Gwaith Gwilym Marles/Wrth ddychwel o Angladd

Ym Mrig yr Hwyr Gwaith Gwilym Marles

gan William Thomas (Gwilym Marles)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yr Hydref


WRTH DDYCHWELYD O ANGLADD.

OER yw ei gwely heno,
Y serchog garedig un,
Gwlyb yw y gwely ac unig
Lle'r huna ei hirfaith hun;
Araf y rhoed hi i orffwys
Dan gawod o ddagrau drud;
Rhoed hi ymhlith ei chyfeillion,
Ond O! y maent oll yn fud!

Adref pan droi, fy nghyfaill,
O ymyl ei newydd fedd,
Unig ac oer fydd yr aelwyd,
Amddifad o'i serchus wedd;
Trannoeth ar ol bod yn claddu
Un anwyl, y mae cyhyd
A'r maith flynyddau dedwydd,
A'u dodi hwy oll ynghyd.

Rhaid yw ei gadael yna,
Yng ngwely cauedig y llawr;
Heulwen ni chyfyd arni,—
Mae nos y du fedd heb wawr;
Gwyntoedd y gaeaf nis torrant
Ei hun, er mor groch eu llef;
Yn ofer y rhua'r daran
Ar bell uchelfannau'r nef.

Gwanwyn a ddaw â'i awelon,
Daw tirion awelon haf,
Mwngial y gwenyn diwyd
O flodyn i flodyn braf;
Miwsig pereiddiaf daear
Ni threiddia ei mynwes hi,
Byddar i'w phlant ei hunan
Pan dorcalonusaf eu cri.


Gwelais y tlawd di-nodded
Yn wylo ar glawr ei harch,
Clywais ei chymydogion
Yn croew ddatganu ei pharch;
Crwydryn digartref, pan ddelo
Fel cynt am ei chardod lwys,
Wyla pan fynegir iddo
Ei chuddio o dan y gwys.

Iach iti, O fad gyfeilles!
Mae 'mywyd o'th blegid yn well;
Blaenaist ychydig arnaf
Ar daith y gororau pell;
Melus fydd y cof am danat
I mi o dan lawer cur,
A pher yw i mi y gobaith
O'th gwrdd yn y gwynfyd pur.


Nodiadau

golygu