wen, Gruffydd, a hylwydd yw hi ;
Danfonaf hon heno i'th dy, o waith Deio,[7]
Pan dreulio, mae'n addo min iddi.

GRUFFYDD.


Mae'n bwrw yng Nghwmberwyn, a'r cysgod yn estyn,
Gwna heno fy mwthyn yn derfyn dy daith,
Cei fara a chawl erfin[8] iachusol, a chosyn,
A 'menyn o'r enwyn, ar unwaith.

MEURIG.


Gwell cyngor rhagorol, na maeddu'r heneiddiol,
Ond un peth dewisol. swydd rasol sydd raid;
Gofalwn am hwnnw, ni ŵyr pridd a lludw.
Y dydd y bo galw bugeiliaid.

EDWARD RICHARD A'I CANT.

Ystrad Meurig, 1 Ionawr, 1776.

Nodiadau

golygu
  1. Mam y Bardd.
  2. Y Bardd.
  3. Arglwyddes Lloyd o Ffynnon Bedr.
  4. S. Powell, Esq.
  5. James Lloyd, Esq.
  6. Vaughan, Lord Lisburne.
  7. Y gof.
  8. Maip.