Gwaith Iolo Goch/Marwnad Dafydd ab Gwilym

Marwnad Ithel Ddu Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Englyn ar Feddfaen Dafydd ab Gwilym
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dafydd ap Gwilym
ar Wicipedia

XXXIV. MARWNAD DAFYDD AB GWILYM.

HUDOL dwf fu hoedi Dafydd,
Hoew ddyn, pe bai hwy i ddydd!
Di-ungor awdl, da angerdd,
Ab Gwilym Gam, gwlwm y gerdd.
Lluniodd wawd wrth y llinyn—
Llyna arfer dda ar ddyn.
Gem oedd i siroedd, i swch,
A thegan gwlad a thegwch.
Mold y digrifwch, a'i modd,
Ymwared im am wiw-rodd.

Mau ddarpar, mi a'i ddirpwr
Farwnad o gariad y gwr.

Hebog merched Deheubarth,
Heb hwn, od gwn, aed yn garth.
Cynydd pob cethlydd coeth-lawn,
Canys aeth cwynofus iawn.
Tydi, gi, taw dy gywydd—
Nid da'r byd, nid hir y bydd.
Tra fu Ddafydd, gelfydd gân
Ydd oeddid barchus ddiddan;
Ac ni bydd o herwydd hyn,
Gwedi ef, gwiw dy ofyn;
Bwrier a weuer o wawd,
A'i deuflaen ar i daflawd.
Ethyw pensel yr ieithoedd—
Eithr pe byw, athro pawb oedd.
Uthr fy nghwyn, o frwyn fraw,
Athron-ddysg oedd uthr ynddaw.
A theuluwr serch i ferch fu,
A thelyn llys a theulu,
A thrysorer clêr a'u clod,
A thryfer bywyd, a'i thrafod.

A thruan—heb athrywyn,
A thraha oedd, fu difa'r dyn,
A thrawst beirdd, a thrist yw byd,
A thrachefn na thrachyfyd.
Athro grym, glewlym gloew-lef,
A theyrn oedd.—AETH I'R NEF.


Nodiadau

golygu