Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Argraff ar Flwch Tybaco
← Darn o Awdl | Gwaith Goronwy Owen Cyf II gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Tri Englyn Milwr → |
Argraff
I'w dorri ar gaead blwch tybaco.
CETYN yw 'n hoes, medd Catwg,
Nid ŷm oll onid y mwg;
Gan hyn, os mwg yw 'n heinioes,
Da iawn! oni chair dwy oes?
Mygyn o'r cetyn cwia
Wnai o un-oes ddwy-oes dda.