Gwaith Gwilym Hiraethog/Yng nghadair Prifardd
← Bedd Williams o'r Wern | Gwaith Gwilym Hiraethog gan William Rees (Gwilym Hiraethog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ar ymweliad i Gymru → |
BREUDDWYD ADGOF
"Adgof hen deimladau dedwydd,
Adgof ydyw'r oll o'm cân.
YNG NGHADAIR PRIFARDD.
EDRYCHWN ar gadair prif fardd eisteddfod freiniol bob amser fel sefyllfa uwch law galluoedd pennaf fy awenyddiaeth i fedru dringo iddi; ac, yn wir, ychydig iawn o eiddigedd a deimlaswn un amser am y ragorfraint. Ac o herwydd y ddau beth yna, ni chynygiaswn erioed am dani, na meddwl o ddifrif am hynny chwaith, hyd nes y daeth testyn cadair Eisteddfod Madog allan yn 1851. Teimlais awydd cryf i gyfansoddi "Awdl ar Heddwch" i'r gystadleuaeth honno, deued a ddelai o honi. Yn gymaint ag mai Brwydr ydoedd testyn fy nghyfansoddiad cystadleuol cyntaf, y byddai i hwn, yr olaf yn ddiau i mi, ddwyn ei dystiolaeth dros Heddwch, a dadgan rhinweddau a bendithion tangnefedd.
Llefara fy meirniaid yn uchel am deilyngdod yr "Awdl ar Heddwch;" ond dywedant,— Da pe cawsai yr awdwr ychydig mwy o hamdden i'w hadolygu cyn ei hanfon i'r gystadleuaeth." Ychydig iawn yn wir o hamdden at hynny a allasai gael—yr oedd yn anorffenedig foreu y dydd olaf i'w dodi yn y llythyrdy i'w chludo i law ysgrifenydd yr eisteddfod. Yr oedd ganddo, tra yn ei chyfansoddi, heblaw ei alwadau gweinidogaethol, a golygiaeth yr Amserau (yr hwn oedd o dan ei ofal y pryd hwnnw), y llyfr Seisonig a gyhoeddodd—"Providence and Prophecy"—yn y wasg; un tudalen o'r hwn a gymerai gymaint o'i amser i'w barotoi ag a gymerasai hanner cant o dudalenau yn y Gymraeg.