Gwaith Gwilym Hiraethog/Emynau

Richard Jones, Llwyngwril Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Pwy, Pwy yw Ef


Emynnau

Cariad crist

Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli;
Tywysog Bywyd pur yn marw,
Marw i brynu'n bywyd ni;
Pwy all beidio cofio amdano?
Pwy all beidio canu 'i glod?
Dyma gariad na a'n anghof
Tra bo nefoedd wen yn bod.

Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynhonnau'r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau'r nefoedd
Oedd yn gyfain hyd yn awr;
Gras a chariad megis diliw
Yn ymdywallt yma'n nghyd,
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd.



Hawddgarwch Crist.

MARCHOG yn dy degwch dwyfol,
A dadguddia'th hawddgar wedd;
Mae'th hawddgarwch yn dychrynu
Angeu, uffern fawr, a'r bedd;
A chalonnau meibion dynion
A lesmeiriant ger dy fron,
Wedi 'u trechu gan belydrau
Cariad dy wynepryd llon.

Tecach yw na meibion dynion,
Fe dywalltwyd gras a rhin,

Ar ei wefus: melus odiaeth,
Yw ei enau, fel y gwin.
Ar ei ruddiau mae lledneisrwydd,
Purdeb ac addfwyndra 'nghyd,
Yn rhyw hyfryd gydgymysgu,
Iesu, tegwch wyt i gyd!


Holltau'r Graig.

PAN oedd Sinai yn melltenu,
A'i tharanau 'n rhwygo'r nen,
Cwmwl tanllyd ei melldithion
Ar ymrwygo uwch fy mhen,
Nef a daear yn fy ngwrthod,
F' erlid wnai 'r uffernol ddraig,
Yn fy mherygl a'm cyfyngder,
Ces ymguddfa 'n holltau 'r graig.

Dyma'r fan y gwnaf fy noddfa,
Yma llecha f'enaid gwan,
Pan fo'r gwynt a'r tonnau 'n curo,
Dyma'r unig dawel fan;
Rhued byd ac uffern greulon
Yn eu llid i'm herbyn mwy,
Minnau 'n holltau 'r graig a ganaf,
Ac nid ofnaf monynt mwy.

Ac yn nydd y farn ofnadwy,
Pan y ffy'r mynyddau mawr,
Ac y syrthia ser y nefoedd
Megys ffigys ir i lawr,
A'r elfennau 'n cydymdoddi,
Gwres yn berwi tonnau 'r aig,
Dewrion fyrdd yn bloeddio 'n chwerw,
Canaf fi yn holltau 'r graig.


Nodiadau golygu