Gwaith Iolo Goch/I erchi March Ithel ab Rhotpert
← Englyn ar Feddfaen Dafydd ab Gwilym | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Pedwar Mab Tudur Llwyd → |
XXXVI. I ERCHI MARCH ITHEL AP RHOTPERT.
RHO Duw mawr y march blawr-blwng—
Mall yr wyd yn ymollwng;
Teg gwrser, tew a garsyth,
Oeddit, tost na byddit byth.
Gyrfäydd goreu fuost,
I'th ol dyhir im, a thost;
Gweled yn wag lle y'th fagwyd,
A bod dy breseb heb fwyd;
Beth a wnaf danaf i'm dwyn
Am orwyddfarch mawr addfwyn?
Gorddig gan gleiriach gerdded,
Heb gael gorffwys heb ged;
Heb farch im onis archwn
I bwy is Conwy nis gwn.
Rho gyngor it rhag angen,
Myned at Ithael hael hen,
Ap Rotpert, fab pert yw'r por,
Ion Archddiagon ddeugor.
Dogn waith, da gan Ithael
Cadw cylch ag ef cyd cael
Nid rhaid i ti ni ddiylch
Nac oedi car, neu gadw cylch,
Nac erfyniaid cyfriaid cu,
Nag erchi, ond i gyrchu;
Ti a gei eddestr teg iawn
Ganthaw a'i wenllaw winllawn.
Bu gwir na bu debyg ef,
Benaig eglwys ban giglef
Marw fy march mawr fu i mi,
O gyllaeth wedi i golli.
Anfon anwylion yn ôl,
Syberw fu ddewis ebol,
A hebrwng eddestr blwng blawr,
Cain addfwyn teg cynyddfawr,
Carn geugraff, mewn rhaff yn rhwym,
Buan-rydd ffurf i ben-rwym.
Brondor pe's prynai Ior Iorc,
Dirmyg oedd arno deirmorc.
Nid hwn yw'r march blaen-barch blawr,
Ffroen foll, olwyngarn, ffrwynfawr.
Cyntaf bardd fyddaf iddaw,
Ag ola im gael o'i law.
Llyma'r maes, a llyma'r march,
Gwedi cael gafael gyfarch.
Pa dda im dirym dyrrwyf?—
Profi i ddofi ydd wyf;
Pa funud ehud eofn
Ar i gefn yr âf rhag ofn;
Rhag disgynfaen, chwaen chwimwth.
Trwm fyd dyn crwm, fal dwyn crwth.
Ni thrig eithr ar ogwydd,
I'w gyfrwy mwy nag wy gwydd,
Rhaid im ochel bugelydd
A'i gorchymyn yn syn sydd;
Ar y ffordd orhoff y ffo,
Rhybuddied rhai a'i beiddio;
O bell rhag dywedyd bw,
Gair hynod, garw yw hwnnw;
Rhaid yw im ochel Melin
Henllan, gwrach gronglwydwan grin
Hi a'i chlep fal hwch lipa,
Is y ffordd yn ysu ffa;
A'i chafn gan aeafnos,
A'i ffordd garregog a'i ffos;
Rhaid ymoglyd Rhyd Maglau,
Glyn Meirchion a'r goed-fron gau;
Ffordd enbyd ar ffair Ddinbych,
Aml draenllwyn a gwrysglwyn-gwrych;
Rhaid ofn y geuffordd ddofn ddwys,
A'i chraig-lethr uwch yr Eglwys;
Bo a fo yn aflym wyf,
Ai syrthio ai na syrthiwyf.
Llwyr fendith Duw, llorf iawndeg,
I'r gwr a'i rhoes, goreu rheg;
Uchelwyl hwyl hael Uchdryd,
Uchel-grair yw byw mewn byd;
Llugorn y bwyll a'i llogell,
Llygad y Berfeddwlad bell;
Dy' gwyl mabsant, holl Degeing1,
Digel glod, angel gwlad Eingl,
Rhagor wr mawr, rhag ereill,
Y sydd arnaw, gerllaw'r lleill.
Llawenach lliw i wyneb,
Yw ef a haelach na neb;
Parabl resonabl rhyw sant,
Cywirdeb fal cywair-dant;
Ffrwyth hyd yr unlliw winlliw,
A phryd archangel a'i ffriw.
Fy nhadmaeth ehelaeth hael
Weithian i mi yw Ithael,
A'm cefn ydyw, a'm cyfaillt,
Amau o beth a'm mab aillt.
Ardreth di-chwith gan Ithael
Y sydd yn gyflym i'w gael,
Pensiwn balch gwalch gwehelyth,
Diwallu cleirch ar feirch fyth,
A chael ar bob uchelwyl
Anrheg a gwahodd hawddhwyl;
Teilwng-gorff tawel angerdd,
Talm a'i gwyr da-tâl am gerdd;
Talu arian a rhudd-aur,
Marchog wyf, a meirch ac aur;
A'i fwyd a'i lyn ar i ford,
Wyr Ricart, wi o record.
Duw i'w adael, dywedwn,
Poed dir bywyd hir i hwn.