Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Fel y môr tua'r lan

Ar ben y mynyddoedd Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Pwy all edrych, Gymru

FEL Y MOR TUA'R LAN

FEL y môr tua'r lan, fro hawddgar fy nhadau,
Y chwydda fy nghalon tuag atat ei llanw 'o
aiddgar deimladau.

O froydd fy nhadau, mae'r geiriau yn taflu
Y galon i'r llaw, a'r ysgrifell bron gwaedu
Ei geiriau ar bur dudalennau yr awen
Fod neb yn dirmygu ei balm froydd addien;
Ah! Deffry yr enw adgofion fil miloedd,
A mawrwych weithredion o feddau yr oesoedd.

Clyw adsain ryfelgar y gad ar ei bryniau
Yn chwyddo i lawr ar awelon yr oesau.
Pan fyddai y gelyn yn duo ei glynnoedd,
Ac anadl rhyfel o fewn ei dyffrynnoedd,
Fe welid ei lluoedd, fel gwaedlyd ystormydd,
Yn rhuthro o'i bryniau, yn dysgub ei broydd.
Mor llawen y gwaedent ar allor eu gwlad,
Y plannent eu baner ar ddrylliau y gad;
Nid rhwyddach y llif ar yr afon o'r bryn
Na'r gwaed cyfoethocaf o'r galon bryd hyn;
Fe blygai ei broydd dan sang y gormeswr,
A'i blodau a wywent ar fedd y gorthrymwr.

Ai mawredd amgaeru dy wlad â chleddyfau,
A chodi y cleddyf i wyneb yr oesau;
A chynnal y gwyldân ar fil o fynyddoedd,
A'u gwawr yn goleuo pellderoedd y moroedd;
A medi tyrfaoedd fel rhuddgae o yd
Dan waedwawr grymanau y rhyfel a'i lid,—
Fy Nghymru! Ai dyma y pennaf fawreddau?

Canfyddaf yr oesoedd rhyfelgar eu gweddau
Mewn mantell o waed yn codi o'u beddau,
Gan estyn o'u dwylaw rhychedig i ti
Y rhuddwawr goronau, a phalmwydd y bri,—

"Fe ruthrai dy gadfeirch trwy rydiau o waed,
Ac arfau y meirw yn darstain dan draed ;
A buan y rhoddid y gelyn ar ffo
Pan ruthrai dy ryfel fel corwynt o waed drwy dy fro."

Pan gollai'r dieithr ar ei daith
Ei lwybyr ar y bryniau,
A'r storm yn taflu dros y nef
Holl blygion ei chysgodau,
Pan ar y graig ystormus fan
Ei ben gogwyddai i farw,
Adwaenid ei ochenaid wan
Yn rhu y dymestl arw;
A gwelid dôr rhyw fwthyn gwyn
Yn agor draw ar ael y bryn.

Anturiai y bythynwr tlawd,
A'i lusern ar y nos yn gwawrio;
Anturiai i'r ystorom fawr
A'i wisg fel cawod lif am dano;
A dygai'r teithiwr yn ei law
I'w fwthyn ar y llethr draw.
O, gallech deithio gwledydd fil
Heb gwrdd a charedicach hil.

Ond gwae a gyffyrddai â'i baner yn awr,
Gwae'r cleddyf a dynnid i ruddo ei gwawr.

Fe grynnai y ddaear â garmau Brythoniaid,
A chwyddai'r afonydd â gwaed y gwroniaid,

Arfogwch! Arfogwch! Mae broydd eich tadau
Yn wylo dan sangiad y gelyn a'i gadau;
Tros lethrau'r mynyddoedd cydruthrwch i lawr,
Fel engur lifogydd ystormus eu gwawr;
Gadawer yr aradr i lynu'n y ddaear,
Mil miloedd o ddwylaw, cydgodant y faniar;
A rhyded y cryman tan adfail yr yd,
Hiliogaeth y dewrion, arfogwch i gyd!

Ah! Dof yw y storm pan ysgydwa y bryniau,
Pan blyga y nefoedd ynghyd yn ei breichiau,
Yn ymyl digofaint a llid y Brythoniaid
Wrth ruddo y ddaear â gwaed yr estroniaid.

A byth ni chysylltid dy feibion yn gadau
Mewn balchder a gorfyn, fro hawddgar fy nhadau;
Gwaed Rhyddid yn unig a ruddai dy goron,
A chysgod uchelfryd ni dduai dy galon;
Un llaw allai ag r dy lifddor deimladau,
A chyffro dy ryfel—dy lid agoriadau,
Llaw Rhyddid yn unig, fro hawddgar fy nhadau.


Fe gauir y storom
I mewn rhwng y bryniau,
Cadwynir yr awel
Am gaerau y gorwel,
Os delir dydi
Mewn rhwyd o gadwynau.

Nodiadau

golygu