Poen mewn Pen Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Englyn i'r Drindod

XVI. DUW.

Duw, un a thri, dawn iaith rhydd,
Duw tri ag un tragywydd,
Duw ar ddiwedd fy ngweddi,
Duw, dod dy drugaredd di—
Yna y'th elwir yn unawr,
Duw dialedd a mawredd mawr.
Wedi'r loes ar groes y grog,
Duw tragwrol trugarog,
Duw yn dad, dewin didwyll,
Duw, Fab Duw, ysbryd pob pwyll.
I Lan Beblig yleni,
Yno y'th roed yn un a thrt,
Yn Drindawd undawd iawnder,
I uchel swydd uwch law'r ser;
Yn Dad, yn Fab, yn Aberth,
Yn Ysbryd cadernid certh;
Peblig ddiddig, dy addas,
Pardwn ar bob grwn, a gras;
Duw a'th ddug, di-addug don,
Yng ngwl at i angylion;
Tithau a ddygaist, wyt doethaf,
Fyw fy mledd, atad, fy Naf;
Yn Dad, yn Frenin cadarn,
Yn Fab, Ysbryd, yn Farn.
Delwau uwch o aur dilin
Dewr dy law, Duw ar dy lin,
A'i grys o waed, a'i groes wiw,
Dyhuddwr pawb, Duw. heddyw.
G'leuni gwawd Ysbryd Glan gwyn,
Deirid ar lun aderyn;
Pedwar ryw pren, maen nefawl,
Yn dy groes, un Duw grasawl;

Syres, sedrws, sypressws prisiaw
Palma olifia draw.

Naw angel hwynt a welir,
Gyda thi ar goed a thir.
Un o bob gradd yn addef
Rhwydd iach o raddau nef;
Pedwar cant, pum mil gwyliwn,
Un Duw, ar dy gorff yn dwn;
A phymtheg ychwaneg yng nghor
Rwygaw a thrugain ragor.
Dy ladd o fodd yn goddef,
Dy nawdd, un Mab Duw nef;
Dywaid, a roist dros wyr,
Dy orhoen oll, Duw Eryr!
Brenin wyd, bwriwyd mewn bedd,
Bron hynod, mewn brenhinedd.
Aroglaidd teg, Arglwydd, wyt ti,
Er gwleddau i arglwyddi;
Nid hendad wyd i'th gadair,
Ond Duw Fab, yn Fab i Fair.
Un oed yw'r Ysbryd iawnaf,
Dy nawdd ydyw Duw Naf;
Yn un Duw, yn iawn ddeall
Yn dri ag un, pen cyn call;
Drych haul fal y drych hoew-len,
Sylldy byd sy uwch dy ben;
Un yw'r haul leuer hoew-lyw
I ti, iach un a thri yw.
Felly'r wyd, Duw proffwydi,
Yn iaith Roeg, yn un a thri;
Dygaist a'th groes, bum oes byd.
A phoen uffern, a phenyd.
Ymherodr wyd y moroedd,
Awyr a thir o'th wyrth oedd.
Tydi a wnaeth, Mab maeth Mair,
Iawn gost popeth o un-gair;

Duw-sul y gwnaethost di son,
Yng ngwyl nef ag angylion;
Duw-llun, daear i aros,
Dro nawdd, a dwr y nos;
Diffrost Mawrth mewn diffridd,
Do, lysiau, prennau o'r pridd ;
Duw Mercher, ffêr i werin,
Do, haul. Do,-leuad, a hin;
Da ydoedd, Difiau adar,
A gwyllt anifeiliaid a gwâr;
Duw Gwener, Ner union,
Adda ag Efa gyfion;
Duw Sadwrn eur-dwrn irdaith,
Duw, y gorffennaist dy waith;
Daith ufudd doeth i ofeg,
Taranau tyrnau teg;
Yntau a wnaethost, y Tad,
Dwyn llewych dan y lleuad.
A bod i mi mewn byd mau
Dafod o ddur-iawn ddifai,
Hyd dydd barn, pe bai arnaf,
Ben pres, nes cyffes nis caf,
Ni dderfydd i brydydd brau,
Diwarth ddatgan dy wyrthiau;
Tra garawl wyt, tra gwrawl,
Trugaredd, dod, hynod hawi,
I'n ddigel, fy Nuw Geli,
Yn awr angeu, maddeu i mi.


Nodiadau

golygu