Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Englynion o Glod i'r Delyn

Cywydd i Ieuan Brydydd Hir Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cywydd i Dywysog Cymru

ENGLYNION O GLOD I'R DELYN.

ELYN i bob dyn doniawl—ddifaswedd
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyngan, ddiddanawl,
Llais telyn a ddychryn ddiawl.

Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul ysbryd syn
Diawlaidd, wrth ganu'r delyn.


Nodiadau

golygu