Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Rhagymadrodd
← Gwaith Ieuan Brydydd Hir | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cynhwysiad → |
Rhagymadrodd.
AR amser y cymerai llawer ddyddordeb yn llenyddiaeth Cymru y ganwyd Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) yn amaethdy y Gynhawdref, Lledrod, Ceredigion, Mai 20, 1731. Yr oedd i leuan athrylith bardd a chywreinrwydd hanes- ydd, a chafodd gyfrinach Edward Richard, y Morusiaid, Goronwy Owen, Gray, a'r Esgob Percy. Ond dilynwyd ef ar hyd ei oes gan dlodi, gan esgeulusdod esgyb Eingyl ei ddydd, a chan fleiddiaid didrugaredd oedd wedi fagu yn ei natur ei hun.
O ysgol Edward Richard aeth i Goleg Merton yn Rhydychen. Daeth oddiyno, heb radd, i fod yn wibiadur o gurad ar hyd ei oes drafferthus. Yn Nhrefriw daeth i adnabod David Jones a Siôn Powel, yn Llanfair Talhaiarn daeth i adnabod William Wynn. O'r diwedd daeth yn ol at ei deulu i'r Gynhawdref. Yr oedd yn dlawd iawn, a thybid unwaith iddo farw o newyn ar fynydd. Ond yn ei gartref y bu farw, yn Awst 1789; ac y mae ei fedd heb faen na chofnod arno ym mynwent Lledrod.
Ei uchelgais oedd rhoi i'r byd hen hanes a llenyddiaeth Cymru. Ond ni fedrodd wneud, yn ei Dissertatio, ond prin ddangos y ffordd.
D. Silvan Evans roddodd oleu dydd i'w lythyrau ym Mrython Tremadog; ac o'i lafur ef, fy hen athro hoff, yn bennaf, y cesglais y dalennau hyn.
OWEN EDWARDS.