Gwaith Gwilym Marles/Rhagymadrodd
← Gwaith Gwilym Marles | Gwaith Gwilym Marles gan William Thomas (Gwilym Marles) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cynhwysiad → |
Rhagymadrodd
WRTH gasglu cyfrol o waith Gwilym Marles, yr wyf yn gadael o'r neilldu bethau pwysicaf ei fywyd, sef crefydd a gwleidyddiaeth. Ymdrechodd ymdrech deg dros oleuni a rhyddid,
"And from the pulpit zealously maintained The cause of Christ and civil liberty As one, and moving to one glorious end."
Yn ei fywydd hawddgar a phrudd, canodd aml gân, a darluniodd lawer golygfa ym more oes. Casgliad o'r rhai hynny,—ambell gipdrem ar hen Eden mebyd drwy ystormydd bywyd,—ydyw y gyfrol hon.
Ganwyd William Thomas (Gwilym Marles) yn Glan Rhyd y Gwiail, ar lan afon Cothi, ym mhlwy Llanybydder, rhwng pentrefydd Brechfa ac Aber Gorlech, sir Gaerfyrddin, yn 1834. Mab y Gelli Grin, ger Brechfa, oedd William Thomas, ei dad; ceir darluniad ohono yn "Pa fanteision gawsoch cbhwi?" Un o deulu Llwyn Celyn oedd Ann Jones, ei fam,—geneth ddeallus a phrydferth, briododd yn ddeunaw oed. Dywedir yn hunangofiant y Parch. Evan Lewis, Brynberian, wrth son am yr ymdrech ddysg yn ysgol Abergorlech,— "Mae yn gof gennyf mai merch Ysger Onnen oedd y dynnaf i mi, sef mam y diweddar Gwilym Marles.' Mabwysiadwyd Gwilym gan fodryb, chwaer ei dad; yr oedd ei gŵr yn ddiacon gyda'r Anibynwyr yng Ngwernogle. Cartref crefyddol oedd cartref mebyd Gwilym Maries a'i wyneb at Haul Cyfiawnder. Ar y Beibl yr oedd myfyrdod y teulu, a thrwythwyd meddwl y bachgen deallgar yn ei ysbryd. Yr Ysgol Sul oedd ei hoff gyrchfan, ar fywyd yr Iesu yr oedd ei feddwl. Dan bren yn y maes, ar lan afon, ymgymunai a'i Dduw uwchben ei Feibl am oriau. "Llawer tro y gweddiais yn yr hen go glau cysegredig, a than y derw urddasol o gylch fy nghartref, ac yr oeddwn yn teimlo y pryd hwnnw a chredaf yn awr i mi fwynhau cymundeb pur a melus yr Ysbryd mawr lawer gwaith. Ac os y glân ei law a'r pur ei galon, os y galon ddrylliog a'r ysbryd cystuddiedig yn crynu wrth ei air, sy gymeradwy gyda Duw, pa fodd nad oes gennyf sail dda i gasglu mai oddiwrtho Ef y deuai yr hyfrydwch a'r hedd a ddylifent i fy mynwes?"
Nid oedd bosibl cael gwell parotoad at ymdrech ei fywyd. Cyfarfyddodd, yn yr ysgol ac yn y coleg, fechgyn yn dod o gartrefi mwy urddasol a llawnach o lyfrau na'i gartref gwledig ef; ond yr oedd yntau wedi ei fagu mewn lle yr oedd Natur ar ei harddaf, a Duw yn ymyl. "Talk of courtly manners," meddai rhywun, "the Christian lives in a Court."
Aeth i ysgol Ffrwd y Fâl, at Dr. William Davies; oddiyno, ym Mehefin, 1852, i Athrofa Bresbyteraidd Caerfyrddin. Dyddiau llawn oedd dyddiau'r coleg,—yr ymdrechi ennill y blaen, y llyfrgell gyfoethog, y chwalu a'r chwilio ar hen dybiau, yr anobaith a'r goleuni. Yn 1856 enillodd ysgoloriaeth Dr. Williams, ac aeth i Brifysgol Glasgow. Graddiodd yn anrhydeddus yno; ac yn 1860 ymsefydlodd yn fugail ar hen eglwysi Undodol Dafis Castell Hywel, sef Llwyn Rhyd Owen a Bwlch y Fadfa. Daeth ei fywyd yn llawn o waith ar unwaith.
