Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Cywydd ar Wyl Dewi
← Englyn i John Dean | Gwaith Goronwy Owen Cyf II gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Dau Bennill Gwawdodyn Hir → |
CYWYDD AR WYL DDEWI, 1755.
I'w gyflwyno i'w Freninol Uchelder SIOR, Tywysawg Cymru.
gan yr urddasol Gymdeithas o Gymrodorion yn Llundain.
SLYW digamrwysg gwlad Cymru
A'i chynnydd, llywydd ei llu,
Por odiaeth holl dir Prydain,
Penteulu hen Gymru gain,
Llyw unig ein llawenydd;
Mwy cu in' ni bu ni bydd.
Eich annerch rhoddwch inni,
Ior glan, a chyngan â chwi.
Gwaraidd fych, Dwysawg eirioes,
Wrth ein gwâr ufuddgar foes.
Dychwelawdd, dan nawdd Duw Naf,
Dyddwaith in o'r dedwyddaf,
Diwrnod—poed hedd Duw arnynt—
Na fu gas i'n hynaif gynt;
Diwrnod y cad iawnrad yw
Ym maniar Dewi Mynyw;
Pan lew arweiniodd Dewi
Ddewr blaid o'n hynafiaid ni
I gyrch gnif; ac erch y gwnaeth
Ar ei alon wrolaeth.
Ni rodd, pan enillodd, nod
Ond cenin yn docynod.
Cenin i'w fyddin fuddug
Nodai i'w dwyn; a da 'u dug.
Hosanna, ddiflina floedd,
Didawl ei amnaid ydoedd,
Gan Ddewi, ac e 'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf;
A Chymru o'i ddeutu ddaeth
I gael y fuddugoliaeth.
Hwyntau, gan lwyddo 'u bantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant,
Ac urddo 'r cenin gwyrddion
Yn goffhad o'r hoywgad hon,
A bod trwy 'n cynnefod ni
Diolch i Dduw a Dewi.
Dewi fu 'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael.
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod.
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid
I fynu nef i'w enaid—
I newid gwlad lygradwy
Am berffaith a milwaith mwy,
Iwch gael—pand yw hyfael hyn?
Rheoli pob rhyw elyn,
Gorchfygu talm o'r Almaen,
Taraw 'sper hyd dir Ysbaen,
Cynnal cad, yn anad neb,
Tandwng, yn ddigytundeb,
I ostwng rhyfawr ystawd
Llyw Frainc, fel nad allo ffrawd;
A difa, trwy nerth Dofydd,
Ei werin ffals a'r wan ffydd,
Dannod eu hanudonedd
Yn hir cyn y rhoddir hedd.
Yn ol dial ar alon,
Rhial hardd yw 'r rheol hon:
Gorsang y cyndyn gwarsyth,
Bydd wlydd wrth y llonydd llyth:
Milwaith am hyn y'ch molir,
A'ch galwad fydd TAD EICH TIR,
Gwr odiaeth, a gwaredydd
Yn rhoi holl Ewropa 'n rhydd;
Ac am glod pawb a'ch dodant
Yn rhychor i Sior y Sant.