Gwaith Goronwy Owen Cyf I/Rhagymadrodd

Gwaith Goronwy Owen Cyf I Gwaith Goronwy Owen Cyf I

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cynhwysiad

Rhagymadrodd.

AR WAWR bore Deffroad llenyddol gwerin Cymru, cawn Oronwy Owen yn gweled arwyddion gogoniant meddwl ei wlad. Gwelai y tywyllwch oedd yn gorwedd arni, gwyddai nad oedd pendefig nac esgob mwy i noddi awen Cymru, dychmygai glywed y werin yn gwrando ar gerddi masweddol a dyriau anghelfydd. Gallasai yntau ennill bri drwy ganu yn ol chwaeth ddirywiedig y dydd, hawdd fuasai iddo guro Elisa Gowper ar ei dir ei hun. Ond ceinder Dafydd ab Gwilym a mawredd meddwl Milton enillodd fryd Goronwy Owen, a hynny pan oedd y naill yn anadnabyddus a'r llall yn ddirmygedig. O'i dlodi a'i hiraeth, cododd yr alltud lef oedd yn adlais o feddwl gorau hen Gymru; a chlywid ynddi, gan yr ychydig arhosodd i wrando, awen rymusach a mwy beiddgar nag a glywsid yng Nghymru erioed o'r blaen.

Ganwyd Goronwy Owen Ionawr 1 (13 yn ol y cyfrif newydd), 1722, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, mewn bwthyn bychan ar fin rhos, ger y ffordd fawr rhwng Pentraeth a Llannerchymedd. Lawer blwyddyn wedyn, dywedai un o'r un fro am dano ef a'i dad a'i fam,—"Cymysg Owain Grono a Sian Parri ydyw. Nid oedd dan haul ddyn mwy diddaioni nag Owain, ac nid allai fod dynes gwrteisiach, ie, a diniweitiach, na Sian."

Yr oedd ysgol yn Llanallgo, dipyn i'r gogledd o'r bwthyn. Aeth Goronwy yno, heb yn wybod i'w rieni. Mynnai ei dad ei guro, ond cymerodd ei fam ei ran. Wedi hynny, pan yn dechreu teimlo gwerth ei awen, cofiai mai gofal ei fam oedd yn cyfrif am dryloewder dillyn ei iaith.

Pan yn un ar ddeg aeth i Ysgol Ramadegol Bangor, a dysgodd gyfansoddi Lladin rhagorol. Pan ddaeth ei ysgol i ben, yr oedd ei fam wedi marw, ac nid oedd y bwthyn ar fin y rhos yn gartref iddo mwy.

Yn bedair ar bymtheg oed cawn ef yn athraw ysgol ym Mhwllheli,—erbyn hyn yn garwr ac yn fardd. Oddiyno medrodd fynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Yn 1745 cafodd urdd diacon; ac, er llawenydd iddo, cafodd ei hun yn gurad yn ei hen gartref.

Buan y gorfod iddo droi o Fon; ac o hynny hyd ddiwedd ei oes helbulus bu'n hiraethu, ac yn ofer, am rywle yn ei wlad ei hun. Wedi aros peth yn sir Ddinbych, cafodd guradiaeth yn Selatyn, ger Croesoswallt, ac wedyn yn Nghroesoswallt ei hun. Yno, yn Awst 1747, priododd Elin, gweddw ieuanc, merch i fasnachydd o'r enw Owen Hughes; gwraig oleu-wallt feddal oedd, heb fawr o fyw ynddi.

Yn Medi 1748 cawn Oronwy yn Donnington, y tu hwnt i Shifnal, bron ar derfyn pellaf sir Amwythig. Yr oedd yn athraw yn yr ysgol, ac yn gurad Uppington i John Douglas, amddiffynydd athrylith Milton, ac esgob Carlisle a Salisbury wedi hynny. Gwlad o feusydd tonnog yw hon, gwlad yr haidd a'r gwenith, gwlad y maip a'r ffa. Mae'n un o'r ardaloedd iachaf, a phobl hynaws ynddi yn byw i oedran teg. Yma y blagurodd awen Goronwy, yma y canodd "Gywydd y Farn" a "Chywydd y Cynghorfynt." Yr unig beth a'i poenai oedd hiraeth am Fon a llaw drom yr Ysgotyn oedd yn wasanaethu. Weithiau cymerai ei ddychymyg ehediadau y synnai atynt ei hun, fel yng "Nghywydd y Farn," dro arall bwrlymiai ei hapusrwydd, yng nghwmni ei wraig a'i ddau fab, fell ffrwd fynyddig ar fore teg, yn "Awdl y Gofuned."

Yn Ebrill 1753, cerddodd i Lerpwl, ac yn fuan aeth ei deulu ar ei ol. Daeth yn gurad Walton. Tybiai ei fod yn agosach i Fon, a gwelodd forwyr oddiyno. Ond, wedi adnabod y lle, oer ac anial oedd o'i gydmaru a gwastadedd ffrwythlawn sir Amwythig. Cwynai na ddaethai'r awen gydag ef i'r fro newydd. "Beth a dâl awen mewn lle y bo llymdra a thylodi"? Ing oedd achos y gân oreu wnaeth yn y fro anhylon hon. Yma y ganwyd ei ferch Elin, ac yma y claddwyd hi.

Y mae tuedd mewn ambell le i ddenu i yfed ac ofera. Gadawodd Walton ei ol ar Oronwy. Yr oedd y "sucandai mân bryntion," wnaethai frad ei ragflaenydd, yn graddol ddenu Goronwy hefyd. Clywai ei gyfeillion am "ryw gyfeddach a rhy fynych dramwy i Lerpwl." Dyfnhai tlodi. Oedid gobaith. Ni fedrai ei blant siarad Cymraeg. Er hynny cynhyddai'r awydd am wybodaeth, a fflachiai'r awen o'r awr dduaf,—

"O f' Awen deg, fwyned wyt!
Diodid, dawn Duw ydwyt!
Tydi roit, â diwair wên,
Lais eos i lysowen."


Yr oedd gwladgarwch Gymreig yn deffro y pryd hyn. Yr oedd Goronwy wedi dechreu darllen hanes Cymru, ac wedi cael blas ar waith yr hen feirdd. Yr oedd mewn gohebiaeth barhaus â thri mab Pentre Eiriannell, y clywsai ei fam yn son am danynt,— Lewis, Richard, a William Morris. Clywodd am y Cymrodorion yn Llundain a'u gwaith.

Trodd ei gefn ar Gymru am byth. Aeth ef a'i deulu i Lundain. Yno y cawn hwy ar ddechreu'r gyfrol nesaf.

Yn yr ail gyfrol bydd hanes gwaith Goronwy Owen, nodiadau, a mynegai. Ond dymunwn yma gydnabod fy nyled i lafur cariad gwladgarol Robert. Jones, gynt ficer Rotherhithe, a golygydd gwaith Goronwy Owen.

OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn,
Ion. 15, 1902.




Nodiadau

golygu