I'r Parch. Rees Jenkin Jones ar ei briodas â
Miss Anne Griffiths, "The Poplars," Aberdar.[1]
DAETH terfyn ar dy weddwdod, gyfaill, do,
Er iti yn ei fwynder oedi tro;
Braidd tybiais y doi adeg i dy gwrdd
O luest gweddwdod i dy symud ffwrdd,
Ond y mae newid ar feddyliau dyn—
Ansicrwydd â'i gynlluniau oll yn nglyn.
Dy ganwyll unig hir yn llosgi bu
Ar fychan fwrdd, trwy lawer gaeaf du;
A thi'n myfyrio yn dy feudwy gell
Ar ryw ddyrysbwnc o olrheiniad pell;
Llais tyner benyw gyda'i ryfedd swyn,
Na chri teg faban yn ei hwyrol gwyn,
Ni thorrai fyth ar y distawrwydd prudd,
Gan godi gwrid o obaith ar dy rudd.
Ond, medd hynafol ddysg, mae angel llon
I bob un enir ar y ddaear hon,
'Roedd ar dy gyfer dithau, gyfaill cu,
Ac agos atat am flynyddau bu,
Heb it' ei hadwaen fel 'd angyles di;
Ond bellach adnabuost, hawliaist hi.
O pa mor fynych bydd hi yn y byd,
Dau fywyd fel dwy gomed, wibiog fryd,
Yn hwylio ar draws yr eangderau maith,
A deddf atyniad dirgel wrth ei gwaith,
Nes cwrdd ynghyd, nes uno'u llwybrau hwy
Trwy gyfraith serch yn anwahanol mwy.