Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/O Natur

Blodeuyn Adgof Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Nefol Wlad
gan William Thomas (Islwyn)

Nefol Wlad
Daeth y prudd

—————————————

IV. NEFOL WLAD

—————————————

O NATUR

NATUR! Mae y meddwl ieuanc tirf
Yn ymffurfeiddio ynnot, ac yn cael
Arweddau nerth a chylch y mewnol fyd
Yn fore o dy olygfaoedd di.
Edrycha y mynyddoedd pell i lawr,
Flynyddau bore bywyd, oddiar
Aml gaer o niwl a chwmwl, yn eu rhwysg
A'u garwaf odidawgrwydd, oddi fry
Edrychant ar yr enaid nes argraffu
Y mawrion niwliog amlinellau fydd
Yn gofyn tragwyddoldeb oll, a Duw,
I'w llanw a'u hamledu. Ddedwydd ddyn,
A gadd ei hunan gyntaf rhwng y bryniau,
Yn dechreu ffurfio ei dragwyddol rhwng
Rhyw fawrwych ymddangosiad o bob nerth,
Pob mawreddogrwydd, amgylch ogylch hyd
Y nefoedd yn ymgodi ac yn gruddfan
Oll tua'u bannau am y ser a Duw.
Yr enaid llyfn, daiarol, a digynnwrf,
Cyn llwyr ymsoddi i'r daearol, doed
Edryched ar y creigiau a'r mynyddoedd.
Nis gwyddom, eto mae yr enaid ir
Yn plygu ei gynheddfau tirfion hyd
Fryn-gaerau Natur ar ryw feiddgar ddring
Gan ymafaelyd yn y mawr a'r pell.
O ddedwydd, gafodd edrych arnynt hwy
Yn codi yn eu mawryd, nes eu cael
Yn der gan feddwl, yn ddi-gaer agored
I negeswriaeth y meddyliol fyd
A bore ymddiddanion dyn a'i Dduw,

Meddiannant hwy ddylanwad a llywodraeth
Fel holl genhadau lor.
Nid ofer oedd
Apwyntio y breswylfa ar ael y bryn,
Lle'r oedd y cyntaf peth a welai 'r llanc
Yn uchel ac yn enbyd ac yn fawr,
Ymhell uwchlaw y byd. Aml for o niwl
A welai yn ymlanw ar y gwynt,
Rhyw awyr draeth symudol. Ac ni chaed
Ond meinion uchelderau'r byd mewn golwg
Yn pwyntio i'r anfeidrol. Rhaid oedd troi
Ei lygaid ar y nef, a dechreu darllen
Ei haraul ysgrythyrau hi.
Aml awr
O ddyfnder maith y nos gipiasai ef
I wrando ar y dymest1 fawr yn disgyn
O'r nefoedd ar y bryniau, nes rhyddhau
Mewn-foroedd natur, adnewyddu nerth
Aml nant luddedig ar ei garwaf daith
O graig i graig.
Mellt! Mellt! A thoent hwy
Y byd am eiliad fel ag aden Duw,
A chrynnai 'r nef, a chrynnai'r bryniau oll.
A phrin na safai 'r galon, na chyfodai
Distawrwydd bedd o gylch yr enaid tra
Disgwyliai am y daran. Fel pe bai
Cronfaoedd engyrth y tragwyddol lid
Yn ffrwydro ar y nefoedd oll ar unwaith;
Neu fel pe byddai Duw yn torri trwy
Ei holl weithredoedd, ac yn galw'r byd
A'i lais ei hun i gredu neu i farw,
Diluwiai 'r nefoedd a'i byd-foddawl dwrf.
Cyffelyb swn wna yr Anfeidrol pan
Yn galw tragwyddoldeb i ddeffroi.

Nodiadau

golygu