Yr oedd wedi ei eni'n athraw. Agorodd ysgol yn Llandysul, ac enillodd serch a pharch ei ddisgyblion fel nad oedd eisiau gwialen na cherydd. Yr oedd un o'i ddisgyblion, James Lloyd wrth ei enw, yn gyd-efrydydd â mi yn Aberystwyth; a chofiaf yn dda fel yr ymylai ei barch i'w hen athraw bron ar addoliad. Bu'n athraw i Islwyn hefyd, yn 1858.
Yr oedd yn llenor bron o'i febyd. Mae ei iaith yn seml gyfoethog, ei deimlad yn ddwys a thyner. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion yr oes, cyhoeddodd gyfrol o brydyddiaeth cyn gadael Glasgow, a golygodd yr Athraw o Medi, 1865. i Awst, 1867.
Ymdaflodd i wleidyddiaeth â holl ynni tanbaid ei wladgarwch ysol. Cyfnod cyffrous oedd hwnnw, rhwng Ail Ddeddf Rhyddfreiniad y Bobl yn 1867 a'r Drydedd. Dyna ddyddiau yr ymdrech chwerw rhwng y tenant a'r meistr tir yng Nghymru, yr ymdrech roddodd fod i Ddeddf y Tugel a Deddf y Bwrdd Ysgol. Arweiniwyd Gwilym Marles gan ei gariad at y werin i fan poethaf yr ymladd. Ac o hynny y cododd profedigaeth fawr ei fywyd; Hydref 29, 1876, trowd ef a'i gynulleidfa o hen gapel Llwyn Rhyd Owen. Ym mynwent y capel hwnnw, erbyn hynny, gorweddai gwraig ei ieuenctyd a'i eneth fach. Clywodd Cymru lais clir y gweinidog dewr, Yr ydys wedi ein gwawdio mai pobl dlodion a dinod ydym. Poed felly. Nid ydym ni, er hynny, yn foddlawn mesur mawredd ac anrhydedd wrth gyfoeth na gwaedoliaeth, na dynol urddas, oni fydd pethau ereill yn cyfateb. Mawr mewn gwirionedd fydd pob cynulleidfa, tlawd neu gyfoethog, yn ol mesur ei ffyddlondeb i egwyddorion uchel, ei hufudd-dod i lais dyledswydd amlwg, ei gwroldeb i faentumio iawnderau naturiol a thragwyddol dyn, ei sel i gyhoeddi'r genadwri roddodd Duw iddi i'w thraethu."
Ni fu Gwilym Marles erioed yn gryf iawn o gorff; amharodd ei iechyd dan bwys y llafur diorffwys. Cyflymodd y troad allan gamrau angau tuag ato. Ofer y teithiodd i'r Alban ac i'r môr i chwilio am adferiad. Rhoddodd ei ysgol i fyny, yna ei ddiadell erlidiedig. Rhagfyr 11, 1879, hunodd yn esmwyth, gan ffarwelio a phoen a gofid am byth. Rhoddwyd ef i orwedd ger ei gapel newydd, capel erys i gofio am gydymdeimlad Cymru gyfan âg ef.
Daw ei fywy pur, ei amcanion uchel, hoffusrwydd ei ysbryd addfwyn, dedwyddwch a phrudd-der cysegredig ei fywyd, ei sel dros y gwir a thros y werin, yn amlwg i'r darllenydd wrth ddarllen y gyfrol hon.
Yr wyf yn ddiolchgar iawn i ferch Gwilym Marles, Miss Marles Thomas, am bob rhwyddineb i gyhoeddi; i'w frawd, Mr. T. Thomas, 185, Aldersgate St., Llundain, am hanes bore ei oes; i Mr. E. B. Morris, Llanbedr, am amryw ganeuon; ac yn enwedig ir Parch. R. Jenkin Jones, M. A., Aberdâr, oddiwrth yr hwn y cefais bron bopeth sydd yn y gyfrol. Nid y peth lleiaf ym mywyd llafurus Mr. Jones, ac yn ei wasanaeth amhrisiadwy i lenyddiaeth Cymru, yw galw sylw Cymru at fywyd prydferth ei hen gyfaill.
OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen, Mehefin 26, 1905.