Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Hir, hir

I gyfeilles hoff Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Y Croeshoeliad

HIR, HIR.

Hir, hir
Y mae un arall yn gohirio o gylch
Dy fechan fechan annedd, fel pe bai
Yn disgwyl clywed cyffro o'i mewn, neu lais
Yn son am adgyfodiad, balmaidd son
Am ail gyfarfod.

Ust! Nid yw y bedd,
Sy'n gofyn ac yn gofyn, nid yw ef
Yn ateb un gofyniad.
Eto hyfryd yw
Adgofio'r hyn a fu, na ddaw drachefn,
Na ddichon eto ddyfod. Pan ymhell
Ar gefnfor bywyd, hyfryd tremio 'n ol
Ar lawer ynys deg, y buwyd gynt
Yn canu ar ei glannau fel pe buasai
Ein troed ar dir paradwys.

Gwrando, ddyn!
Nid byd i ganu ydyw hwn, nid bywyd
I fod mor ddedwydd nes anrheithio'r nef
O'i dymunoldeb a'i hawddgarwch. Pwy
Ddymunai Nef, a gado ei anwylion,
Ac yntau'n ddedwydd yma ? Cartre i'r blin,
A noddfa rhag ystormydd yw y nef;
A dyna hanner ei nefoldeb hi,
Ei bod yn ddiwedd ar ofidiau bywyd.

O hapus awr a'n ca
Ymhell ym mroydd gwynfyd, yn rhy bell
I farw mwy, tra glannau duon amser
Yn gwywo o'n gwydd, a'r dymhestl olaf, olaf
Yn marw ar draeth y bedd.

Nodiadau

golygu