Gwaith Iolo Goch/Y Llong
← Y Llafurwr | Gwaith Iolo Goch gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Ewyllys Da → |
XIII. Y LLONG.
ANHAWDD im un hawddamawr
Ar y llong, oer yw i llawr.
Cyfryw ffrwd, ceufawr y ffrost,
Carchardy uwch cwrw chwerw-dost,
A'r wâl ddu-oer awel ddig,
A'r gloew seidr oer gloesedig.
Hawddamor oerion arfoll,
I'm ion a'm cyfeillion oll;
Na bo wyll gyflo gyflong,
Hawddamawr i lawr y long.
Cerydd mawr, cur oedd i mi,
O fein-ddyn llesg fyw ynddi.
Rhocian a wnai, bai o beth,
Ar i hochr oer i hachreth.
Cost im oedd cowsty mŷr—
Castell ing, cist y llongwyr.
Cest fein-deml aml y camlyw,
Golwch Noe, golych win yw,
Hwch o rudderw, chwerw i chwys,
Henfon ddu, welwgron waelgrys;
Certwyn glo, nid cwrt iawn glân,
Carthen hwyl, cry croth anian;
Ffriw uchel, wrach fin-grach ford,
Ffroengau ystrodyr ffrwyngord;
Lled noe, llun lleuad newydd,
Llet-bai fal hen fuddai fydd;
Ergudlam wilff esgudlaid,
Ysgol anwadal i naid;
Geol waedd-greg goludd-grainc,
Cwilff rhoth, pawb a'i gwyl o Ffrainc.
Mingamai hi mewn gwymon,
Morgath a'i brath tan i bron;
Hwch a fwrw o chyfeirir,
Dorllwyth o dylwyth i dir;
Morgaseg hoewdeg hydyn,
A drosai llwyth dros y llyn;
Mwy a dål i mal na morc,
Mwys gwyrgam ym wasgar-gorc;
Caiff serthedd cyffes Arthur
Rhwng tyllfaen y maen fal mur;
A hefyd diofryd da,—
Nid af fyth i'm difetha.
I'r ddu-gest oer ar ddigoel,
Iddi hen almari moel;
Iangwraig bol yng nghrog y bu
Angor-ddwr eang oer-ddu;
Hwch dinas digwmpas gain,
Had-lestr hwyl, braen-lestr bronrain;
Llydan y slêd, graean greg,
Llamair gwys,-llo môr-gaseg;
Siared roth domled amlwg,
Sarff for megis march Syr Ffwg;
Barm dew, burm a dywallt,
Bol maen sarn blowmones hallt;
Og yn gorlyfnu eigiawn,
Ewig y môr, ogam iawn;
Llawer gwaith oer-waith oror,
Pan fai llanw gwyllt mawr-wyllt môr,
Rhoes hawddamawr hoew-wawr hael,
Eryr celmyn i'r Cilmael,
Lle'r oedd Rhys, llys ail lafar,
Ab Robert ddigwert gâr;
Yno y cawn dawn di-enig,
I wirawd aur, fragawd frig;
Yno dyhuddglo haeddglod,—
Petwn y mynnwn fy mod.