"Y Ffol a wawdia."-Apocrypha.
FFOL a wawdia." Gwawdied;
Hen arfer ffol yw hyn;
Ac wedi gwawdio, gwawdied,
Mor fynych ag y myn.
Ni chwerddir cam yn gymwys
Nes newid dŵr yn dân,
A gweithred front o natur
Ni olchir byth yn lân.
Clindardded hen foncyffion
Diwerth hynafol stad
(Mae'r coed fu'n tyfu arnynt
Ar wasgar hyd y wlad),
Gan chwerthin yr ynfydion
O Gletwr hyd y môr;
Ond camwedd bar yn gamwedd
Nes diffodd haul a llo'r.
Mae gallu mawr gan arian,
Mae gallu mwy gan ras;
Mae gallu gan genfigen
A chan uffernol gas ;
Mae gallu mwy mewn cariad,—
Egwyddor bro yr hedd,
Ac ar y gallu yma
Ni bwyswn hyd ein bedd.
Mae'n hawdd troi dynion allan,
Os cyfle fydd yn rhoi;
Os allwedd at y pwrpas,
Gwaith bychan ydyw cloi;
Hawdd porthi gwŷn dialedd,
A throi mewn rhwysg a rhod,—
|
Ond O, mae Duw'n y nefoedd,
Mae fory eto i ddod.
I ddyn ni roddwyd meddwl
I blygu'n llwfr i'r llawr,
O flaen ystranciau golud
A rhodres munud awr;
Mae ganddo'n hytrach blygu
Ger mawredd Duw pob gwir,
Yr hwn mae dydd ei farnau
Yn dragwyddoldeb hir.
Aiff heibio heddyw dywyll,.
Mae hyfryd wawr gerllaw;
I berchen glân gydwybod
Un arswyd byth ni ddaw;
A leddir, byth nis lleddir
Ag arfau trais y dydd,
Yr unig angau i'w ofni
A ddaw o wendid ffydd.
Wyryfon teg a llanciau,
Boed ynnoch fyth ynglyn
Y meddwl puraidd hwnnw,—
Fod Duw yn fwy na dyn;
Mai nid ar fara'n unig
Y bydd y cyfiawn byw,
Ond ar bob iawn egwyddor
O blaniad Ysbryd Duw.
|