Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Penhillion y Telynor

Curadiaeth Esmwyth Gwaith Ieuan Brydydd Hir

gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Caniad ar enedigaeth Sior, Tywysog Cymru

PENHILLION Y TELYNOR.

Newick, Gorffennaf, 29, 1767.

ANWYL Gyfaill,[1]—E ddywawd Mr Llwyd o Gowden i Barri y Telynior grefu ychydig o benhillion Cymraeg ganddo ef, a chyfieithiad Seisnig o naddynt, o ba benhillion y rhoddwys i mi gopi pan fum yn ymweled âg ef, megys y gallwn innau elfyddu rhyw beth, o deuai chwimp o'r fath honno i'm pen; ac ddoe brydnawn, gwedi blino rhodio'r meus- ydd, mi a gyfansoddais y penhillion canlynol. Ni wn i gyweddant â'r mesur ai peidio, o herwydd nad wyf yn deall miwsig. Pa fodd bynnag, chwi sydd, agatfydd, well barnydd, mewn miwsigyddiaeth, a ellwch, os rhynga bodd iwch, eu danfon at Barri, i edrych a ellir eu cymhwyso i'r delyn. Y mae'r testun, hyd ag yr wyf fi yn deall, wedi ei gyfaddasu i flas Penllywydd y deyrnas; ac o ran fod y telynior yn ddyn dawnus o Gymru, gresyn na chai ef ganu ambell bennill Cymraeg i Dywysog Cymru, o'r hyn leiaf dan ystlys y rhai Seisnig. Nid wyf fi ond anghyfarwydd yn y fath yma o brydyddiaeth, ac felly, os methais, rhaid cymeryd yr ewyllys yn lle'r gallu.

Yr eiddoch yn ffyddlon,
EVAN EVANS.

Byddai yn dda gennyf glywed, pan ddych- welo'r ddau wr boneddig gan Dafydd ap Gwilym a'r Cadben Lewis o Lyn Cothi o Rye. Fy ngwasanaeth atynt.

Nodiadau

golygu
  1. Rhisiart Morys.