Gwaith Iolo Goch/Owen ab Gruffydd o Lan Tawy
← Araeth o Fendith ar Lys Hywel Cyffin | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
→ |
XLVII. I OWEN AB GRUFFUDD AB OWEN
O LAN TAWY, I OFYN MARCH.
ARGLWYDD pellenigrwydd parch,
Owain wayw, blaenfain blin-farch:
Balch-fab Gruffudd, ni bydd ball,
Baun aur fab Owain arall ;
Gerdd o hydr gwraidd hoew-drafn,
Gethin loew, gynhefin lafn,
Mur un-blaid, mawr ewyn-blas,
Macwy o lan Tawy las;
Tirion-walch cadarn walch cain,
Twr naw-osgl teyrn Owain.
Tew-faedd gwyllt, etifedd gwrdd,
Twrn gwynfyd teyrn gwin-fwrdd.
Mae i'm bryd o loew-bryd lwybr,
Yn niwedd an Ion ewybr.
Gwn y caf, blaen-rwyddaf blanc,
Gan Owain eur-gnyw ieuanc.
March ar ol i bedoli,
Mawr i naid yn fy marn i;
Brysiwr tir, gwelir mai gwrdd,
Braisg i egwyd, brwysg agwrdd;
Ffraeth gynnor, gyrchwr gorchest,
A ffroen rôth mewn ffrwyn, a rest;
Llydan dal drud, arial draidd,
Llygad-rwth, a lliw gwydraidd ;
Llid o llithr, llew du llathraid,
Llawfron arth, nid llwfr i naid;
Mawr neidiau uwch clwydau cledr,
March dihafarch, du hyfedr;
A ffrom oedd osod i'w ffriw,
Ffrwyn wan-lledr, ffroen ewyn-lliw;
Crair llathr, gwyllt sathr 'rhyd gwellt-saig
A chryf ar dor allt a chraig;
A chawr gwrdd, a châr gerdded,
A chynt na'r rhwydd-wynt y rhéd.
Pentyrriwr march pwynt arial,
Pant da daw, pum punt a dâl;
Mygr Owain rudd-lain rwydd-lyw,
Mawr ydd â clod myrdd a'i clyw:
Mawl arab rhwydd-fab rhudd-fellt,
Mur tarian ddur tyr yn ddellt.
Rhoddaf gerdd i wr hoew-ddoeth,
Rhwydd-les câr, ion rhudd-lwys coeth,
Rhudd aur, fe wyr i rhoddi,
Rhodd mawr, ef a'i rhydd i mi;
Rhwydd olwg, rhiaidd alarch;-
Rhoed yntau i minnau'r march.
DIWEDD CYFROL I.
Daw cywyddau Owen Glyndwr, a gwaith beirdd ereiil Owen, yn yr ail gyfrol, gydag esboniadau ar eiriau.
CAERNARFON:
Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Cyf.
Swyddfa "Cymru."