Gwaith Iolo Goch/Iolo Goch

Gwaith Iolo Goch Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Cynhwysiad
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Gwaith Iolo Goch (testun cyfansawdd)

IOLO GOCH.



 AB oedd Iolo Goch i Ithel Goch ab Cynwrig o Lechryd yn y sir elwir yn awr yn sir Ddinbych. Yn 1334 yn ol "Archwiliad Dinbych," cawn fod Ithel Goch yn perthyn i wely Goronwy Fychan—ac y rhennid Llechryd yn dri gwely. Hefyd cawn ei fod yn talu chwe swllt ac wyth geiniog o rent am "ran o dir Iocyn Bach," oedd wedi ei golli i'r arglwydd oherwydd "diffyg ardreth a diffyg ebediw." Ei fam oedd Marged, gorwyres i Ednyfed Fychan. Nid oes rith o le i gredu nodiad Gruffudd Hiraethog—os efe ysgrifennodd y nodyn ar yr achres—taw "fferod wraig Iarll Lincoln" oedd ei fam. Rhoddir dau Iolo Goch ar yr achres hon. I'r ail Iolo, mab y iarlles, y mae plant. Ni roddir disgynyddion i Iolo y bardd ar yr un achres. Hefyd efe oedd yr hynaf o blant Ithel yn ol yr achresi; gesyd Gruffudd Iolo yn fab hynaf, a Iolo mab y iarlles yn bedwerydd. Y mae y ffaith fod Iolo yn hawlio. perthynas a disgynyddion ereill Ednyfed. Fychan yn brawf ychwanegol i ameu dilysrwydd chwedl Gruffudd Hiraethog.

Os Iolo ysgrifennodd farwnad Syr Rhys. Wgan, y mae lle i gredu y bu ym mrwydr Cressi, felly ganed y bardd tua 1326. Cafodd ei addysg, yn ol pob tebyg, ym Mynachlog Llan Egwestl. Yno gydag ef yr oedd ei gâr Ithel ap Rhotpert, gwedi hynny Archddiacon Ysceifiog; ac efallai eu bod hwy a Ieuan Trefor, Esgob Llan Elwy (1395-1410), уп gyd-ddisgyblion. Hwyrach, hefyd, mai Ieuan Trefor arall oedd. yr abad (1335-1357) y gwelodd Iolo y dadeni adeiladwaith gymerodd le yn y Fynachlog yn ei amser. Ni wyddom pwy oedd athro y bechgyn, yr unig beth ddywed Iolo yw ei fod "o'r un llwyth, o Ronwy Llwyd." Dywed traddodiad fod Iolo wedi graddio yn y ddwy gyfraith, ac y galwyd ef Iolo Goch oherwydd y byddai'n gwisgo cochl coch doethawr. Anhawdd derbyn hyn, y mae mwy o le i gredu y gelwyd ef yn goch am yr un achos ag yr oedd ei dad Ithel yn goch. Er nad oes gennym brofion o'r traddodiad hwn, yn ddiameu yr oedd Iolo yn wr hyddysg, yn enwedig yn llên Cymru. Er ei gywyddau serch, tybed a oedd wedi derbyn un o urddau isaf y myneich gwyn? Pe caem hyd i gof-restri Llan Egwestl medrem egluro llawer i ddyrys beth.

Sonia am dri athro iddo mewn barddoniaeth. Y cyntaf oedd Ednyfed ap Gruffudd, ac o dan ei addysg ef enillodd addurn cadair, yn yr olaf o'r Eisteddfodau Dadeni a gynhaliwyd tua 1356, am ei "wybodau parth Cerdd Dafod"— os cywir yw nodiad Iolo Morgannwg. Geilw Ithel Ddu yn drydydd athro; ond i Lywelyn Goch y dyry ef y parch mwyaf, ac y mae ei farwnad i'r bardd hwn yn deyrnged odidog.

