Gwaith Huw Morus/Carol Gwyl Ystwyll

I ofyn coron Gwaith Huw Morus

gan Huw Morus (Eos Ceiriog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Carol Nadolig

CYD-GENWCH.
CAROL GWYL YSTWYLL YN Y FLWYDDYN 1697
Tôn,—"GADEL TIR.

CYD-GENWCH y plygen ar gywer ag awen
Fawl a chlod llawen i berchen y byd,
A gododd hil Adda o'r dyffryn truana
I noddfa'r bri ucha,—bro iechyd.

Pan oedden mewn aflwydd, wedd egwan o ddigwydd,
Crist o gardigrwydd, yn sicrwydd a'n sel,
O'r nef a ddantonwyd, a'i waed a dywalltwyd,
I'n cadw rhag caeth-rwyd y cythrel.

Cymerodd gnawdolieth o'r forwyn lan berffeth,
Mair dda i llyfodreth, bur odieth i braint,
I fod yn Dduw cyfon, a dyn er mwyn dynion,
I ennill y goron i'w geraint.

Bu hysbys yr arwydd i gofio'n dragywydd
Pan anwyd y'n Harglwydd a'i gynnydd yn gain,
Seren o'r nefoedd a wele'r brenhinoedd
Yn dirion ar diroedd y dwyrain.

Hwy glywsent broffwydo am seren i'w sirio
Pan enid y Seilo, groeshoeliwyd yn drwch,
A'r doethion yn disgwyl i eni'n Dduw anwyl,
I'w addoli ar ddygwyl i degwch.


Y ffordd nid adwaenen, ond canlyn y seren,
A hithe'n i harwen, wen bellen y bwyll,
Nes dangos yn eglur lle'r oedd y Penadur,
A'i fam, yn ddi-rwystr yr Ystwyll.

Y bachgen addolen, ac iddo offrymen,
A Herod a siomen, rhy filen oedd fo,
I fwriad ysgeler a'i feddwl oedd eger
Ar feder ar fyrder i fwrdro.

Herod ddihirwas, pan welodd i luddias,
Gorchmynnodd trwy'r ddinas yn adgas i nod
Ddifa pob maban hyd ddwyflwydd o oedran,
I geisio 'n Duw bychan di-bechod.

Joseph a'i cadwodd, a Mair a'i meithrinodd,
A'r mab a gynhyddodd, iawn dyfodd yn deg,
A'i wyrthie diragrith gwnai 'r bresiach yn wenith.
A'r felldith yn fendith gyfiawn-deg.

Efengyl i ene sydd seren i ninne,
A'r Ysbryd Glân gole, i'n galw ger bron;
Offrymwn ar linie, addoliad a ddyle,
A serch y'n calonne, coel union.

Na chymrwch hyfrydwch o rodio 'r anialwch,
Os rhodiwch, chwi syrthiwch i dristwch di-ras;
Mae'r byd a'i wag flode yn hudo o'r gole
I golli 'r ffordd ore; ffair ddiras.

Mae'n rhaid i bob Cristion ffrwyno i feddylion,
Os myn y ffordd gyfion yn union i'r ne',
Tra byddo'r cnawd ynfyd yn drechach na'r ysbryd,
Mae'r dyn yn cam-gymryd i gamre.

Wrth ddyfod o'r bregeth, yn harfer, ysyweth,
Yw son am hwsmoneth a'n coweth i'n co,

A'r had bendigedig yn syrthio i blith cerrig,
Heb gael mo'r lle i gynnyg egino.

Ystori o drwst arian ydi'r bregeth sy rwan,
A'r ffordd ore amcan a hwylian i'w hel,
Ac ofni pob blinder, a dderfydd ar fyrder,
A siarad mawr ofer am ryfel.

Nac ofnwch erlidwyr, fel Hered a'i fwrdrwyr,
O bobl ry bybyr i brwydyr, heb raid;
Er dwyn y corff ceinfoes o fwriad i fyrroes,
Ni allan ddwyn einioes un enaid.

Ofnwch a cherwch Dduw, frenin yr heddwch,
Mewn gole a dirgelwch ymdrechwch â'r drwg,
A chofiwch fod Iesu ag awdurdod i dawlu
Y dyn wedi dallu i dwllwch.

Os byddwch fabanod, i orffwys mewn pechod,
Chwi gollwch y cymod a'r amod o ras;
Y diwiol i ymdeithio, a'i sail ar ffordd Seilo,
A fydd a'i nôd arno 'n i deyrnas.

Duw o'i drugaredd a'n dyco 'n y diwedd
I gael i dangnefedd a'i 'mgeledd yn gu;
Nid allwn gael cennad i fynd at yr hedd-Dad,
Trwy rad na mabwysiad, heb Iesu.


Nodiadau

golygu