Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Rhagymadrodd

Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)

gan William Thomas (Islwyn)

Cynhwysiad

Rhagymadrodd.

GANWYD William Thomas (Islwyn), Ebrill 3, 1832, yn agos i bentref yr Ynys Ddu, yn nyffryn y Sirhowy,— "Hywy" ei gân,—yn sir Fynwy, Yno, wrth droed Mynydd Islwyn, y treuliodd ei oes o fyfyrio, pregethu, a golygu. Bu farw Tachwedd 20, 1878.

Y peth effeithiodd fwyaf arno oedd marw disyfyd Anne Bowen, merch ieuanc oedd wedi ei dyweddio iddo. Teimlodd y pryd hwn ei fod mewn tymhestl, a'i fywyd at drugaredd elfennau didosturi. 'Y Storm, a ffydd gryfhaol yn yr Hwn a reola bob tymhestl, fu prif destun ei gân mwy.

Saith mlynedd yn ol yr oeddwn, debygwn, yn parotoi holl waith barddonol Islwyn i'w gyhoeddi. Y mae'r gyfrol gesglais yn 872 tudalen, a thybiwn fy mod wedi cael popeth ysgrifenasai Islwyn, cyhoeddedig ac anghyhoeddedig. Ond wedi hynny darganfyddwyd ysgriflyfr mawr, lle yr ysgrifenasai Islwyn y rhan fwyaf o'i fyfyrdodau yn ystod y blynyddoedd 1854 hyd 1856,—y blynyddoedd y bu yr ystorom yn curo yn erwin arno ef ei hun. O'r llyfr hwnnw, bron yn gyfan-gwbl, y daw cynhwysiad y gyfrol hon. Nid oes yma, mi gredaf, ond rhyw bedair llinell yn unig o'r hyn sydd wedi ei argraffu eisoes yn y gyfrol "Gwaith Islwyn." Nid oes yma ychwaith ond un gân, neu ddwy, fu'n argraffedig o'r blaen. Yn yr ysgriflyfr rhydd Islwyn y darnau cyntaf,— adgofion am ei glwyf tra'i galon eto'n gwaedu, ac emynnau,—yn ddi-gyswllt. Fel rheol, rhydd y dyddiad odditanynt. Rhydd y gweddill ar 185 o dudalennau mawrion, gan rifo'r dalennau fel pe buasai'r cwbl yn gyfanwaith,—ond fod darn crwydr yn dod i mewn yma ac acw. Er hynny y mae'n amlwg mai darnau, i'w hail drefnu yn y dyfodol, yw y llyfr i gyd. Pe cawsai Islwyn fyw, rhoddasai ei holl brydyddiaeth yn un cyfanwaith, gan ei alw "Yr Ystorm" neu "Y Dymhestl."

Rhennir y gyfrol hon yn bedair rhan. Yn y rhan gyntaf ceir caueuon trallod Islwyn. Try ymysg y beddau,—

Yma mae


Fy chwaer yn gwywo, acw brawd dan len,
Ac yma un agosach im na'r ddau,
Fy hunan nid agosach. Ac O! Fan draw
Canfyddaf fedd,

ond cwyd ei olwg weithiau, a rhydd gan sydd fel adlais o gân angylion.

Yn yr ail ran dring i'r bryniau o'r ystorm a'i curasai, a gwel fawredd arddunol y dymhestl. Ystorm yn nyffryn yr Hywy, ystorm ar y môr, yr ystorm ddifwynodd Eden, ystormydd uffern, yr ystormydd gurodd ar ein Gwaredwr, yr ystormydd gurodd ar Gymru, ystorm y Diluw, ystorm y Farn,—tramwyant oll o'i flaen.

Yn y drydedd ran rhoddir lloffion,—darnau byrion na feddyliodd Islwyn am danynt wedi eu hysgrifennu, neu bigion o ryw waith anorffenedig.

Yn y bedwaredd rhoddir cyfan-waith, er nad yn hollol gyfan,—y "Nefol Wlad." Dengys effaith daearyddiaeth ar addysg. Ynddo ceir yr Iesu a'r arwr a'i dilyna, gwlad Canan a Chymru, yn toddi i'w gilydd. "Ai Islwyn yw bardd mwyaf Cymru ?" "A ddaw barddoniaeth Islwyn byth yn boblogaidd ?" Dyna ddau gwestiwn ofynnir gan ddau fath o feddwl. Ar lawer ystyr, y mae gan Islwyn hawl i sefyll fel y bardd sydd, hyd yn hyn, wedi rhoi ffurf i wirioneddau mwyaf grymus ein dyddiau ni. Onid ef yw y mwyaf beiddgar o'n beirdd? Ac eto y mae ei chwaeth bur a dyrchafedig yn ei gadw rhag ymylu ar y rhyfygus. Ymgyfuna yr addolgar a'r beiddgar yn hapus ynddo.

Onid ef yw y mwyaf gwladgarol o feirdd Cymru? Y mae gwres ei wladgarwch yn angerddol. Pan ddarlunia Ganan neu'r nefoedd, am Gymru y meddylia; ac yn aml rhydd ffrwd i'w deimlad o gariad diderfyn tuag ati. Ac eto nid oes gennym fardd gred yn fwy cryf mewn cymdeithasu â meddylwyr mawr pob gwlad, na bardd a deimla fod brawdoliaeth dynolryw yn beth mwy cysegredig a byw. Ymgyfuna y gwladgarol a'r dyngarol ynddo.

Onid Islwyn roddodd lais cliriaf, tua chanol y ganrif ddiweddaf, i'r nerthoedd hynny deimlir heddyw yn anorchfygol? Un ydyw y rhyddfrydigrwydd meddwl sy'n hiraethu am y gwir. Un arall yw ymgysegriad cenedloedd, yn enwedig cenhedloedd bychain, i waith y mae Duw wedi ei ragarfaethu iddynt. Ac un arall yw y dychwelyd at yr Iesu. A ddaw Islwyn yn boblogaidd? Y mae yn boblogaidd yn barod. Y mae meddyliau Islwyn wrth fodd darllenwyr gwerinol Cymru. Ac nid yw hyn yn beth i'w ryfeddu ato, pan gofir mai Cymru yw gwlad yr Ysgol Sul, a gwlad y pulpud grymus Cymer meddwl Islwyn feddiant eto, yn fwy llwyr, o eneidiau ei gydwladwyr; a'i ddylanwad arnynt fydd er puro, a sancteiddio, a chryfhau.

Cymwynas â Chymru yw rhoddi meddyliau Islwyn iddi Gwelir hyn fwy fwy. Y mae gofal cariadus ei chwaer am ei lawysgrifau yn haeddu ein diolch cynnes; ei diweddar briod, y Parch. D. Jenkyns, y Babell, oedd un o addysgwyr goreu Islwyn. Heb lafur a chymhellion Mr. D. Davies, Ton, ni fuasai odid ddim o waith Islwyn wedi ei gyhoeddi. Da gennyf gael cyfle i gydnabod mor ewyllysgar a medrus y rhoddodd ei wybodaeth eang a'i gymorth anhebgor at y gwaith hwn.

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn, Gor. 29, 1903.