Yr oedd yno'i nodwydd fechan,
Ac ynddi'r edau fain,
Yn ymyl ei gwniadur,
Fel gadawsai hi y rhain;
Ni fynnai cariad mam
Adael dim i fynd ar goll,
Cariad tad a fynnai'n gystal
Ar glawr eu cadw oll.
Pan ddychweli adre, 'mrawd,
Ar derfyn gwaith y dydd,
Ar y trothwy'n siriol
I'th roesaw hi ni fydd ;
Ond O! i'w mam sy gartref
O hyd caletach yw,—
Trigo'n y distawrwydd,
Lle bu gynt lawenydd byw.
Pan aethom tua'r fynwent,
Eich dau a minnau 'nghyd,
Ac y safem uwch ei bedd
Oedd yn flodau drosti i gyd,
Gwelais nad allasai neb ddirnad
Maint eich trallod trwm,
Ond y sawl trwy brofiad wyddant
Mor agos yw y clwm.
Ac eto pan y craffwn
Ar eich gwasgedig wedd,
Mi welwn yno ddelw
O ryw dawel hyfryd hedd;
Gobaith, angyles dirion,
A wnaethai yno'i nyth,
A theimlech fod eich plentyn
Yn fyw, i farw byth.