Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Symud a Blinder

Cynhwysiad Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Arwyrain y Nennawr

IV. YN LLUNDAIN.

At William Morris, Meh. 7, 1755.

Y CAREDICAF gyfaill, y mae'n gryn gywilydd gennyf na ysgrifenaswn atoch yn gynt. Wala hai," meddwch chwithau, "dyna esgus pob dyn diog." Ond ymhell y bwyf os oes gennyf rith o ddim i'w ysgrifennu weithion; ac oni bai ofn bod yn ddau eiriog, mi ddywedwn ei bod hi'n rhy fuan i ysgrifennu eto.

Mi fum yn hir yn lluddedig, ar ol fy maith ymdaith o'r Gogledd; ac nid oes eto ddim. gwastadfod na threfn arnaf; ond yr wyf yn gobeithio na byddaf 'chwaith hir heb sefydlu mewn rhyw le, oblegyd fod y Cymrodorion i gyd yn gyffredinol, y ddau frawd yn enwedig, yn ymwrando ac yn ymofyn am le imi.

Wele! dyma fi wedi myned yn un o'r Cymrodorion yn y cyfarfod diweddaf; ond ni welaf eto fawr obaith cael eglwys Gymreig. Pobl wychion odidog, mi rof i chwi fy ngair, yw 'r Cymrodorion, dynion wyneb lawen, glân eu calonnau oll. Mae'n debyg y gyr y pen llywydd, Mynglwyd, i chwi Lyfr y Gosodedigaethau, oni yrrodd eisus. Gwych o hardded yw arfau Llewelyn ap Gruffydd, llun Dewi Sant, a derwydd, &c., sydd o flaen y llyfr, wedi eu torri ar gopr yn gelfyddgar ddigon. Ni welwyd yng Nghymru erioed debyg i'r llyfr hwn.

Y mae pawb yma yn rhwydd iachus, fel yr ych yn clywed, mae 'n debyg, yn o fynych. Mae fy holl dylwyth i yma bob y pen, ond fy merch bach a fynnai aros yn Monwent Walton o fewn deu-rwd. neu dri at y fan y ganwyd hi. Mi wnaethum ryw ddarn o farwnad iddi hi, yr hon mae 'n debyg a welsoch cyn hyn.

Rhowch fy ngwasanaeth at Mr. Ellis yn garedig; a gadewch gael rhyw swm o newyddion o Fon gynta galloch. Chwi a welwch na fedraf ond rhy brin ymodi fy mhin na 'm bysedd i ysgrifenu, ac yn wir nid oes arnaf na Ílun na threfn iawn o eisieu sefydlu mewn rhyw wastadfod fy hun. Gyrrwch cyhyd a'ch bys o lythyr yma. gyntaf ag y galloch, er cariad ar Dduw, ac yno odid na fyddaf mewn gwell cyflwr i'ch ateb y tro. nesaf. Dyma Mr. John Owen yn rhoi llythyr at ei fam yn yr un ffrencyn. Ein gwasanaeth at bawb a'n caro 'n ein cefnau. Byddwch wych.

GORONWY DDU.


Nodiadau

golygu