Gwaith Ieuan Brydydd Hir/Yr Esgyb Eingl
← Marwnad Lewis Morris | Gwaith Ieuan Brydydd Hir gan Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Taith yn Sir Aberteifi → |
YR ESGYB EINGL.
ANWYL Gyfaill,[1]—Myfi a dderbyniais yr eiddoch o ddiwedd mis Mai o'r drydedd eisteddiad, ac y mae yn dda iawn gennyf glywed eich bod yn fyw, ac yn ddrwg gennyf nad ydych yn mwynhau eich cyflawn iechyd: o herwydd nad adwaen i yr un Cymro a wnaeth fwy o les i'w wlad a'i iaith nog a wnaethoch chwi, er amser euraid y Frenhines Elsbeth; pryd yr oedd gennym Esgyb o'n cenedl ein hunain a fawrygent yr iaith a'i beirdd, ac a ysgrifenent lyfrau ynddi er mawrlles eneidiau gwŷr eu gwlad. Pan (Duw a edrycho arnom!) nad oes gennym y to yma ddim ond rhyw wanccwn diffaith, tan eilun bugeiliaid ysprydol, y rhai sydd yn ceisio ein difuddio o ganwyllbren gair Duw yn ein hiaith ein hunain; er bod hynny yn wrthwyneb i gyfreithiau ac ystatut y deyrnas. Da y proffwydodd Merddin Wyllt am danynt:
Oian a borchellan bydan a fydd
Mor druan ei ddyfod ag ef ddyfydd, &c.
Escyb anghyfieith diffeith diffydd.
Os byw fydd rhai, ef a gaiff y gwarthus ymddygiad yma ei lym argyhoeddi, a'i ymliw er mefl iddynt yng ngwydd y byd. Digon gair i gall. Myfi a glywaf fod gwŷr Mon am ddeol y Sais brych a dderchafwyd i fod yn Berson Trefdraeth i'w wlad ei hun, a'u bod wedi ei droi allan o'r Ysgol y Beaumares eisoes, o herwydd ei fod yn wr priawd, yr hyn sydd wrthwyneb i ewyllys y sawl a'i cynnysgaeddodd gyntaf; ac myfi a glywais hefyd fod John Thomas, usher Bangor, fy nghyfaillt, yn ymwneuthur am yr ysgol; a phoed gwir a fo'r chwedl, a llwyddiant iddo, er mefl i'r Esgob a Suddas. Am danom ni yn yr Esgobawd yma y mae'r Escob yn cael gwneuthur a fynno yn ddiwarafun; sef y mae, megys Pab arall, wedi derchafu tri neu bedwar o neiaint i'r lleoedd goreu, lle yr oedd Cymry cynhenid gynt yn gweinyddu, ac ni chaiff y curadiaid danynt ddarllen mo'r Gymraeg: ac myfi a glywais hefyd ddywedyd yn ddiweddar fod dau Sais arall yn Sir Drefaldwyn, mewn dwy eglwys a elwir Castell ac Aber Hafesb, yn darllen Seisoneg yn gyfan gyfrdo drwy gydol y flwyddyn, er nad oes mo hanner y plwyfolion yn deall nac yn dirnad dim ag a draethir ganddynt. Duw a ddelo ag amseroedd gwell, ac a atalio ar eu rhwysg, rhag iddynt andwyo eneidiau dynion dros fyth!
Y mae'r Ymwahanyddion o'r achos yma yn taenu yn frith ac yn aml dros holl wyneb Cymru. Ac y mae'r Methodistiaid wedi cynnyddu yn ddirfawr yn ddiweddar yn Neheudir Cymru, ac yn y wlad hon hefyd, yn gyfagos i'r Personiaid Eingl uchod.
Gwedi darfod y gwres angerddol ag y mae'r Poethyddion hyn yn feddiannol o hono yr awron, y mae arnaf ofn yr a corff crefydd yn gelain oer o'r diwedd, er yr holl grio, a'r gwaeddi, a'r crochlefain, ie, a'r bonllefain sydd i'w mysg yr awron. Gresyn yw fod yr annhrefn yma wedi tyfu oddi wrth y gwŷr eglwysig eu hunain, y rhai, lawer o naddynt, ni fedrant na darllen na phregethu, chwaithach iawn ysgrifenu yr iaith y maent yn cael eu bywiolaeth oddi wrthi. Y mae arnaf ofn fod Rhagluniaeth y Goruchaf wedi arfaethu yr Ymwahanyddion i fod unwaith eto yn fflangell i'n Heglwys, o herwydd yr anfad lygredigaethau yma o eiddo'r gwŷr llên yn ein mysg (os iawn eu galw felly), megys ag y buont o'r blaen.
