Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Bydd nos y bydoedd mawr

Darlun Mawredd y Mynyddoedd Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Lloffion o Dywysennau
gan William Thomas (Islwyn)

Lloffion o Dywysennau
Ail godir muriau Salem befr

BYDD NOS Y BYDOEDD MAWR

BYDD nos y bydoedd mawr
Fel dinas ddofn fwy ,
Pan fyddo oll yn llif o wawr
Ar ol newyddion gwiw
Am fuddugoliaeth, gorchest ucha'r oes ;
A pha wahaniaeth fydd
Rhwng canol nos a dydd
Yn swn anthemau ffydd
Dan y groes?

Draw amgylchyna'r ser
Y nos fel seirian gaer,
A thrwy eu pyrth y Wynfa der
Arllwysa 'i hodlau aur
Fel dyfroedd o beroriaeth ar y môr;
A chwyd y lloer yn awr
Fel enaid llon y Wawr
Yng nghanol anthem fawr
Engyl lor.

Ail wneir y greadigaeth der
Yn adail bur o wawr, anfeidrol hyd,
Lle bydd y lampau oll yn ser,
A phob rhyw faen yn fyd;
Hawddgared breswyl i roesawu Duw,
Pan, gyda'i osgordd faith,
Y delo ar ei daith,
I wenu ar ei waith
Heuliau byw.

Tragwyddol Hedd yn awr
Lwyr amgylchyna'r byd,
Fel un ffurfafen fawr,
A ser Duw ynddi i gyd ;

Ac anian ledir fel un deml o wawl
A'i phorthor-Haul bob borau
Fry egyr ei rhagddorau
I fyrddiwn o allorau
Oleuo'r nef â mawl.

A Chariad gasgla 'nghyd
Y bydoedd am ei fraich,
A thrwy ei awyr nofia'r byd
Fel seren lon ddi-faich;
A'i fryniog lwyth orffwysa ar ei fron
Yn ysgafn fel y gwawl,
Tra chwydda o bawl i bawl
Anfeidrol anthem fawl
Fel byd-orchuddiawl don.

Disgynna'r saint i lawr
Hyd ysgol fawr y ser,
A chwmwl tanbaid wawr
Yn huddo o gylch eu henaid ter,
I bêr fyfyrio ennyd ar eu bedd,
A meddwl am yr awr,
Pan yn y glyn di-wawr
Dadienna'r Duwdod mawr
Haul ei wedd.

Pan am-oleuir eigion du y bedd
A nef o farnol dân,
I dderbyn i'w ddyfnderoedd erfawr sedd
Pryniawdwr bywyd a'i osgorddion glân;
A phan y troir yr angeuol byrth
Yn wawl-bileri mawr
I'r engyl yn eu gwawr,
Fyrdd myrddiwn, dremio i lawr,
Ar y wyrth,—


Ffydd, gobaith, cariad o balasau'r nef
Ddisgynnant gyda llif o seraff-gorau,
A chyd-amgylchant y ddaearen gref
Fel cadwyn aur-ddolenog o dymhoral,
A llaw Jehova yn eu harwain trwy
Ffurfafen amser cun ;
A daw y Nef ei hun
I drigo gyda dyn
Oesoedd mwy.

A'r temlau fel mynyddoedd gwawl ymgodant,
A'r nef addola ar eu tyrau mwy,
Ac yn eu cysgod broydd fil a folant,
A'r nefoedd wleddir a'u harogldarth hwy;
A'u cysgod pell croesawa'r nefoedd rhudd
Yn fwy na breiniol awr
Yr wybren danbaid wawr
Pan lanwo'r huan mawr
Bel y dydd.

"Barn! Barn!" Y floedd ysgydua'r ddaear
fawr
Yn dryblith o ystormydd a tharanau,
Ac wybren ar ol wybren dreigl i lawr
Fel cysgodfaoedd crin o'u beilchion fannau;
A'r Oesoedd ddont o'u dyfnder erchyll wawr
I daflu eu meirw ynghyd
Ar draeth y dwyfol fyd,
Ac i'w hogofau pyd
Ffoi i lawr.

Nodiadau golygu