Gwaith Gwilym Marles/Duw sydd Noddfa

Ochenaid Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Anadliadau


BEDD GWILYM MARLES.

Nos angau, yw hi'n ddu a hir?
Yw'r bedd arwyddlun gwir ohoni?"


OCHENAID.

TI fuost bellach lawer noson faith,
O Gwsg! heb ddisgyn ar fy amrant flin;
Mae'r cof fel annedd ddadfeiliedig laith,
Heb ddrws na ffenestr, a thrwy'r muriau crin
Awelon broch yn rhuthro, gan ddeffroi
I fywyd ddrychiolaethau, pruddaidd lu;
Gorffwysfa fyddai'n felus, yn lle troi
Fel drws ar golyn, trwy'r tywyllwch du.

Mae'n felus hun y gweithiwr, cynt nis rhydd
Ei braff aelodau ar ei wely i lawr
Na chan ei ludded cysgu'n dawel bydd,
Heb agor amrant nes y gwnelo'r wawr.
Dymunaf weithiau âg ef newid byd,
Gael gwely'n ymyl y murmurog li,
A choed awelog gylch fy mwthyn clyd,—
Pwy ŵyr na ddygai hynny hedd i mi?

Fe gwsg y morwr ar yr hwylbren fry,
Yn iach ei fron, ynghrog rhwng daer a nef;
Tra'r gwynt yn chwythu yn ei udgorn cry,
Bydd ef mewn breuddwyd gyda'i fam yn nhref;
Wyf finnau'n cofio hirgwsg mebyd mau,
Rol dydd o chware cawn freuddwydion per,
Cysgodau'r hwyr wnaent imi lawenhau,
A gwledd oedd gweld y nos a'i myrddiwn ser.

Daw angau'n fuan, mi gaf felus hun,
Fy mam, y ddaear, rydd im wely clyd;
Yr esgyrn doluriedig hyn, bob un,
A garant orffwys wedi curio cyd;
Yn iach, fy mhlant yn iach, fy mhriod mad!
Caraswn aros yn eich cwmni chwi;
Ond gan nad hyn yw 'wyllys dwyfol Dad,
Mae marw'n well na byw yn awr i mi.


Nodiadau

golygu