Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Gwel, Uwchlaw Cymylau Amser

Mae deigryn ar y rhosyn hardd Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Anadla'r Gwanwyn

GWEL, UWCHLAW CYMYLAU AMSER

GWEL, uwchlaw cymylau amser,
O fy enaid, gwel y tir;
Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir;
Hapus dyrfa,
Sydd yn nofio yn ei hedd.

Gwel a chred. Mae yna drigfan,
Oes, a choron deg, i ti ;
Golud hon ni threulir allan,
Gwel a chais ei golud hi ;
A deilyngwyd
Yn yr ardd drwy iawnol chwys.

Ynddi tardd ffynhonnau bywyd,
Trwyddi rhed afonydd hedd
I ddyfrhau ei broydd hyfryd,
Ac i anfarwoli 'i gwedd ;
Iachawdwriaeth
Ar ei glan anadlir mwy.

Saethau'r bedd nid allant esgyn
I'w hagosaf dalaeth hi;
Ac ni faidd y marwol elyn
Sangu ar ei rhandir fry;
Angau yno?
Cartref anfarwoldeb yw.

Troir awelon glyn marwolaeth
Oll yn hedd tu yma i'r fan,
Try holl ocheneidiau hiraeth
Yn anthemau ar y lan ;
Syrth y deigryn
Olaf i'r Iorddonen ddu.


Nid oes yno neb yn wylo,
Yno nid oes neb yn brudd,
Troir yn fel y wermod[1] yno,
Yno rhoir y caeth yn rhydd ;
Hapus dyrfa
Sydd a'u trigfa yno mwy.

Iachawdwriaeth ar ei hawel
Lif, a nefoedd o fwynhad ;
Mae ei hanthem fyth yn uchel,
A'i thrysorau fyth yn rhad;
A'i gogoniant
Yn disgleirio fel yr haul.

Mae fy nghalon brudd yn llamu
O orfoledd dan fy mron,—
Yn y gobaith am feddiannu
'R etifeddiaeth ddwyfol hon;
Hapus dyrfa,
Sydd a'u hwyneb tua'r wlad.

Nodiadau golygu

  1. "Bustl" yw'r gair yn llawysgrif Islwyn sydd ger ty mron. Pryd bynnag y byddai yn adolygu ac yn cywiro ei waith, hyd yr wyf wedi sylwi, newidiai "bustl" yn wermod. Am hynny gwneir y cyfnewidiad yma hefyd.