Gwaith Iolo Goch/Y tafod a roddodd sen ar Euron

Dewis ddyn y bardd Gwaith Iolo Goch

gan Iolo Goch


golygwyd gan Thomas Matthews
Y Cardiau

VIII. Y TAFOD.

A RODD SEN AR EURON.

Y DRUAN fawd lydan ledr,
Y Tafawd nid wyd hyfedr!
Pan na cheffy dy diddos,
Pa ddail a wnaid pan ddel y nos?
Na fedri, noeth ynfydrim,
I lenwi dewi er dim.
Adde'r wyd dy ddireidi
Addail tir i ddiawl wyt ti.
Awr daw it, ar dalm o'r dydd
Aml ferw yn ymleferydd;
Mwy na rhegen mewn rhagnyth
Am nith Fair, ni thawai fyth;
Aelod bochwael ddiwala,
Yn son am ferch dynion da.
"Ni thawaf," eb y tafawd,
"Ni thaw'r gwynt lle nithir gwawd."
Berw a ddwg fal mwg mawr,
O'r cylla fal berw callawr;
Drwg yn wir, gwaeth o ragor,
Yn llawn annwyd moelrhawn mor,
Pan ddel y llanw gwyllt llawn-hir,
Y sai a'i flew fel sofl ír,
A rhuo a wna a rhyw nâd,
A briw ferw a bryferad;
Yfed llyn gwerth dan berthi,
Nos a dydd yw dy naws di;
Ymddyfalu meddw foliad,
Son yn ffraeth am gwrw San Ffraed;
Hynny, myn Mair, a bair bod
Bygynad tebyg ynod;
A bloeddio fal pobl Iddew,
Mi a adwaen flaen dy flew;

Hawdd yw adnabod ar hen
Gorflewyn gwt aflawen;
Gau genau y geg anoeth,
Gael atat beth gatud boeth.
Ti a wnei, beth ni wnai neb,
Hoel gwta,-holi ac ateb.
Anredu enwir ydwyd,
Yr hudol ar i hol yr wyd.
Yn chware i delw weflgrach,
Wenhwyfar ymbilgar bach.
Dal yr wyd, gair dal roddir,
Drwy dy hun, dadl drydwy hir.
Mae'r naill beth achreth echrys,-
Ai bod brad gyfarfod brys,
Ai hunlle fodd henllwy faidd
Arnad yn haearnaidd,
Ai ymorol am Euron
Mordwy serch-mawr yw dy son.
Deffro Arch i Dduw'n diffryd
Dy ffrwyn, na fawl di i ffryd.
Doed dy gôf diota gynt,
Diodydd mêdd, da ydynt;
Dy flaen yn eurfaen oerful,
Dy fin cam daufiniog cul;
Ysbodol eisieu bedydd,
Arnad yn siarad y sydd.
Offeiriad meddw, gweddw gwyddel,
Gynt a'th fedyddiodd dan gel;
Tyfaist yng nghysgod dwyfoch,
Fal tafell o fara cell coch;
Cliciedyn yn cloi ceudawd,-
Clo pren gwern, clap brenau gwawd.
Megaist, fel y myn Magod,
Mefl o fewn, mau ofal fod;
Meistr dyfrllyd masw.drig,
Mesfrig a man yswr cig.

Perigl it y para glwyf,
Ag ellyn gynta y gallwyf
Dy dynnu, myn Duw a Deinioel,
O'r gwraidd, lafn mileinaidd moel,
Coffa di, ddaed y'm caffud.
Ni ddoem o dre, heb ddim drud.
Hanes ty, Cymro henaidd
Fal hanes troed blaengoed blaidd!
Mae 'no chwedl, mwy na chydladd,
Nes na'm lles im gael fy lladd.
Rho gyngor it rhag angen,
Rhy fenybr i'r rhaw fawn bren.

A minnau, gwir ni mynnwn,
Oerni byth i'r neb a wnn,
Er ugain morc, neu gan—muw,
Gael twyll, myn goleuad Duw.


Nodiadau

golygu