Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Cywydd y Cyw Arglwydd

Cywydd i Ddiafol Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cywydd y Cryfion Byd

CYWYDD Y CYW ARGLWYDD.

At Richard Morris, Mai 28, 1756.

CYWYDD AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT, ARGLWYDD
LLWDLO, CYNTAFANEDIG FAB ARDDERCHOG IARLL POWYS

1756.

MOES erddigan a chanu,
Dwg in' gerdd deg, Awen gu;
Trwy'r dolydd taro 'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.
Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd;
Ni cherdd a foliannoch chwi
Dir angof, er ei drengi;
Prydyddwch, wŷr per diddan,
Anfarwol, ragorol gân;
Fal y cân Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau;
Hawdd fodd i'w ddyhuddo fu
O waith beirdd a thabyrddu.
Ganed i ninnau gynnawr,
Un a haedd gân, maban mawr.
Ein tynged pan ddywedynt,
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf, o ddynfder calon,
Am yr oes aur eu mawr sôn.
Cynnydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion, wŷr gwychion gwiw!
Cynnydd, fachgen! Gwên gunod
I mi 'n dâl am Awen dod.
Croesaw 'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;

Gwrda fych, fal eich gwirdad,
A gwych y delych chwi 'n dad
A phoed i'w taid gofleidiaw
Eich meibion llon ymhob llaw
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal y gofal ag ef.

Dengys, yn oed ieuangwr
Tra fych, a wnelych yn wr,
Ac ym mysg pob dysg y daw
Gweithred odidog athraw.
Os o hedd melys a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir,
Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion,
Gwelwch yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaywgochion gyn
O deg irdwf haf gwyrda,
A gnawd oedd, o egin da.
Nid oes gel o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.

Drwy ba orfod y codi—
Dylid aer gan dy law di—
Pa esgar? pwy a wasgud?
Pwy wyra d' eirf? pa ryw dud?
Duw wnel yt roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw;
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.

Diau na ladd rhydain lew;
Adwyth i dylwyth dudew
Annog bygylog elyn;
Afraid i Frytaniaid hyn.

Ai arwylion, oer alaeth,
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant;
Och o'r gwymp drachwerw a gânt.
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu 'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf
Pa les a wna 'u diles dorf?
Torf yn ffwyr gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,
Ac a dâl â gwaed eilwaith.
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior, oreubor o rym
Ryfelwr, ac eirf Wilym,
A âd ddim i'r do a ddaw
Deled bri Ffrainc i'ch dwylaw;
A deled—Duw a iolaf—
I chwi fyd hawdd a nawdd Naf:
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch!
Ac yno cewch deg ennyd
I orphwys o bwys y byd,
I fwynhau llyfrau a llên,
Diwyd fyfyrdod Awen;
Ac oni feth y gân fau,
Syniwch a genais innau,
Fardd dwyiaith, dilediaeth lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen
Hyfryd, tra rheto Hafren.

Ac yno tra bo trwy barch
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymry gain.


Northolt, Mai 28, 1756.

Y TAD, A welwch chwi bellach beth yw taro diogi ar draws ei ddannedd? Dyna chwi Ganiad Llwydlo o'r diwedd, a gwnewch yn fawr o honi, os haeddai, neu beidiwch. Ond gwych y mae'r hin hafaidd, araul, fendigaid hon yn dygymmod a'r Awen? Ni feiddiai'r druanes gymaint a dangos ei phig allan o'r blaen, pan oedd yr hin yn oer; ond weithion gwych ganddi ymdorheulo yn yr ardd neu ryw laslwyn ireiddlwys yn y maes, hyd oni bo 'r tes ysblenydd yn ei gwefrio, a hithau'n canu Gwrnan Goronwy, hyd oni sereno ei llygaid.

Y DU O FON.

Nodiadau

golygu