Y mae Iolo Goch yn un o feirdd uchaf a mwyaf ei oes yng ngorllewin Ewrob. Gwelir, yn enwedig yn ei gywyddau serch, ddylanwad Dafydd ab Gwilym. Ond yr oedd iddo neges ddyfnach a mwy grymus nag eiddo Eos Dyfed. Cymer ran yng ngwrthdystiad ei oes yn erbyn coegni a rhagrith yr urddau cardod. Gwelwn hefyd fod iddo argyhoeddiadau crefyddol dyfnion, a dyry i ni fynegiant uchel o grefydd y Canol Oesau ar ei goreu. Yr oedd ymhell o flaen ei oes yn ei gyd-ymdeimlad â'i gyd-ddyn, ac y mae ei Gywydd i'r Llafurwr a neges byw i ni heddyw. Yn wir y mae y cywydd hwn yn ddihafal o'i fath, hyd y ganrif olaf.

Gwir taw fel bardd Owen Glyndŵr y câ'r sylw mwyaf. Y mae yr agwedd genedlaethol yn fwy grymus heddyw nag y bu erioed. Cawn yn ei gywyddau gân gwawr deffroad cenedlaethol i ryddid—rhyddid i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun, heb i sythfryd un gelyn nag estron lethu ei datblygiad. Yr oedd yn un o broffwydi'r bore, gwelodd ffordd gywir dyrchafiad cenedl—drwy y niwl hwyrach—ond efe a welodd y llwybr, ac a annogodd Gymru i ymdeithio rhagddi. Cawn ddarluniau byw o Gymru a Chymry ar eu goreu—darluniau sydd yn anhebgorol angenrheidiol eu gwybod a'u deall, cyn y gallwn iawn amgyffred godidowgrwydd y deffroad hwn, a Chymru cyfnod Owen Glyndŵr.

Cafodd flynyddau hwy na'r addewid. Gwelodd ddifancoll ei dywysog. Yn ei alarnad ar ei ol—y cywydd olaf—cawn ef yn adgoffa y cynllunio wnaeth Owen er cael Cymru'n rhydd. Y mae acen ei ffydd yn y dyfodol yn treiddio trwy'r cywydd, uwchlaw ei hiraeth calon; gobeithia y dychwel ei dywysog ac y dwg y wlad o'i rhwym dygn yn rhydd."

Cymerais bob gofal allwn i gael y testun goreu. Y mae y cywyddau argreffir wedi eu cymharu â mwy nag un llawysgrif. Gobeithiaf nad oes lawer o wallau. Ceisiais fod mor sicr ag y gallwn parthed dilysrwydd yr awduriaeth; y mae rhai ameus i mi yma, a nodaf hynny. Bu casgliad Charles Ashton o wasanaeth mawr i mi, a phe buasai y rhai oedd a'r amser a'r cyfle iddynt mor foddlon gweithio ag y bu ef, ni fuasai cymaint o gyfoethog lenyddiaeth Cymru heb eu cyhoeddi. Yr wyf dan ddyled drom, hefyd, i'r ddiweddar Anrhydeddus Augusta Herbert o Lanofer, ac i'w mab, y Cadfridog Syr Ifor Herbert, C.B., G.C.V.O., A.S., am lawer o garedigrwydd.

T MATTHEWS.




Yr ydys yn gwybod fod llawer o'r llinellau'n feius, fel y dengys y diffyg synwyr a'r diffyg cynghanedd yn aml. Ond gwell cyhoeddi gwaith bardd Owen Glyndŵr yn awr yn y dull goreu y medrwn. Caiff rhywun ddod ag argraffiad cywirach. Darllenodd Mr. Ifor Williams y prawflenni, a rhoddodd awgrymiadau gwerthfawr, ond nid yw ef yn gyfrifol am unrhyw wallau ddigwydd fod.

Daw esboniadau llawn ar eiriau a digwyddiadau yn niwedd yr ail gyfrol o waith beirdd Owen Glyndŵr.[1]

Nodiadau

golygu
  1. Bu farw Tom Matthews ym mis Medi 1916, ychydig ar ôl gyhoeddi'r gyfrol hon. Ni chyhoeddwyd yr ail gyfrol. Mae ei nodiadau am yr ail gyfrol (gan gynnwys yr eirfa) ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol Cyf:NLW MS 8360C.]