Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Nis gall y fflam

Fel o'r blaen Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Ystorm ar y Bryniau
gan William Thomas (Islwyn)

Ystorm ar y Bryniau
Ai gwir y cwyd

NIS GALL Y FFLAM

NIS gall y fflam eu difa hwy
A brynwyd ar y pren,
A thros y rhai gogwyddodd Ior
Ar fron o waed ei ben.

Fe ddaw hyd at dy rwymau, sant,
Fe lysg dy garchar pridd
Lawr hyd y bedd, ti lami i'r lan
O'r fflam yn angel rhydd.

Fe all y moroedd lanw'r nef
A'r bryniau lanw'r môr;
Ymblygai 'r wig ei hun yn arch
I ufuddolion Ior.

Dyferodd dafn brwd o'i waed
I'r ddaear, crynnodd hon
Fel pe buasai planed fawr
Yn taro i mewn i'w bron;
A chrynnodd nes i'r marw blin
Ddeffroi yn nyfnder angau 'i hun.


Dring! Dring, bererin. Y mae llwybr fry
Hyd lethrau adfyd, uchel lwybr i ti
Osgoi a rhagod ei dyfnderoedd hi.
Mae Ior yn d' arwain hyd ei hymyl hi
Mewn llawer cwmwl ac ystorom ddu;
A'th droed ar riw y brofedigaeth serth,
Bron llithro i lawr i'r dyfnder tanllyd certh,
A chwmwl maith anobaith yn melltennu,
Ac yn ei wawr dy fedd yn ymddadlennu.
Mwy nid oes berygl. Ior sydd yn dy arwain!
Ust! A oes bedd neu uffern dan Ei adain ?

Nodiadau

golygu