Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Mae gan y nos ei gwersi ter
← Ar lanw o adgofion | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Morgan Howel → |
MAE GAN Y NOS EI GWERSI TER
MAE gan y nos ei gwersi ter,
Aml fel y ser,
Ei chronfa o heuliau.
Y ser, beth ydynt? Bydoedd fry.
Ie, bydoedd i'r angylion. Ond i ni,
Gweinion lusernau.
A ydwyt fawr? Mae truan wrth dy ddôr,
Ymostwng, dyro iddo ran o'th stôr ;
Na fydd rhy fawr. Mae'r bydoedd mwyaf fry
Trwy'r oesau'n cael eu galw yn lampau gennym ni,
A boddlawn ydynt, a thrwy ffenestri 'r nen,
Ar syml wiriondeb dyn gwenant uwchben.