Anadliadau Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Ymholiad


MELUS.

MELUS iawn i'r claf yw gwely,
Melus gan y teithiwr lety;
Melus yw i flin ymdeithydd
Ei hen fro a'i gartre dedwydd.

Y morwr dewr ar frig y tonnau
Sy'n ymfrwydro â'r elfennau,
Melus ydyw iddo lanio.
Yn y porthladd mae'n ddymuno.

Melus yw i'r oen fu'n crwydro
Gwrdd â'i fam a chwiliai am dano;
Melus ddychwel at yr eiddo
Y dryw bach a lluniaeth ganddo.

Melus i'r hynafgwr gyrraedd
Pen y rhiw, gan faint ei lesgedd;
A llawenydd gan y baban
Allu cerdded witho'i hunan.

Gwelais lanc o Gymru dirion
Draw ymhell yn ngwlad yr estron,
Mewn twymyn boeth, heb allu canfod
Neb o'i gylch oedd yn adnabod.

Aeth ei fam ar edyn cariad
Ac O! fel taniodd ei ddau lygad
Pan ei gwelodd gerllaw iddo
O wir serch yn gweini arno.
Melus ydyw caffael trysor
Fu yn ngholl am hirfaith dymor;
 Llais hen ffrynd sy felus odiaeth
Wedi blwyddi o ysgariaeth.


Melus yw mewn gwlad estronol
Gwrdd â chyfaill ffraeth a siriol;
Melus iawn i glaf ar fordaith
Yw un anwyl yn gydymaith.

Melus yw ar fynydd unig,
Ym mhlith llwybrau dyrysedig,
Lle bo dyeithr-ddyn yn crwydro,
Gael arweinydd i'w gyfrwyddo.

Melus pan fo llwybrau bywyd
Yn cydgwrdd ar ffiniau'r eilfyd
Fod rhyw lais o fewn yn tystio
Na fu'r bywyd ofer drwyddo.


Nodiadau

golygu