Gwaith Gwilym Marles/In Memoriam
← Anerchiad Priodasol | Gwaith Gwilym Marles gan William Thomas (Gwilym Marles) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Parch. J. E. Jones → |
IN MEMORIAM.[1]
EVAN WALTER GRIFFITH,
ganwyd Ionawr 16eg, 1867; bu farw Ebrill 29ain, 1878
FEL gwaeda 'nghalon gan ei chlwy',
O'th fyned di, ein bachgen mad,
Ag oit yn bopeth mam a thad,
Ac na ddoi 'nol i'r ddaear mwy.
Gwaith caled ydyw canu'n iach,
A meddwl mwy dy weld na chawn
Ar yr hen aelwyd gynnes iawn,
Lle cwrdd y teulu fawr a bach.
Ni ddisgwyliasem bethau mawr
Pan wyliem dwf dy feddwl byw;
Ond mynych y mae trefnau Duw
Yn bwrw ein holl gynlluniau'i lawr.
Fe sydd i ddweyd, mae'th daith ar ben,
Yn llawn mae dalen fach dy ddydd,
A'th bererindod drwyddi sydd;
Dywedwn ninnau, "Felly, Amen."
Cyfeillion goreu'r ddaear hon
Wasgerir oll, a chaled yw
Dweyd,—"Gwnaer d'ewyllys di, O Dduw;
Ond O, rho'th hedd i lanw ein bron."
A chysur nefol inni oll,
O boed y gobaith am ail gwrdd;
Fel llithro'r bywyd hwn i ffwrdd
I'r wlad lle na fydd neb ar goll.
CAPEL LLWYN RHYD OWEN (YR HEN).
(Y Capel y trowd Gwilym Marles a'i gynulleidfa ohono.)
Mae glaswellt ar y llwybrau,
Y llwybrau oent mor lân."
Nodiadau
golygu- ↑ Cyfieithiad o Saesneg R. J. J., brawd—yn—nghyfraith yr ymadawedig.