Myfi a drof weithian oddi wrth y testun pruddaidd hwnyma at rywbeth mwy diddan. Da iawn gennyf eich bod o ddifrif yn myned yng nghylch gorchwyl mor llesawl i'n gwlad ag argraffu y Llyfr Gweddi Gyffredin mawr i'r eglwysydd. Y mae dirfawr eisiau o hono mewn llawer eglwys yng Nghymru. Duw a roddo iwch iechyd i weled ei orffen, ie, a'r Biblau mawr hefyd, o herwydd y mae'r rhei'ny yn amherffaith ac yn ddrylliog mewn amryw lannau. Da iawn hefyd a fyddai pei gellych ail gyhoeddi Llyfr y Resolution, a'r Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd.
Ni feddyliais i erioed fod y carnlleidr o Langwm cynddrwg, er i mi fynegi i'ch deu-frawd fwy nog unwaith nad ymddiriedent ormod iddo, o herwydd nad oes iddo mo'r gair da gan y sawl a'i hadwaen yn dda. Myfi a roddais iddo fy holl waith fy hun mewn prydyddiaeth Gymraeg, er mwyn eu hargraffu, es mwy no dwy flynedd, ac ni chlywais oddi wrtho o'r dydd hwnnw hyd heddyw, ac ni waeth gennyf a glywyf oddi wrtho ef na'i fath fyth.
Y mae Nennius yn aros yn yr un gywair a dylif ag yr oedd gennyf. Nid oes gennyf ddim i wneuthur ond cyfleu y nodau pan elwyf yng nghylch y gwaith o ddifrif. Myfi a fum y gauaf diweddaf yn dra afiachus gan y tostedd, a'r gwaew yn y pen, ac onid e, e fuasai wedi ei ddadysgrifenu cyn no hyn.
Am drefnu fy llyfr arall i'w ail brintio, hynny ni wnaf fi fyth, o herwydd i'r Seison anafu'r llall yn yr enwau Cymreig mor gywilyddus yn yr argraffiad cyntaf. Am waith awduraidd Taliesin, Llywarch Hen, Aneurin Wawdrydd, a'u cydoesiaid, nid oes neb a fedr eu deongl yn ein dyddiau ni. Y mae iaith y prydyddion a gyfieithais i yn ddigon dyrys, mal y gwyddoch.
Y mae yn dda gennyf glywed fod Mona Antiqua Restaurata yn cael ei dadeni drwy law mor gelfydd ag eiddo'r Dr. Owain. A oes modd i gael un o naddynt heb arian ac heb werth? Nid oes yma ddim mwnai i'w gael gan guredyn llymrig. Gresyn na byddai modd i drefnu Geiriadur y Dr. Davies, a'r Celtic Remains o eiddo'ch brawd, a'u rhoi i'r wasg. Myfi a welais rai mân draethodau ganddo wedi eu gorffen yn berffeith-gwbl, sef Amddiffyniad Hanes Tyssilio yn erbyn Milton, Camden, Nicolson, ac ereill. A ddaeth y rheiny i'ch llaw? Myfi a welais waith Mr. Pennant : gorchestol iawn ydyw. Newidiwch y llinell ganlynol ym Marwnad eich brawd Lewis yn y wedd hon:
Yn lleMor frwd oedd ei ammur fron.
DarllenwchMor frwd ei ddiainmur fron.
Y mae yn ddrwg iawn gennyf dros gyfieithwr Kettlewell, o herwydd myfi ac yntau a gymer- asom boen fawr i'w daclu i'r wasg. Efe a'i ysgrifenodd deirgwaith drosodd. Ac y mae iddo ugain punt am ei gyfieithu, a adawyd gan wr boneddig yn ei lythyr cymyn. Gwnewch eich goreu, da chwithau, o'i blaid. Gadewch im gael clywed oddi wrthych, nid ym mhen dwy flynedd neu ddau fis, ond ym mhen y pymthegnos o leiaf, o bydd modd. Duw a'ch gwarchadwo chwi a'r eiddoch.
Eich ffyddlonaf a'ch caredicaf gyfaillt,
EVAN EVANS.
Nodiadau
golygu- ↑ Mr. Rhisiart Morys