Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Cariad

Adgof Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Pa le y maent

CARIAD

PWY ALL GUDDIO EI WRTHRYCH?

AH! Pwy all guddio'i wrthrych? Pwy all daflu
Nos anghof drosto, a'i dragwyddol lennu?
Nid Amser; er fod oesau ar ol oesau
Yn syrthio oddiar ei lwydion fronnau,
Yn nhrymgwsg anghof, lawr i fro diddymdra,
Heb yma ddeigryn ar eu hol, nac adsain wan i'w coffa.

Trwy entrych mawr y meddwl ar bob llaw
Adgofion filiwn godant fel y ser
Ar uchelfeydd y nos, mil yma, miliwn draw,
Ac y mae Cariad, yn eu goleu ter,
Yn syllu ar ei wrthrych yn—y Bedd,
Ac nid oes ael ynghlo na chwmwl ar y wedd.

Pwy all ei guddio? Nid oes fedd i ti,
Cymylau'r glyn agorant ar bob tu ;
A serch oleua ei ganwyll yn y bedd. -
O mae yn anwyl fyth, a phrydferth yw y wedd,
Rhy brydferth i'w hanghofio.
Mae rhai yn claddu eu meirw i anghof mwy,
O nid yw Cariad yn eu hangladd hwy.

Nodiadau

golygu